Llandygái: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
sant
llun
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Llandygái''' (weithiau '''Llandygai''' neu '''Llandegai''') yn bentref ychydig i'r de-ddwyrain o ddinas [[Bangor]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]]. Saif ar lan orllewinol [[Afon Ogwen]], gyda phentref [[Talybont, Bangor|Tal-y-bont]] ar y lan ddwyreiniol. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llandygái gan [[Sant]] [[Tegai]]/[[Tegai|Tygái]] yn y [[6ed ganrif]].

[[Delwedd:Penrhyn Castle.jpg|250px|bawd|Castell Penrhyn]]
Yr adeilad mwyaf yn Llandygái yw [[Castell Penrhyn]], a adeiladwyd gan [[Arglwydd Penrhyn]] gyda'r arian a gafodd o dyfu siwgwr yn [[Jamaica]] a'r [[elw]] o [[Chwarel y Penrhyn]]. Mae'n awr yn eiddo i'r [[Ymddiriedolaeth Genedlaethol]].

Fersiwn yn ôl 21:19, 1 Rhagfyr 2007

Mae Llandygái (weithiau Llandygai neu Llandegai) yn bentref ychydig i'r de-ddwyrain o ddinas Bangor yng Ngwynedd. Saif ar lan orllewinol Afon Ogwen, gyda phentref Tal-y-bont ar y lan ddwyreiniol. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llandygái gan Sant Tegai/Tygái yn y 6ed ganrif.

Castell Penrhyn

Yr adeilad mwyaf yn Llandygái yw Castell Penrhyn, a adeiladwyd gan Arglwydd Penrhyn gyda'r arian a gafodd o dyfu siwgwr yn Jamaica a'r elw o Chwarel y Penrhyn. Mae'n awr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Rhwng Llandygái a stad dai Maesgeirchen mae Stad Ddiwydiannol Llandygái. Wrth baratoi'r tir ar gyfer y stad ddiwydiannol yn 1967 darganfuwyd olion tŷ sylweddol o faint o'r cyfnod Neolithig, 6 medr o led wrth 13 medr o hyd, ynghyd ag olion o Oes yr Efydd, Oes yr Haearn, cyfnod y Rhufeiniaid a mynwent o'r Canol Oesoedd cynnar. Mae'r stad ddiwydiannol yn awr yn cael ei ehangu, ac mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cloddio ym Mharc Bryn Cegin o flaen yr adeiladu.

Heb fod ymhell o Landygái mae gwarchodfa adar Aberogwen, ar lan Traeth Lafan.

Treuliodd y bardd Griffith Williams (Gutyn Peris) (1769-1838), un o ddisgyblion Dafydd Ddu Eryri, y rhan helaeth o'i oes yn Llandygái. Gweithiai yn Chwarel y Penrhyn.