Llangywair

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan, cymuned a plwyf ym Meirionnydd, Gwynedd, yw Llangywair (llygriad Saesneg: Llangower, hefyd Llangywer).

Gorwedd Llangywair ar lan ddeheuol Llyn Tegid, tua 3 milltir a hanner i'r de o'r Bala a llai na kilometr o Lanuwchllyn. Dim ond 212 yw'r boblogaeth. Saif Castell Gronw ger y pentref, hen domen o'r Oesoedd Canol.

Yn yr Oesoedd Canol bu Llangywair yn un o dri phlwyf cwmwd Uwch Tryweryn yng nghantref Penllyn. Noda Cwm Cynllwyd, sy'n codi i gyfeiriad Bwlch y Groes, ffin orllewinol y plwyf, sy'n codi i'r dwyrain i fryniau deheuol Y Berwyn. Mae'n ardal fynyddig iawn gyda'r rhan fwyaf o'r anneddau yn gorwedd ar y llain o dir isel ar lan Llyn Tegid.

Cysegrir eglwys y plwyf i santes leol o'r enw Cywair. Ni wyddom ddim amdani o gwbl. Ceir ffynnon sanctaidd yno - Ffynnon Gywair - a orchuddir gan garreg a enwir yn Llech Cywair. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl werin am foddi'r deyrnas lle saif Llyn Tegid heddiw, esgeuluso rhoi'r garreg yn ôl ar y ffynnon a barodd iddi orlifio a boddi'r hen deyrnas, gan ffurfio'r llyn.[1] Dyddia eglwys Llangywer o'r 13eg ganrif, ond cafodd ei hail-adeiladu yn 1871. Bu'r bardd Euros Bowen yn reithor yma am flynyddoedd. Efallai fod Llangywer yn fwyaf adnabyddus am y gân werin draddodiadol:

Ffarwel i blwy Llangywer
A'r Bala dirion deg ..

Rhed trac Rheilffordd Llyn Tegid trwy Llangywair, a cheir gorsaf yno.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001), tud. 184.