Traeth Penllech

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Traeth o ehangder tywodlyd braf gydag ambell i fan caregog ar arfordir ogleddol Llŷn, Gwynedd, Cymru yw traeth Penllech, (cyfeirnod grid OS SH206340, lledred 52.8769°G hydred 4.6721°Gn, côd post LL53 8AZ.) Mae wedi ei leoli rhwng Porth Colmon a Phorth Ychain ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ym Mhenllech, ardal wledig, amaethyddol a distaw. Mae modd cyrraedd y traeth drwy gerdded Llwybr Arfordir Cymru o naill gyfeiriad neu drwy hen lwybr trol a arferid gael ei galw'n Ffordd yr Afon Fawr yn ôl ochr afon o'r un enw a ddilynai. Mae'r lwybr hwn yn aml yn fwdlyd iawn yn dilyn tywydd gwlyb wrth iddo ddilyn trwy gaeau amaethyddol ar hyd yr afon. Arferid cludo gwymon a thywod ar gyfer gwrteithio'r tir amaethyddol a hefyd gro o'r traeth â mulod i adnewyddu'r lonnydd lleol ar hyd Ffordd yr Afon Fawr hyd nes dechrau'r 20G [1]

O gyrraedd traeth Penllech o gyfeiriad Porth Ychain fe ddewch yn gyntaf ar draws Penrhyn Melyn ac oddi yno fe gewch werthfawrogi ehangder y traeth hwn wrth edrych draw ar ei hyd i gyfeiriad Porth Colmon ym mhen pellaf y traeth. Mae nifer o enwau i rannau o'r traeth ei hun, gan gynnwys Traeth Berth Aur sy'n cyferbynu gyda'r fferm gyfagos o'r un enw, Bach Penrhyn, yr Adwyon a Phorth Sion Dafydd a'r Bont Bridd. [2] Sion Dafydd oedd enw tenant a drigai'n lleol mewn cartref o'r enw Penbryn a adeiladodd ffordd i gysylltu'r traeth i wasnaethu ffermydd lleol Penrhyn Melyn a Penbryn Penllech, enw'r ffordd hon oedd Ffordd Porth Sion Dafydd, ac fel nifer o'r ffyrdd bach lleol hyn, nid yw'n bodoli mwyach. [3] Yn bellach draw cyn cyrraedd lle daw Ffordd yr Afon Fawr i gyrraedd y traeth mae twll dyfn mewn craig, gelwir y twll hwn yn y Popty Du. Heibio lle llifai'r Afon Fawr i'r môr mae rhan arall o'r traeth gyda'i enw ei hun sef Traeth Moel y Berth, eto sy'n cyferbynu â fferm gyfagos ar y tir uwchben y traeth.Yn nes ymlaen wedyn i gyfeiriad Porth Colmon mae'r traeth tywodlyd ei hun yn troi'n fwy creigiog ac os nad ydych yn hyderus wrth ddringo tros y creigiau i gyrraedd Porth Colmon, bydd gofyn i chi gymeryd Llwybr Arfordir Cymru ar hyd ben yr allt i'w gyrraedd yn ddiogel.

Traeth Penllech tuag at Penrhyn Melyn.
Golygfa o draeth Penllech o gyfeiriad Penrhyn Melyn, Penllech.

Llifai'r Afon Fawr, sy'n tarddu'n Rhos Bodbadrig, ar lethrau Mynydd Cefnamwlch, drwy ardal Hebron, Llangwnnadl ac i Benllech i'r môr yma'n nhraeth Penllech tros ddibyn gan greu rhaeadr trawiadol, ac wrth droed y rhaeadr mae pwll go ddwfn a elwir yn y Pwll Diwaelod, cyn llifo'n y diwedd i'r môr.

Gweler hefyd o ran diddordeb lleol;[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Williams, Nant Llangwnnadl, Huw (1923). "Hanes Cymdogaeth Penygraig". Hanes Cymdogaeth Penygraig: 4.
  2. Gruffydd, Elfed (1991). Ar Hyd Ben 'Rallt. Pwllheli: Clwb y Bont. t. 30.
  3. Williams, Nant Llangwnnadl, Huw (1923). "Hanes Cymdogaeth Penygraig". Hanes Cymdogaeth Penygraig: 5.