Bryncir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
os
GP
Llinell 8: Llinell 8:


Mae llwybr Cenedlaethol [[Lôn Las Cymru]] yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adran [[Lôn Eifion]], ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.
Mae llwybr Cenedlaethol [[Lôn Las Cymru]] yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adran [[Lôn Eifion]], ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.

==Enwogion==
Magwyd y cyflwynydd teledu a radio [[Gerallt Pennant]] (g. 1960, Bangor) ym Mryncir.


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==
Llinell 14: Llinell 17:
==Dolenni allanol==
==Dolenni allanol==
* [http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/hanes/pages/mart_bryncir.shtml BBC Cymru: Hanes mart Bryncir]
* [http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/hanes/pages/mart_bryncir.shtml BBC Cymru: Hanes mart Bryncir]



{{Trefi Gwynedd}}
{{Trefi Gwynedd}}

Fersiwn yn ôl 19:40, 22 Ionawr 2010

Mae Bryncir yn bentref yn Eifionydd, Gwynedd; Cyfeirnod OS: SH 48120 44837. Saif ar y briffordd A487 rhwng Pant Glas a Dolbenmaen, gyda Garndolbenmaen ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw Afon Dwyfach.

Delwedd:Bryncir.jpg
Bryncir

Gellir gweld nifer o hynafiaethau yn yr ardal, yn cynnwys caer Rufeinig ym Mhen Llystyn, lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r 6ed ganrif gydag arysgrif mewn Lladin ac Ogam. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin Cymru, ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.

Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda canolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllaw Golan.

Mae llwybr Cenedlaethol Lôn Las Cymru yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adran Lôn Eifion, ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.

Enwogion

Magwyd y cyflwynydd teledu a radio Gerallt Pennant (g. 1960, Bangor) ym Mryncir.

Llyfryddiaeth

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO). Gw: Pen Llystyn. ISBN: 0-11-701574-1

Dolenni allanol