Euros Bowen
Bardd Cymraeg a chyfieithydd oedd Euros Bowen (1904-1988).[1] Fe'i ystyrir yn un o feirdd Cymraeg mwyaf yr ugeinfed ganrif.
Fe'i ganwyd yn Nhreorci, yn frawd i'r prifardd Geraint Bowen. Mynychodd Goleg Presbyterian Caerfyrddin,[2] cyn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth, Coleg Mansfield a Coleg Santes Catrin, Rhydychen. Daeth yn offeiriad Anglicanaidd yn Llanygywer, Penllyn, ac yna'n Rheithor Llanuwchllyn yn yr hen Sir Feirionnydd.
Enillodd Euros Bowen y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pen-y-bont ar Ogwr 1948 am bryddest 'O'r Dwyrain' ac eto ym 1950 gyda 'Difodiant'.
Mae gwaith Euros Bowen yn wahanol iawn i farddoniaeth y 1950au, a disgrifir ei waith (ers 1963) fel "tywyll" ac "astrus". Ni ddefnyddiai ef y traddodiadau o draethu delweddau na chwaith o bregethu syniadau, yn hytrach fe ganolbwyntiai Euros yn ei gerddi ar briodi'r gynghanedd â dulliau newydd o fynegiant gan adael y dadansoddiad yn agored i feddwl y darllenydd. Medd Euros Bowen ei hun, fod "modd gwerthfawrogi a mwynhau cerdd heb ei "deall" yn iawn".
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ The Oxford Dictionary of National Biography; adalwyd 16/01/2013
- ↑ Gwefan BBC Cymru; adalwyd 16 Ionawr 2013
Llyfryddiaeth [golygu]
- Oes y Medwsa (1987)
- Lleidr Tân
- Buarth Bywyd
- Trin Cerddi