Llangwnnadl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bach ym mhen gorllewinol Llŷn yw Llangwnnadl (neu Llangwnadl), yng Ngwynedd, gogledd-orllewin Cymru.

Lleolir y pentref tua milltir o'r môr rhwng Aberdaron a Nefyn ar ochr ogleddol pen eithaf penrhyn Llŷn. O'r pentref mae lôn gul yn arwain i lawr i Borth Golman ar lan bae agored Porth Sgadan a'i draethau tywod braf.

Yr eglwys[golygu]

Ymddengys fod yr enw presennol yn llygriad o'r enw 'Llangwynhoedl', sef llan y sant Gwynhoedl y dywedir bod ganddo gapel neu gell feudwy yno yn y 6ed ganrif.

Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o tua diwedd yr Oesoedd Canol ond mae'n cynnwys yn ei fur deheuol garreg fawr â cherflun o groes o fewn cylch arni, sy'n dyddio efallai o'r 6ed ganrif. Cafodd yr eglwys ei hadnewyddu yn 1850 ond mae'n cadw rhai nodweddion a chofebion hynafol. Yn ôl traddodiad claddwyd y sant ei hun yn yr eglwys, neu ar ei safle, a cheir arysgrif ynddi mewn llythrennau Gothig sy'n darllen Ihc S Gwynhoydl iacet hic ("Mae Sant Gwynhoedl yn gorffwys yn yr eglwys hon").

Ar un adeg roedd gan yr eglwys hen gloch Geltaidd ond fe'i diogelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd bellach.

Enwogion[golygu]

Roedd yr awdur John Griffith Williams (J.G. Williams: 1915 - 1987) yn frodor o Langwnadl. Mae'n sôn am yr ardal yn ei hunagofiant arbennig Pigau'r Sêr.