Tudweiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
delwedd
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Eglwys St Cwyfan Tudweiliog - geograph.org.uk - 377548.jpg|250px|bawd|Eglwys Cwyfan Sant, Tudweiliog]]
Pentref bychan a chymuned ar arfordir ogleddol [[Penrhyn Llŷn]], [[Gwynedd]] yw '''Tudweiliog'''.
Pentref bychan a chymuned ar arfordir ogleddol [[Penrhyn Llŷn]], [[Gwynedd]] yw '''Tudweiliog'''.



Fersiwn yn ôl 21:20, 27 Ionawr 2010

Eglwys Cwyfan Sant, Tudweiliog

Pentref bychan a chymuned ar arfordir ogleddol Penrhyn Llŷn, Gwynedd yw Tudweiliog.

Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn Gymraeg-gyntaf eu hiaith. Mae amaethyddiaeth yn rhan hanfodol o fywyd dyddiol y gymuned gyda thwristiaeth yn bwysig drwy'r haf. Mae i'r pentref un siop/Swyddfa'r Post, canolfan cymuned, tŷ tafarn, gefail, eglwys, capel ac ysgol gynradd (presennol) a ddathlodd ei chanmlwyddiant yn 2007. Mae gwasanaeth bws lleol yn gludiant cyhoeddus (pob 2 awr) rhwng Tudweiliog (a phentrefi eraill ar hyd y ffordd) a Phwllheli, sef cymuned mwyaf poblog Llŷn tua 10 milltir i ffwrdd. Mae Tudweiliog yn gyngor cymuned o fewn sir Gwynedd, ac o fewn dalgylch y gymuned mae atyniadau megis Coetan Arthur (cromlech) ar Mynydd Cefnamwlch, olion cymuned o Oes yr Haearn ar gopa fynydd Carn Fadryn, traethau tywodlyd Tywyn a Phenllech a phorthladdoedd hanesyddol Porth Ysgaden, Porth Colmon yn Llangwnnadl (hefyd Llangwnadl), a Phorth Gwylan sydd dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.