Yr Eidal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cysylltiad allanol: man gywiriadau using AWB
test wikidata; prif weinidog newydd
Llinell 13: Llinell 13:
| math_o_lywodraeth = [[Gweriniaeth]]
| math_o_lywodraeth = [[Gweriniaeth]]
| ieithoedd_swyddogol = [[Eidaleg]] <sup>1</sup>
| ieithoedd_swyddogol = [[Eidaleg]] <sup>1</sup>
| teitlau_arweinwyr = [[Arlywyddion yr Eidal|Arlywydd]]
| teitlau_arweinwyr1 = [[Arlywyddion yr Eidal|Arlywydd]]
| enwau_arweinwyr = [[Giorgio Napolitano]]
| enwau_arweinwyr1 = [[{{#property:p35}}]]
| teitlau_arweinwyr = [[Prif Weinidogion yr Eidal|Prif Weinidog]]
| teitlau_arweinwyr2 = [[Prif Weinidogion yr Eidal|Prif Weinidog]]
| enwau_arweinwyr = [[Mario Monti]]
| enwau_arweinwyr2 = [[{{#property:p46}}]]
| digwyddiad_sefydlu'r_wladwriaeth = [[Risorgimento|Undeb yr Eidal]]
| digwyddiad_sefydlu'r_wladwriaeth = [[Risorgimento|Undeb yr Eidal]]
| digwyddiadau_gwladwriaethol =
| digwyddiadau_gwladwriaethol =

Fersiwn yn ôl 21:07, 28 Ebrill 2013

Repubblica Italiana
Gweriniaeth yr Eidal
Baner yr Eidal Arfbais yr Eidal
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim
Anthem: Il Canto degli Italiani
Lleoliad yr Eidal
Lleoliad yr Eidal
Prifddinas Rhufain
Dinas fwyaf Rhufain
Iaith / Ieithoedd swyddogol Eidaleg 1
Llywodraeth Gweriniaeth
Arlywydd Sergio Mattarella
Prif Weinidog [[

Failed to render property p46: Ni ddaethpwyd o hyd i'r nodwedd p46.

]]
Undeb yr Eidal
17 Mawrth 1861
Esgyniad i'r UE25 Mawrth 1957
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
301,230 km² (71af)
2.4
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
57,110,144 (22fed)
58,594,273
198.2/km² (40fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$1.645 biliwn (8fed)
$28,300 (21af)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.934 (18fed) – uchel
Arian cyfred Euro (€) 2 (EUR)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .it
Côd ffôn +39
1 Hefyd Almaeneg a Ladin yn Trentino-Alto Adige; Almaeneg, Slofeneg a Furlan yn Friuli-Venezia Giulia; Ffrangeg yn Valle d'Aosta
2 cyn i 2002: Lira Eidalaidd

Gwlad yn ne Ewrop yw Gweriniaeth yr Eidal neu'r Eidal. Mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn benrhyn mawr siâp esgid uchel gyda nifer o ynysoedd yn y Môr y Canoldir: Sicilia a Sardegna ydyw'r mwyaf. Yn y gogledd mae mynyddoedd yr Alpau. Ceir môr ar dair ochr i'r Eidal, ond yn y gogledd mae'n ffinio ar Ffrainc, y Swistir, Awstria, a Slofenia. Y tu mewn i'r Eidal mae dwy wladwriaeth fach: San Marino a Dinas y Fatican.

Hanes

Mae hanes yr Eidal yn mynd yn ôl i gyfnod cynnar iawn, er mai yn gymharol ddiweddar yr unwyd yr Eidal i greu'r wladwriaeth fodern.

Daw'r enw Italia o'r hen enw am bobloedd a thiriogaeth de yr Eidal. Yn y rhan yma, roedd nifer o bobloedd wahanol, megis yr Etrwsciaid, Samnitiaid, Umbriaid a Sabiniaid. Yn y gogledd, ymsefydlodd llwythau Celtaidd o gwmpas dyffryn afon Po.

Yn rhan ddeheuol yr orynys ac ar ynys Sicilia, ymsefydlodd Groegiaid rhwng 800 a 600 CC, a gelwid y rhan yma yn Magna Graecia ("Groeg Fawr") mewn Lladin. Yn y gogledd, yr Etrwsciaid oedd y grym mwyaf yn y cyfnod cynnar. Yn y 4edd ganrif CC gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid, ac yn y 3edd ganrif CC gorchfygodd Rhufain y Groegiaid yn y de hefyd.

