Abersoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
map - cyn addasu'r lleoliad (mae'n dangos Pwllheli eto)
digon agos
Llinell 1: Llinell 1:

'''Abersoch'''
''Gwynedd''

'''Abersoch'''
''Gwynedd''

[[Image:CymruGwynedd.png]]
[[Image:Smotyn_Coch.gif]]

[[Image:CymruGwynedd.png]]
[[Image:Smotyn_Coch.gif]]

Fersiwn yn ôl 17:23, 18 Mawrth 2010

Abersoch
Gwynedd
Delwedd:Harbwr Abersoch.jpg
Harbwr mewnol Abersoch gydag Afon Soch yn llifo trwyddo.
Traeth Abersoch gyda'r cytiau enwog.
Hen gychod wrth aber yr afon Soch.

Pentref sylweddol o faint yw Abersoch a leolir ar benrhyn Llŷn yng Ngwynedd, ym mhen draw y ffordd A499. Cyfeirnod OS: SH 31317 28484. Mae'n gorwedd 11 km (7 milltir) i'r dwyrain o dref Pwllheli a 43 km (27 milltir) o Gaernarfon. Enwir y pentref ar ôl aber afon Soch, sy'n cyrraedd y môr yma ar ôl llifo trwy'r pentref.

Y pentref

Datblygodd Abersoch fel porthladd pysgota bychan, ond erbyn hyn twristiaeth yw’r prif ddiwydiant, yn enwedig hwylio. Daeth y pentref yn un o ganolfannau hwylio pwysicaf Prydain yn ystod y trigain mlynedd diwethaf. Oherwydd hyn mae nifer fawr o fewnfudwyr yn y pentref, wedi symud yno o Loegr yn bennaf, ac mae Cymreictod yr ardal a'r iaith Gymraeg wedi dioddef yn enbyd mewn canlyniad.

Ceir nifer o siopau a lleoedd bwyta yn y pentref. Gellir hefyd cymeryd taith mewn cwch i weld Ynysoedd Tudwal.

Argyfwng tai

Mae Abersoch wedi dod i gynrychioli'r argyfwng tai yng nghefn gwlad Cymru oherwydd y prisiau uchel ar dai yn y pentref gwyliau hwn.

Ym mis Mai 2005 rhoddwyd cryn gyhoeddusrwydd i’r hanes fod darn o draeth yn Abersoch gyda chaniatad cynllunio ar gyfer cwt traeth, wedi gwerthu am £63,000. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith ei bod yn anodd os nad amhosibl i bobl ifainc lleol ffordio prynu tai.

Yn hanner cyntaf 2008 cafwyd enghreifftiau eraill o brisiau syfrdanol a wnaeth y pennawdau. Yn Chwefror rhoddwyd sied pren 18x15 troedfedd "mewn cyflwr adfeiliedig" ar werth am £150,000. Mae'n ddeg munud o'r traeth, heb olygfa yn y byd, ac angen cryn dipyn o waith arno.[1]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: