Neidio i'r cynnwys

Cwm-y-glo

Oddi ar Wicipedia
Cwm-y-glo
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1411°N 4.1668°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH551626 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Pentref yng Ngwynedd yw Cwm-y-glo[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ), hefyd Cwm y Glo, dwyrain o Llanrug. Saif fymryn oddi ar y briffordd A4086 gerllaw cyffordd y ffordd honno a'r A4244, yn agos at ben gogleddol Llyn Padarn, lle mae Afon Rhythallt yn gadael y llyn.

Capel Barachiah, Cwm y Glo.

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Yn ôl yr hanesydd Glenda Carr, cyfeiria'r hen enw at 'golosg' yn hytrach na'r hyn a elwir heddiw'n 'lo', gan nad yw hon yn ardal lofaol. Golosg (sercol, siarcol, côc neu tendar) yw'r defnydd du hwnnw sy’n weddill wedi i bren fudlosgi. Mae'r cyfeiriad cyntaf am dŷ o'r enw Cwm-y-glo, yn hytrach na phentref, ac efallai mai yma y llosgid y pren i greu'r golosg. Ceir lle arall cyfagos, gyda'r gair glo yn rhan o'i enw, sef 'Erw Pwll y Glo', sydd ar y ffin rhwng plwyfi Llanrug a Llanddeiniolen, yn eitha agos at gapel Nasareth. Cofnodir yr enw yma yn gyntaf yn 1597 a daw'r cyfeiriad cynharaf at Cwm-y-glo o’r flwyddyn 1770. Yn ôl Carr, roedd golosg yn hynod o bwysig yn efail y gof, gan ei fod yn creu tân arbennig o eirias.[2]

Datblygodd y pentref gyda thŵf Chwarel Dinorwig, er fod rhai adeiladau yn hŷn na'r cyfnod yma. Agorwyd nifer o siopau a busnesau bychain yma yn y blynyddoedd diwethaf. Lladdwyd pum person mewn damwain yno yn 1869, pan ffrwydrodd dwy wagenaid o olew Nitro-glycerine oedd ar eu ffordd i chwareli llechi Llanberis.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. 'Enwau lleoedd Dyffryn Peris – Caeathro a Cwm-y-glo' gan Glenda Carr; cyhoeddwyd yn Eco'r Wyddfa; adalwyd 2 Ebrill 2024.