Neidio i'r cynnwys

Porth Gwylan

Oddi ar Wicipedia
Porth Gwylan
Porth Gwylan

Porthladd bychain ar arfordir ogleddol Llŷn, Gwynedd, Cymru, rhwng Porth Ychain a Phorth Ysgaden yw Porth Gwylan. (Cyfeirnod grid OS SH219374.)

Mae llwybr drol a grisiau yn dilyn i lawr i'r traeth caregog, er fod gofyn bod yn ofalus, mae'r llwybr yn medru bod yn llithrig pan yn wlyb a does fawr ohono ar ôl bellach erbyn cyrraedd y traeth ei hun. Yno gwelir olion o hen ddiwydiant (mewn/allforio) yn parhau yno. Mae modd cyrraedd Porth Gwylan ar hyd Llwybr Arfordir Cymru neu ar hyd llwybr drol o fferm gyfagos o'r un enw sydd yn eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'r porthladd bach yn gysgodol iawn ac yn aml fe welir forlo'n ymlacio'n y dŵr bâs.

Gweler hefyd o ran diddordeb lleol

[golygu | golygu cod]

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]