Porth Ychain

Oddi ar Wicipedia
Porth Ychain
Mathtraeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau52.8912°N 4.6611°W Edit this on Wikidata
Map

Traeth caregog bychain a chysgodol ar arfordir gogleddol Llŷn yw Porth Ychain. Saif ar Lwybr Arfordir Cymru rhwng Porth Gwylan a Thraeth Penllech. Mae llwybr drol yn dilyn i lawr i'r traeth o Rhosborthychain. Mae'r gwelltir ar hyd ben y gelltydd rhwng Porth Ychain a Phorth Gwylan yn cael ei reoli i annog tyfiant planhigion gwyllt ac arddegau o'r flwyddyn mae posib ymhyfrydu o weld grug a serennyn y gwanwyn (Scilla verna) mewn blodau yn o gystal ag eithin a'i flodau euraidd.

Porth Ychain
Serennyn y gwanwyn (Scilla verna) Porth Ychain

Storïau lleol[golygu | golygu cod]

Grug yn blodeuo ar hyd ben yr allt, Porth Ychain

Mae paragraff yn llyfr crwydro Elfed Gruffydd, 'Ar Hyd Ben 'Ralld' sy'n cynnig esboniad ar darddiad yr enw 'Porth Ychain' a hanes ynghlwm a'r traeth;

"Mae hanes i dair ar ddeg o fuchod Tŷ Mawr Penllech fynd dros yr allt yn Ogof Fair, stori sy'n gwneud i rywun feddwl mai hyn roddodd fod i enw Porth Ychain. Hanes difyr arall yw'r un i long yn cario llwyth o rum ddod i'r lan rhyw dro, a dim ond wats yn tincian mewn caban a mochyn byw ar ei bwrdd. Beth achosodd hynny tybed? Dywedir fod y llyfr log wedi ei gwblhau yn daclus am y diwrnod cynt."[1]

Gweler hefyd o ran diddordeb lleol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gruffydd, Elfed (1991). Ar Hyd Ben 'Ralld. Pwllheli: Clwb y Bont. t. 28.