Cricieth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Criccieth)
Jump to navigation Jump to search
Cricieth
Criccieth beach.JPG
Math Tref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.917°N 4.2363°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000059 Edit this on Wikidata
Cod OS SH505385 Edit this on Wikidata
Cod post LL52 Edit this on Wikidata
Cod deialu 01766 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Gwefan www.criccieth.co.uk Golygu ar Wicidata

Tref hanesyddol ar arfordir deheuol Eifionydd yng Ngwynedd, gogledd Cymru, yw Cricieth (weithiau Criccieth neu Crugiaeth yn Gymraeg yn ôl rhai awdurdodau, gan gynnwys y gwasanaeth croeso, a hefyd Criccieth yn Saesneg). Yn y 14g, mewn llythyr at Hywel y Fwyall, Ceidwad y Castell, "Cruciaith" oedd yr enw a ddefnyddiwyd.[1].

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2][3]

Saif amddiffynfa trawiadol Castell Cricieth fel cawr uwch y dref. Cyfeirnod OS: SH4968838012. Saif y dref 8km (5mill) i'r gorllewin o Borthmadog, 14 km (9mill) i'r dwyrain o Bwllheli a 27 km (17mill) i'r de o Gaernarfon. Roedd ganddi boblogaeth o tua 1,826 yn 2001.[4]

Enillodd y dref wobr Cymru yn ei Blodau yn 1999. Cynhelir cystadleuaeth Y Dyn Cryfa (am godi carreg fawr o flaen y Neuadd Goffa) yn flynyddol ym mis Mehefin

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwyddom fod yma bobl yn byw'n yr ardal yn yr Oes Efydd cynnar, fel y dengys siambr gladdu Cerrig Cae Dyni i'r dwyrain o'r dref. Ceir olion cwpannau Celtaidd, sef celfyddyd gynnar ar y saith carreg, sy'n beth hynod o anghyffredin.[5] Ganganorum Promontorium (Penrhyn y Gangani) oedd enw Ptolemy ar yr ardal; llwyth Celtaidd o Iwerddon oedd y Gangani.

Oes y Tywysogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Castell Cricieth

Codwyd y castell Cymreig hwn yn 1230 gan Lywelyn ab Iorwerth a reolodd yr ardal ers 1202; ond mae'r cofnodion ysgrifenedig yn nodi mai yn 1239 y'i codwyd, pan symudwyd pencadlys Eifionydd yma o Ddolbenmaen.

Fin nos

Tyfodd tref fechan wrth droed y Castell yn yr Oesoedd Canol.

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghricieth ym 1975, ble'r enillodd Gerallt Lloyd Owen y gadair am ei awdl "Yr Afon".

Y tywydd yng Nghricieth[golygu | golygu cod y dudalen]

Hinsawdd Cricieth
Mis Ion Chw Maw Ebr Mai Meh Gor Aws Med Hyd Tac Rha Blwyddyn
Tymheredd uchaf (cyfartalog) °C (°F) 8.0
(46.4)
8.0
(46.4)
9.0
(48.2)
11.0
(51.8)
14.0
(57.2)
17.0
(62.6)
18.0
(64.4)
19.0
(66.2)
17.0
(62.6)
14.0
(57.2)
11.0
(51.8)
9.0
(48.2)
12.92
(55.25)
Tymheredd isaf (cyfartalog) °C (°F) 3.0
(37.4)
3.0
(37.4)
4.0
(39.2)
5.0
(41.0)
8.0
(46.4)
10.0
(50.0)
12.0
(53.6)
12.0
(53.6)
11.0
(51.8)
9.0
(48.2)
6.0
(42.8)
4.0
(39.2)
7.25
(45.05)
dyddodiad mm (modfeddi) 83.8
(3.299)
55.9
(2.201)
66.0
(2.598)
53.3
(2.098)
48.3
(1.902)
53.3
(2.098)
53.3
(2.098)
73.7
(2.902)
73.7
(2.902)
91.4
(3.598)
99.1
(3.902)
94.0
(3.701)
845.8
(33.299)
Source: [6]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cricieth (pob oed) (1,753)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cricieth) (1,101)
  
64.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cricieth) (1085)
  
61.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cricieth) (372)
  
46.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%
Cricieth a'r traeth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. D. R. Johnston (gol.). Gwaith Iolo Goch (Gwasg y Brifysgol, 1988), cerdd rhif II.37
  2. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Cyfrifiad 2001
  5. Gwefan Clifton Antiquarian Club; adalwyd 22/03/2012.
  6. The Weather Channel : Criccieth Weather Adalwyd 2009-08-17
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato