Neidio i'r cynnwys

Bryn-crug

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:56, 9 Ionawr 2009 gan Tivedshambo (sgwrs | cyfraniadau)

Pentref a chymuned yn ne Gwynedd, yw Bryn-crug, weithiau Bryncrug. Saif y pentref i'r gogledd ddwyrain o dref Tywyn, ger cyffordd y briffordd A493 a'r B4405. Llifa Afon Dysynni ychydig i'r gorllewin.

I'r de-orllewin o'r pentref mae plasdy Ynysymaengwyn; mae'r plasdy a godwyd yn 1758 bellach wedi ei ddymchwel. I'r de o'r pentref mae castell mwnt a beili Cynfal, a godwyd yn 1137 gan Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd.


Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.