Ben Bowen

Oddi ar Wicipedia
Ben Bowen
Ganwyd1878 Edit this on Wikidata
Treorci Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 1903 Edit this on Wikidata
Ton Pentre Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PerthnasauEuros Bowen Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Ben Bowen (1878 - 16 Awst 1903).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Nhreorci, yn fab i Thomas a Dinah Bowen. Aeth i weithio fel glöwr yn weddol ieuanc, a dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth a chystadlu mewn eisteddfodau lleol.

Gadawodd y pwll glo yn 1897 er mwyn astudio ar gyfer y weinidogaeth gyda'r Bedyddwyr. Aeth i Brifysgol Caerdydd, ond oherwydd afiechyd, ni allodd orffen ei flwyddyn gyntaf. Daeth yn ail am y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1900, gyda phryddest ar y testun "Pantycelyn". Codwyd tysteb iddo fynd i Dde Affrica i geisio gwella ei iechyd yn 1901 a 1902. Parhaodd ei iechyd i ddirywio wedi iddo ddychwelyd, a bu farw yn 1903.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd nifer o gasgliadau o'i waith dan olygyddiaeth ei frawd, Myfyr Hefin:

  • Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen (1904)
  • Rhyddiaith Ben Bowen (1909)
  • Blagur Awen Ben Bowen (1915)
  • Ben Bowen yn Neheudir Affrica (1928). Ei ddydiadur.
  • Ben Bowen i'r Ifanc (1928).