Bu cyfres o ryfeloedd, y Rhyfeloedd Pwnig, rhwng Rhufain a Carthago; yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig bu'r cadfridog Carthaginaidd Hannibal yn ymgyrchu yn yr Eidal am flynyddoedd. Er iddo ennill nifer o fuddugoliaethau ysgubol dros y Rhufeiniaid, bu raid iddo encilio o'r Eidal yn y diewedd. Ar ddiwedd y Trydydd Rhyfel Pwnig yn 146 CC, dinistriwyd Carthago.

Tyfodd Ymerodraeth Rhufain yn gyflwym yn y cyfnod canlynol; concrwyd Gâl gan Iŵl Cesar rhwng 60 a 50 CC. Daeth ei fab mabwysiedig, Augustus, yn ymerawdwr cyntaf Rhufain.

Daeth yr ymerodraeth yn y gorllewin i ben yn y 5ed ganrif, a meddiannwyd yr Eidal gan bobloedd Almaenig megis yr Ostrogothiaid a'r Lombardiaid. Ffurfiwyd nifer o wladwriaethau.

Dim ond yn y 19eg ganrif yr ad-unwyd yr Eidal, gyda Giuseppe Garibaldi yn un o'r prif ysgogwyr. Sefydlwyd Teyrnas yr Eidal yn 1861. Daeth Benito Mussolini, arweinydd plaid y Ffasgwyr yn Brif Weinidog yn 1922. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, daeth Mussolini a'r Eidal i mewn i'r rhyfel ar ochr yr Almaen. Diswyddwyd ef yn 1943, a'i saethu yn 1945.

Ar 2 Mehefin 1946, cafwyd pleidlais mewn refferendwm i ddileu'r frenhiniaeth ac i sefydlu Gweriniaeth yr Eidal. Mabwysiadwyd y cyfansoddiad newydd ar 1 Ionawr 1948.

Rhanbarthau

Rhanbarthau yr Eidal

Mae'r Eidal wedi'i rhannu yn 20 o ranbarthau (regioni, unigol regione)

RhanbarthPrif Ddinas
1. AbruzzoL'Aquila
2. Valle d'Aosta
Aoste
3. PugliaBari
4. BasilicataPotenza
5. CalabriaCatanzaro
6. CampaniaNapoli
7. Emilia-RomagnaBologna
8. Friuli-Venezia GiuliaTrieste
9. LazioRhufain
10. LiguriaGenova
11. LombardiaMilan
12. MarcheAncona
13. MoliseCampobasso
14. PiemonteTorino
15. SardegnaCagliari
16. SiciliaPalermo
17. Trentino-Alto Adige
Trento a Bozen-Bolzano
18. ToscanaFflorens
19. UmbriaPerugia
20. VenetoFenis

Gwleidyddiaeth

Ar 8 Mai, 2008, daeth Silvio Berlusconi yn Brif Weinidog yr Eidal am y trydydd tro, fel olynydd i Romano Prodi. Roedd Berlusconi hefyd yn Brif Weinidog o 1994 hyd 1995 ac o 2001 hyd 2006. Ymddiswyddodd mewn cywilydd ar 16 Tachwedd 2011 oherwydd diffyg arian y wlad a phenodwyd Mario Monti yn ei le.

Daearyddiaeth

Delwedd:MountBlanc04.jpg
Monte Bianco (Mont Blanc), copa uchaf yr Eidal

Gwlad yn ne Ewrop sy'n ymestyn allan fel gorynys hir i ganol Môr y Canoldir yw'r Eidal. Mae hefyd yn cynnwys nifer o ynysoedd; y mwyaf yw Sicilia a Sardinia. Mae'n ffinio ar y Swistir, Ffrainc, Awstria, Slofenia, ac mae San Marino a Dinas y Fatican yn cael eu hamgylchynu gan yr Eidal.

Gwlad fynyddig yw'r Eidal. Yn y gogledd, ceir yr Alpau, sy'n ffurfio ffîn ogleddol y wlad. Y copa uchaf yw Monte Bianco (Ffrangeg: Mont Blanc), 4,807.5 medr o uchder, ar y ffîn rhwng yr Eidal a Ffrainc. Mynydd adnabyddus arall yw'r Matterhorn (Cervino mewn Eidaleg, ar y ffîn rhwng yr Eidal a'r Swistir. Ymhellach tua'r de, mae mynyddoedd yr Apenninau yn ymestyn o'r gogledd i'r de ar hyd yr orynys. Ceir y copa uchaf yn yr Apenninau Canolog, y Gran Sasso d'Italia (2,912 m). Ceir nifer o losgfynyddoedd byw yn yr Eidal: Etna, Vulcano, Stromboli a Vesuvius.

Afon fwyaf yr Eidal yw Afon Po, sy'n tarddu yn yr Alpau Cottaidd ac yn llifo tua'r dwyrain am 652 km (405 milltir) i'r Môr Adriatig ar hyd gwastadedd eang. Y llyn mwyaf yw Llyn Garda yn y gogledd.

Economi

Demograffeg

Ar 31 Rhagfyr 2006 roedd poblogaeth yr Eidal yn 59,131,287. Roedd 30,412,846 o'r rhain yn ferched a 28,718,441 yn ddynion.

Dinasoedd

Dinasoedd mwyaf yr Eidal, gydag ystadegau poblogaeth 2006, yw:

Milan
  1. Rhufain - 2,705,603
  2. Milan - 1,303,437
  3. Napoli - 975,139
  4. Torino - 900,569
  5. Palermo - 666,552
  6. Genoa - 615,686
  7. Bologna - 373,026
  8. Fflorens - 365,966
  9. Bari - 325,052
  10. Catania - 301,564

Ieithoedd

Eidaleg yw iaith swyddogol yr Eidal. Yn nhalaith Bolzano-Bozen, mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad Almaeneg fel iaith gyntaf, ac mae Almaeneg yn iaith swyddogol yno ar y cyd ag Eidaleg. Mae Ffrangeg yn gyd-iaith swyddogol yn Val d'Aosta,

Diwylliant

Hunanbortread gan Leonardo da Vinci.

Oherwydd na unwyd yr Eidal fel un wladwriaeth hyd yn gymharol ddiweddar, bu amrywiaeth mawr mewn diwylliant. Yn yr Eidal y dechreuodd y Dadeni yn Ewrop.

Llenyddiaeth

Gosodwyd sylfeini yr iaith Eidaleg lenyddol fodern gan Dante Alighieri o Fflorens. Ei waith enwocaf yw'r Divina Commedia, a ystyrir yn un o brif gampweithiau Ewrop yn y Canol Oesoedd. Llenorion amlwg eraill yw Giovanni Boccaccio, Giacomo Leopardi, Alessandro Manzoni, Torquato Tasso, Ludovico Ariosto, a Petrarch. Ymysg llenorion diweddar yr Eidal, enillwyd Gwobr Nobel am Lenyddiaeth gan Giosuè Carducci (1906), Grazia Deledda (1926), Luigi Pirandello (1936), Salvatore Quasimodo (1959), Eugenio Montale (1975) a Dario Fo (1997).

Ymysg athronwyr amlwg yr Eidal mae Giordano Bruno, Marsilio Ficino, Niccolò Machiavelli a Giambattista Vico.

Arlunio

Yn y Canol Oesoedd a chyfnod y Dadeni, roedd arlunwyr yr Eidal yn enwog trwy Ewrop. Ymysg yr arlunwyr a cherrflunwyr enwocaf, mae Michelangelo, Leonardo da Vinci, Donatello, Botticelli, Fra Angelico, Tintoretto, Caravaggio, Bernini, Titian a Raphael.

Cerddoriaeth

Bu cerddoriaeth yn elfen bwysig iawn yn niwylliant yr eidal o gyfnod cynnar. Yn yr Eidal y dyfeisiwyd opera, ac mae'n parhau'n boblogaidd iawn hyd heddiw. Y tŷ opera enwocaf yw La Scala yn Milan.

Ymysg cyfansoddwyr enwog yr Eidal mae Alessandro Scarlatti, Arcangelo Corelli, Antonio Vivaldi, Niccolò Paganini, Gioacchino Rossini, Giuseppe Verdi a Giacomo Puccini. Canwr enwocaf yr Eidal yn y cyfnod diweddar oedd Luciano Pavarotti.

Cysylltiad allanol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol

Chwiliwch am Yr Eidal
yn Wiciadur.