Penygroes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am y pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin, gweler Pen-y-groes, Sir Gaerfyrddin.
Penygroes gyda bryniau Nantlle.

Pentref mawr yng Ngwynedd yw Penygroes (hefyd: Pen-y-groes). Fe'i lleolir yn Nyffryn Nantlle, ger pentrefi Llanllyfni, Carmel a Groeslon.

Lleolir Ysgol Dyffryn Nantlle yn y pentref, ynghyd â ffatri papur toiled a chlwb peldroed enwog Nantlle Vale. Dyma ganolfan fasnachol ac economaidd y dyffryn, bellach wedi edwino rhyw gymaint ers agor ffordd osgoi heibio pentrefi'r cwm. Yno hefyd mae meddygfeydd, y banc lleol, llyfrgell, canolfan dechnoleg, canolfan hamdden Plas Silyn, fferyllydd a stad ddiwydiannol. Cydnabyddir fel un o'r cymunedau Cymreiciaf yn y byd, gyda mwy na 90% yn gallu'r Gymraeg yno.

Mae bysiau sy'n rhedeg i Gaernarfon yn gwasanaethu'r pentref.


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato