Sgwrs Defnyddiwr:BOT-Twm Crys

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Nodwch eich ceisiadau yn y fan hon os gwelwch yn dda.

Tsieinëeg → Tsieineeg[golygu cod]

Rwyf wedi cael gwybod bod modd holi i chi wneud y gwaith o newid geiriau, ail-gyfeiriadau dwbl, a chategorïau ag ati. A fyddech mor garedig â newid Tsieinëeg → Tsieineeg? Gadewais nodyn ar Sgwrs:Tsieineeg yn egluro'r rheswm dros hyn. Rwyf wedi bod wrthi'n symud rhai erthyglau a chategorïau ac yn trwsio rhai ail-gyfeiriadau a'r sillafu yn nhestun yr erthyglau. Mae gwaith wrtho fe! Byddwn yn falch iawn o weld hwn yn cael ei wneud gan fot. Lloffiwr (sgwrs) 13:04, 16 Chwefror 2013 (UTC) Symudwyd gan '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 13:47, 16 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd
- Llywelyn2000 (sgwrs) 10:46, 17 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Wedi ail-symud Tsieinëeg i Tsieineeg ar ôl cael pen ar y mwdwl ar Sgwrs:Tsieineeg. Elli di osod y bot i wneud ei waith ar Tsieineeg a Choreeg, yn newid y geiriau? Ydi'r bot yn gallu symud cynnwys y tudalennau categori hefyd, neu oes raid gwneud hynny'n unigol i bob categori? Lloffiwr (sgwrs) 11:46, 23 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
 Cwblhawyd
Bydd rhaid gwiro'r Categoriau gyda llaw, jest rhag ofn. BOT-Twm Crys (sgwrs) 19:22, 23 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

Ffynhonnell/Ffynonellau[golygu cod]

Mae'r bot hwn wedi newid ffynonell → ffynhonnell, ond yn y mwyafrif helaeth o achosion mae hyn wedi troi ffynonellau → ffynhonnellau, sy'n anghywir! —Adam (sgwrscyfraniadau) 19:13, 30 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

Drap! Oes gen ti enghraifft o hyn? Mae wedi edrych ar rhan o air yn hytrach na gair cyfan; dw i'n siwr bot botwm (yn rhywle) i'w gadw o fewn trefn! Diolch i ti am ddo a hyn i fy sylw, oherwydd mater bach iawn ydy ei ddanfon yn ei ol i newid ffynhonnellau → ffynonellau. Diolch Adam. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:23, 31 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Bron pob canlyniad wrth chwilio am "ffynhonnellau" yn y blwch chwilio: [1] [2], [3], [4] ... Os yw'r bot yn newid pob enghraifft o ffynhonnellau i ffynonellau, yna bydd y ddwy ffurf ar y gair wedi eu sillafu'n gywir ar draws y wici (gan fydd "ffynhonnell" ar ben ei hun yn aros yr un peth)! Hwyl, —Adam (sgwrscyfraniadau) 11:08, 3 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]
Wedi gwrthroi tua 350! Ychydig ychwaneg i'w gwneud y prynhawn yma. Diolch Adam. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:00, 4 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd

Llywelyn2000 (sgwrs) 20:45, 12 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Lleoliad nodiadau egin[golygu cod]

Pam bod y bot hwn yn symud nodiadau egin o waelod erthyglau ac yn eu gosod cyn y categorïau? Mae gan en bolisi o roi'r nodiadau egin ar ôl y categorïau fel bod y categorïau egin yn ymddangos ar ôl y prif gategorïau. Mae hyn yn gwneud synnwyr i mi, ac yn fy marn i yn fwy esthetig. —Adam (sgwrscyfraniadau) 18:09, 5 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Mae llawer ohonom wedi bod yn eu gosod uwch ben y categoriau ee fama, ac yn bersonol, gan nad ydy o'n gwneud dim gwahaniaeth o ran y darllenydd, dydy o ddim yn fater dirdynol. Dileu'r nodion Egin ddylai fod yn flaenoriaeth gennym. Ond barn bersonol yw hyn, ac mae cadw at y drefn yn beth da, o ran cysondeb. Dw i'n gweld fod BOT-Twm Crys wedi eu newid yn fama, Dw i'n meddwl mai'r "General Fixes" awtomatig sy'n gyfrifol; mae'n gwneud llawer o waith eraill fel trwsio cromfachau coll mewn dolen ar yr un pryd. Ond fel rwyt ti'n awgrymu mae'r drefn o roi egin cyn y cats yn groes i drefn areferol en. Dw i wedi holi ar en a mi ddoi nol gydag ateb, gobeithio!BOT-Twm Crys (sgwrs) 09:28, 6 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]
Diddorol nodi fod y Wici Almaeneg wedi cael gwared a nhw! Efallai y dylem ninnau hefyd? Mae'r neges i griw'r AWB wedi'i adael yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:20, 7 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd
- Llywelyn2000 (sgwrs) 10:15, 3 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Gwiro Afghanistan -> Affganistan[golygu cod]

Wneith rywun wiro fod y llond dwrn o newidiadau'n dderbyniol, cyn mynd ati i wneud rhagor? Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:19, 3 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Mae'n edrych yn iawn i mi, dim probs. Af ati rwan i orffen y categoriau - mond ugain munud, gobeithio. Diolch i ti (a'r Bot!). Anatiomaros (sgwrs) 20:20, 3 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Mae 'na ddau is-gategori heb eu gwneud eto - dechrau blino! - sef cat:'Taleithiau Afghanistan' a 'Rhyfeloedd Afghanistan'. Wedi rhoi nhw yn y categoriau newydd 'Daearyddiaeth Affganistan' a 'Hanes Affganistan' ac wedi dileu'r hen brif gategori 'Afghanistan' hefyd. Efallai medrai dy Fot arbrofi gyda'r ddau gategori yna i symud popeth i'r categoriau newydd 'Taleithiau Affganistan' a 'Rhyfeloedd Affganistan', i weld sut mae'n ymdopi? Anatiomaros (sgwrs) 21:32, 3 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd
- tua 550, er, dw i'n siwr fod rhai heb eu canfod. Roedd yn rhaid cadw llygad ar bob un gan fod Botwm yn mynnu cywiro oddi fewn url a ballu! Efallai y bydd enw ambell erthygl hefyd wedi'i newid, ond un neu ddau'n unig faswn i'n feddwl.

Gwych! Dwi wedi newid 'Afghanistan' i 'Affganistan' yn y nodyn:ISO-gwlad hefyd (ar ôl darganfod ei bodolaeth ar ôl pyslo dros y côd yn nodyn:Asia!), sy'n rheoli sillafiad enwau gwledydd mewn nodiadau. Rhaid i mi gofio am hynny yn achos y gweddill hefyd. Dwi wedi symud y nodyn eginyn hefyd a chreu categori egin newydd. Cymaint o bethau i'w cofio. Diolch i'r nefoedd fydd byth rhaid i ni newid 'Cymru' i rywbeth arall neu basa'n cymryd misoedd! Anatiomaros (sgwrs) 22:40, 5 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Pa un nesaf? Bu trafodaeth yn rhywle. Wedi dweud hynny, efallai mai tacluso pentrefi Lloegr a gorffen y graffiau ar Cyfrifiad 2011 ydy'r flaenoriaeth! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:45, 12 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Gwiro 90 o bentrefi newydd: Norfolk[golygu cod]

Wneith rhywun wiro peilot o tua wyth erthygl gyda tua 90 o bentrefi newydd yn Norfolk i ddod, yma os gwelwch yn dda. Iawn neu Reswm. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:10, 5 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Sgen i ddim amser i wiro pob un heno, ond dyma un dwi wedi wneud. (1. Arddull wici yn y frawddeg gyntaf; 2. dwi wedi creu nodyn:eginyn Norfolk jest rwan hefyd achos mae 'na filoedd o dudalennau yn y categori egin Lloegr). Anatiomaros (sgwrs) 22:55, 5 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Diolch. Cofia: mater bach ydy dileu "Cat Pentrefi lloegr", os mai dyna sydd ore. Norfolk newydd ei wneud fesul un, gan fod yn rhaid cywiro / lleihau'r gofod anghywir sy'n cael ei greu'n otomatig gan Botwm. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:46, 6 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Un peth bach sydd o le: am ryw reswm mae'r tudalennau newydd yma i gyd wedi cael eu rhoi yn y categori:Norfolk yn ogystal â'r categori cywir, yr unig gategori lle dylen nhw fod, sef Categori:Pentrefi Norfolk. Oes modd cael Botwm i gywiro hynny'n otomatig? Diolch. Anatiomaros (sgwrs) 22:00, 6 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
ON Wrth "yr unig gategori lle dylen nhw fod" dwi ddim yn cynnwys categori:Egin Norfolk, wrth gwrs! ;-) Anatiomaros (sgwrs) 22:04, 6 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
 Cwblhawyd

.

Diolch! Anatiomaros (sgwrs) 20:06, 8 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Mae'r nodyn egin ar gyfer pentrefi Norfolk yn gywir bellach, ond mae'r trefi (neu'r rhai gliciais i arnynt ta beth) yn cynnwys 'Egin:Lloegr'.--Rhyswynne (sgwrs) 11:56, 8 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Diolch Rhys! Mi ai ati nes ymlaen. Cymer olwg hefyd ar yr un neu ddau o Swydd Northampton os g yn dda: Abington Vale a Cogenhoe. Dw i'n ymwybodol fod y Nodyn:Northampton heb ei wneud. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:35, 8 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Dim byd i'w wneud â Norfolk, ond sylwer ar y golygiad hyn gan y bot. Israddwyd Amwythig i fod yn bentref hefyd! Mae'n bosibl fod enghreifftiau eraill o hyn - rhaid cymryd gofal i sicrhau nad ydyw'n digwydd eto. Anatiomaros (sgwrs) 21:56, 8 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Saif yn...[golygu cod]

Sylwaf bod "saif yn Nwyrain Lloegr" ar ddiwedd pobb erthygl am bentrefi Norfolk. (e.e.Pentref a phlwyf yn Norfolk ydy Ashby St Mary; saif yn Nwyrain Lloegr). Yr un modd gyda phentrefi Northampton (Pentref a phlwyf yn Swydd Northampton ydy X; saif yn Nwyrain Canolbarth Lloegr). Baswn i'n argymell;

  • A: Ond son am leoliad o fewn Lloegr yn yr erthyglau am y siroedd eu hunain, nid y pentrefi.
  • B: Ei newid i rhywbeth fel: Pentref a phlwyf yn Norfolk, Dwyrain Lloegr ydy X.

Tebyg i'r uchod ar gyfer Swydd Berkshire mae'n dweud: Pentref a chymuned yn Lloegr ydy Aldworth; saif yn Swydd Berkshire, De Ddwyrain Lloegr.. D wi ddim yn meddwl bod angen yr yn Lloegr ar y dechrau - mae'n rhy amhenodol.--Rhyswynne (sgwrs) 13:27, 8 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Y fformiwla arferol yma ac ar wicis eraill yw rhywbeth fel hyn: 'Pentref yn Swydd X, Gwlad Y, yw Z.' Gellir manylu ar yr union leoliad wedyn os rhaid (ond o fewn y sir neu ranbarth sy'n arferol).
Peth bach arall, pam fod map o leoliad y llefydd hyn "o fewn y DU" yn lle "yn Lloegr"? Mae hynny'n groes i'r arfer/polisi sydd gennym ar gyfer llefydd yng Nghymru (a'r Alban a Gog. Iwerddon hefyd, os cofiaf yn iawn). Oes modd hawdd i'r bot newid hynny? Anatiomaros (sgwrs) 20:05, 8 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Mae Glen a finna wedi methu a newid hyn a'r cangym sydd yn y wybodlen parthed "Rhanbarth" ayb - nad yw'n cael ei weld ar y sgrin er ei fod yno. Mae Rhanbarth / Enw Swydd yn cael eu cymysgu gan y wybodlen, a chreodd hyn lawer o drafferthion, fel y gweli. Yr ateb dw i'n meddwl ydy gwneud pob swydd ar wahan, fel sy'n digwydd rwan. Dw i wedi holi bore ma yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:08, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Diolch Llywelyn. Roeddwn i'n amau bod rheswm technegol amdano. Sylwais ar y broblem gyda chymysgu'r swydd a'r rhanbarth hefyd, wedi cywiro rhai.
ON Problem amlwg arall yw fod nifer fawr o dudalennau sy heb ddolen ryngwici ac sydd ddim yn nodi lleoliad y pentref chwaith - dim mwy na'i fod yn "bentref yn Lloegr". Bydd angen datrys hynny hefyd: cael y rhyngwici a chael y sir er mwyn eu rhoi yng nghategori pentrefi'r sir (a'r eginyn sir) yn lle jest pentrefi Lloegr. Gan fod rhai miloedd o dudalennau yn y sefyllfa yna, gwaith bot ydyw. Anatiomaros (sgwrs) 16:44, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Dw i wedi dileu'r testun diangenrhaid o dan y map. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:13, 22 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Swydd Northampton[golygu cod]

Cadwch eich llygaid ar y llwyth nesaf ogydd: Swydd Northampton. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:23, 8 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Categoriau is-raniadau Swydd Efrog

Mae noson o waith i'w wneud i gywiro'r rhain - gweler Sgwrs Categori:Pentrefi Lloegr - cyn dechrau creu erthyglau am bentrefi Gogledd, Dwyrain, De a Gorllewin Swydd Efrog. Mae pethau'n smonach ar hyn o bryd! Anatiomaros (sgwrs) 21:13, 8 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Pentrefi Lloegr - tasg arall[golygu cod]

Ar hyn o bryd mae cannoedd (rhai miloedd efallai) o dudalennau 'Rhywle, Swydd Y' sydd heb dudalen gwahaniaethu, h.y. 'Rhywle'. Oes modd i'r bot eu creu? Mae'n ormod o lawer o waith fel arall. Anatiomaros (sgwrs) 17:00, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

O! Neno'r tad! Paid a'i wneud yn flaenoriaeth! Ydy mae'n bosib, ond yn gymhleth. Creu rhestr o bob pentref / cymuned yn Lloegr, cyfieithu'r siroedd, eu gosod yn nhrefn yr wyddor, ac yna'u safio gydag arddull arferol tud gwahaniaethu - bob yn un! Ond mae hefyd angen, wedyn, nodyn ar bob erthygl yn dweud fod tud gwahaniaethu ar gael a mwyn nag un *enw*'n bodoli. Amcangyfrif o amser: diwrnod cyfan (18 awr!). Ond mae'n werth ei wneud. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:33, 10 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Paid a phoeni, doeddwn i ddim yn disgwyl i ti wneud o ar unwaith! Bydd angen wneud o rywbryd, yn sicr, ond does dim brys arbennig. Diolch! Anatiomaros (sgwrs) 19:51, 10 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Trefn y geiriau /enwau Siroedd[golygu cod]

Newid: Categori:Swydd Gogledd Efrog > Categori:Gogledd Swydd Efrog ayb.

Ceir sgwrs ar newid yr enwau yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:37, 10 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Mae tua 7,000 o erthyglau'n cynnwys [[Categori:Pentrefi Lloeg]] wedi'u cywiro; y gweddill yn rowlio rwan, a threfn yr enwau "Gogledd Swydd Efrog" ayb. Tua 6 awr i fynd. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:46, 12 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

English towns[golygu cod]

The bot has added lots of articles on English towns, however it has not added any of them to Wikidata, so there are no inter language links. The articles make up quite a few of the ones linked at Arbennig:UnconnectedPages. Can the bot put them onto Wikidata? Delsion23 (talk) 22:59, 8 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Hi, yes I am the same as en:User talk:Delusion23. Delsion23 (talk) 17:56, 9 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Hey, thanks for the reply. I suggest perhaps adding the English links like you would have in the past. Hopefully the next time there is a bot import into Wikidata they will cover the Welsh Wikipedia and import them. Alternatively, someone may be able to help Welsh Wikipedia's connectivity at d:Wikidata:Bot requests. Delsion23 (talk) 23:03, 11 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Great :) I'll be sure to ask you if I am unsure with translations etc. Thanks. Delsion23 (talk) 10:41, 12 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Deletion?[golygu cod]

Hey Twm Crys, do you reckon this page should be deleted? Pentrefi Gorllewin Canolbarth Lloegr (sir). It doesn't seem to have any real content. Delsion23 (talk) 19:42, 12 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Also, are Y Cenhedloedd and Cenhedlig the same topic? Should hey be merged? Delsion23 (talk) 12:09, 14 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Regarding 'Y Cenhedloedd' and 'Cenhedlig'. Yes, they are indeed the same thing, though one is a noun ('Y Cenhedloedd' - gentiles) and the other an adjective ('cenhedlig' - gentile). I'm perhaps not impartial as I created the page Y Cenhedloedd, many moons ago, but as that is the term used in the Welsh Bible and in the Geiriadur Beiblaidd ('Biblical Dictionary') I'd say that 'Cenhedlig' should be redirected to 'Y Cenhedloedd'. But I don't claim to be a Biblical scholar so others might disagree. Anatiomaros (sgwrs) 21:32, 15 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig[golygu cod]

Mond wedi edrychar un neu ddau, ond dyma rhai sylwadau:

1. Disgrifiadau cyffredinol (o ddynodiad). Dwi'n meddwl bod hyn yn iawn fel sy'n ymddangos o dan y pennawd 'Cyffredinol' yma, ond sylwaf hefyd bod y canlynol yn ymddangos ymhob erthygl o dan y pennawed 'Math o Safle':

"Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod."

Mae hyn yn gamarweinoiol braidd, gan bod hyn yn awgrymu mai dyma'r rhywiogaethau a geir yn y safle penodol, ond pan edrychaf am fanylion Meysydd Afon Conwy ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi'r disgrifiad canlynol, sy'n dra wahanol o ran rhywiogaethau:

Dynodwyd y safle hwn oherwydd bod yma borfa wlyb sy’n llawn blodau gwyllt. Mae safle Afon Conwy Pastures yn gorwedd rhyw un cilometr i’r gogledd orllewin o bentref Ysbyty Ifan ac mae’n cynnwys llain gul o dir o fewn cwm afon gyda llethrau serth sy’n gorwedd yn union gyfagos i Afon Conwy,. Mae’r glaswelltir yn cynnwys porfa frwynog flodeuog ac mae planhigion fel llysiau’r angel, erwain a gwalchlys y gors yn tyfu mewn brithwaith gyda thir corsiog a nodweddir gan laswellt y gweunydd. Mae rhai darnau o’r safle yn cynnwys llawer o hesg a gwelir y sêr-hesgen, yr hesgen felen, yr hesgen lwydlas a’r hesgen gyffredin yn tyfu’n fynych yn y dywarchen. Hwnt ac yma gwelir mwsoglau a hesg sy’n ddibynnol ar amgylchiadau mwy basig ac sy’n tyfu felly ar dir llai asidaidd; yn eu plith mae hesgen y chwain a’r hesgen felynllwyd. Mae’r rhain i’w gweld yn fynych yn lleol. Mae darnau o laswelltir niwtral, er eu bod yn dlawd o ran eu rhywogaethau ar hyn o bryd, yn ychwanegu at y diddordeb. Mae yna hen gofnodion o’r ffacbysen chwerw, sy’n blanhigyn anghyffredin, yn tyfu ar y tir a gellir ei gweld yn tyfu o hyd ar dir cyfagos.

2.Lleoliad - er bod y safle wedi ei nodi ar y map, does dim disgrifiad o ble y mae'r safle

3.Dolen gwefan - Mae'r ddolen yn mynd ar dudalen cyffredinol Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymruer bod gan bob safle eu tudalen eu hunain. Mae'n biti nad ydy'r wefan yn defnyddio ID pob safle yn yr URL. Wyt ti wedi cael table o'r safleoedd? Oes modd gofyn am URL pob safle hefyd?

4.Categoriau posib. Gan bod ni'n gwybod pryd gafodd pob(?) safle eu dynodi, beth am hefyd gynnwys y cat 'Sefydlwyd yn xxxx' hefyd? Hefyd, sylwaf bod pob un wedi ei gynnwys yn Categori:Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru, ond os ydy'r ffynhonell wybodaeth a ddefnyddwyd yn cynnwys 'sir' hefyd, beth am eu had-drefnu i fod yn 'Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Sir X'. O ran y proisiect Llwybrau Byw wedyn, bydd y wybodaeth yn fwy lleol/penodol i ardal/llwybr ac felly'n fwy defnyddiol.

Diolch am yr holl waith. Mae'n debyg byddai'r uchod wedi ei gynnwys petai'r wybodaeth ar gael yn hawdd, ond meddwl byddai'n werth ei nodi ta beth rhag ofn.--Rhyswynne (sgwrs) 09:35, 27 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr Rhys. Mi fues yn ystyried prun ai cynnwys yr enghraifft ai peidio. Efallai mai gwell fyddai peidio a chynnwys y cymal: er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Lleoliad - does dim gwybodaeth ar gronfa ddata CNC; ond rwan mae'r erthyglau i fyny, gallaf gywain peth gwybodaeth o en. Dolen refs: Mae dolen i'r brif wefan, fel ag y mae, yn gywir; ond fel y dywedi, pe bai modd dolennu'n uniongyrchol i'r union dudalen byddai hynny'n well. Unwaith y byddaf wedi creu ailgyfeiriad o enwau Saesneg CNC i'r enwau Cymraeg a gyfieithais, yna bydd hyn yn bosib. Efallai fod trulio amser ar yr holl erthyglau sydd heb gyfeiriad o gwbwl yn bwysicach ac yn flaenoriaeth, fodd bynnag. Categoriau: fel 'lleoliad' uchod, doedd dim gwybodaeth, neu mi fyddai Botwm wedi'i wneud. Mae'r Categori presenol yn gywir, ond nid yn fanwl gywir, byddai rhestr o SafleoeddDdGA yn ol siroedd yn ddechrau da. Ond o leia mae gennym y rhain i weithio arnyn nhw. Diolch eto am dy sylwadau! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:52, 27 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]
Ol Nodyn: cymhara'r erthyglau Cymraeg gyda'r rhai Saesneg a wnaed gyda bot: w:en:Maesyprior, w:en:Beacon Bog neu w:en:Rhos Pwllygawnen er enghraifft! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:03, 27 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]
Mae Botwm newydd greu ailgyfeiriadau o'r enwau "swyddogol", Saesneg i enwau'r erthyglau (Cymraeg). Y cam nesa fydd canfod ym mha ardal mae pob un! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:47, 27 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Gwaith bot, plîs[golygu cod]

Tybed fedri di osod y bot anwyl ar waith i symud pob dydd o'r mis sydd rwan yn llenwi'r Categori:Misoedd i gategorïau'r misoedd unigol (newydd creu'r rhan fwyaf)? Gweler cat:misoedd am y cats newydd: sylwer bod Categori:Mawrth (mis) yn eithriad o ran enw. Does dim brys arbennig ond buasai'n braf cael tipyn o drefn. Mae'n siwr bydd sawl erthygl - gwyliau cyhoeddus ayyb - i'w rhoi yn y categorï newydd hefyd ond fedra i wneud hynny'n weddol hawdd. Diolch. Anatiomaros (sgwrs) 00:52, 16 Awst 2014 (UTC) (Symudwyd o Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000 gan Defnyddiwr:Llywelyn2000 23 Awst 2014.[ateb]

  - Llywelyn2000 (sgwrs) 08:22, 23 Awst 2014 (UTC)[ateb]


Diolch yn fawr - dyna arbed 365 o olygiadau diflas! Cofion cynnes, Anatiomaros (sgwrs) 23:19, 24 Awst 2014 (UTC)[ateb]

Erhyglau Diwrnodau'r Flwyddyn[golygu cod]

Symudwyd y cais canlynol o'r Caffi:

Hyd y gwelaf, mae cam-dreiglad ym mhob erthygl diwrnodau'r flwyddyn, yn yr un lle. Dywed ym mhob un "erys X diwrnod arall hyd diwedd y flwyddyn"; yn amlwg, dylai ddweud "hyd ddiwedd". Oes modd cywiro'r gwallau hyn heb newid pob erthygl yn unigol?

Cofion —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 2.24.83.223 (sgwrscyfraniadau) 18 Awst 2014 (UTC)

  - BOT-Twm Crys (sgwrs) 22:31, 25 Awst 2014 (UTC)[ateb]


sielo[golygu cod]

Rwyf wedi mynd ati i gywiro'r iaith yn yr erthygl Sielo gan nad oes neb wedi cymhwyso'r ffurf awtomatig. Rwy'n bwriadu ychwanegu at offerynnau eraill maes o law. Ydy hyn yn iawn? ApGlyndwr (sgwrs) 09:40, 1 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

Dwi wedi cywiro ychydig ar dudalen y fiola hefyd. Gobeithiaf ychwanegu at un y ffidil nesaf. ApGlyndwr (sgwrs) 14:19, 1 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]
@ApGlyndwr: - ych, gas gen i'r ffurf 'sielo' - wedi arfer ers blynyddoedd efo 'soddgrwth' neu tsielo! Ond nol at y cwestiwn; mae cywiro efo BOT yn beryg gan y gall newid ffurfiau oddi fewn i air e.e. os am newid 'anwyl' i 'annwyl yna'r peryg ydy y bydde'r cythgam bach hefyd yn newid 'ganwyd' i 'gannwyd'! Yr un ydy'r broblem efo treigladau. Mae'r fersiwn Saesneg o'r cod yn gynhleth tu hwnt - gweler y dudalen yma. Wedi sgwrs efo un neu ddau o Ganolfan Bedwyr y dydd o'r blaen cychwynwyd dalen (Wicipedia:Wicibrosiect Gwiro sillafu) ar wici i ddatblygu api a fydd yn defnyddio cronfa / gwirydd sillafu'r Ganolfan. Dyma'r peth pwysicaf allwn ni ei wneud yn fy marn i, ond mae Canolfan Bedwyr angen rhyddhau aelod o staff i wneud y gwaith am gyfnod o tua pythefnos i fis. A diwedd y gân...? Felly dw i wrthi'n chwilio am gyfraniad i ryddhau'r person. Gyda llaw, mae croeso i ti gywro erthyglau (a fy ngwaith i plis!) gan fod gwir angen hynny - a does dim angen caniatad! Mae pob cywiriad dw i'n ei wneud yn wirfoddol, yn ystod awr ginio, coffi neu cyn / ar ol y gwaith, ac yn ddi-dâl, fel pawb arall! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:26, 1 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

Llysiau rhinweddol[golygu cod]

Tybed fedri di symud popeth sydd yn y Categori:Llysiau Rhinweddol i'r un newydd, Categori:Llysiau rhinweddol? Gwaith pum munud i'r bot, gobeithio. 'Sdim angen y llythyren fawr yn y gair 'rhinweddol' (Ew, dwi'n goblyn o un am gadw popeth yn daclus!). Diolch. Anatiomaros (sgwrs) 00:04, 16 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

Gret. Diolch gyfaill. Fory, gobeithio. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:48, 18 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]
@Anatiomaros: 4 munud! Cwbwlhawyd. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:09, 19 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]
Be? 4 munud! Drap, ac ro'n i'n siwr basai'n cymryd pump... Diolch i ti! Anatiomaros (sgwrs) 22:48, 19 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

Yr oedd > Roedd[golygu cod]

Pam newid hyn? Dwi ddim yn deall y rhesymeg drosto. Does dim byd o'i le efo defnyddio 'Yr oedd' yn lle 'Roedd' mewn erthygl. Yn ogystal, er bod 'roedd' yn fwy cyffredin y dyddiau hyn mae defnyddio 'Yr oedd' yn burion weithiau er mwyn pwyslais ac yn ddigon safonol hefyd, er yn ffurfiol braidd. Ond ar wahân i'r cwestiwn o ddewis arddull, mae'r bot wedi bod wrthi'n newid 'Yr oedd' i 'Roedd' mewn dyfyniadau allan o lyfrau, e.e. yma ac yma. Dwi ddim yn gweld unrhyw reswm dros newid hyn (Yr oedd > Roedd) ar draws y wici felly, ac yn enwedig gan fod y bot yn newid geiriad dyfyniadau mae pobl wedi'u copïo'n ofalus. Cofion, Anatiomaros (sgwrs) 23:56, 25 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

@Anatiomaros: Haia! Am yr union reswm ag y dywedi - fod y defnydd o 'Yr oedd' yn ffurfiol - rhy ffurfiol! Eithriad prin oedd y newid o fewn y dyfyniad, a gan fod y plys yn llawer mwy na'r un negydd hwn fe adewaias iddo newid y dyfyniad. Gyda llaw, mae'r ail enghraifft a roddi'n mynd at yr arddull (cywir) o roi ychwanegiad i ddolen yn hytrach na dolen ddwbwl: [[Eisteddfod|eisteddfodol]] -> [[eisteddfod]]ol. Dyma sy'n cael ei awgrymu'n draws-wici a gwnaed hwn yn otomatig gan BOTwm. Yn ola, doedd y newidiadau ddim 'ar draws y wici' - dim ond yn y categori pobl. Gan dy fod yn teimlo'n gryf am y newid yma, dw i wedi dileu'r newid 'Yr oedd' -> 'Roedd'. Ysywaeth, bydd yn rhaid newid y ffurf hen ffasiwn 'Yr oedd' sydd yng nghorff yr erthyglau, rwan, gyda llaw - a dw i ddim yn gweld neb yn gwneud hynny am yr 20 mlynedd nesaf! Felly hefyd 'Y mae' -> 'Mae'. BOT-Twm Crys (sgwrs) 05:54, 26 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]
Diolch Llywelyn. Dwi ddim yn biwis amdano - mi wn dy fod yn gweithio'n ddiffuant i wella'r wici - ond ar y llaw arall dwi jest dim yn gweld y pwynt. Mae'r ddadl am arddull yn un peth - dwi'n defnyddio'r ffurf "ffurfiol"/llenyddol fy hun weithiau er mwyn pwyslais neu am dipyn o amrywiaeth achos fel yna dwi wedi sgwennu erioed - ond mae newid arddull y dyfyniadau yn fater arall; dyfyniad ydyw i fod, nid aralleiriad. Hefyd, gan nad oes gennym rheolau ynglŷn â hyn, a byddai rheol o'r fath yn siwr o blesio rhai a digio eraill, dwi ddim yn gweld sail dros newid fel hyn gan y bot beth bynnag; mater o farn ac arfer unigolion ydy o. Rheitiach o lawer fyddai ddefnyddio'r bot i gywiro'r teipos niferus a'r camsillafu ayyb sy'n britho rhai erthyglau. (ON Gobeithio dydy'r bot ddim wedi bod wrthi'n newid 'yr oedd' (llythyren fach) hefyd neu byddai "Merthyr oedd..." yn troi'n "Merthroedd..."!). Hwyl, Anatiomaros (sgwrs) 23:29, 26 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]
OON Ynglŷn â'r "peipio" (e.e. [[Eisteddfod|eisteddfodol]] -> [[eisteddfod]]ol), roeddwn i'n meddwl mai'r gwrthwyneb oedd yn wir. Yn sicr ein harfer ni ar cy. dros y blynyddoedd ydy osgoi pethau fel [[eisteddfod]]ol. Does dim llawer o wahaniaeth y naill ffordd na'r llall mewn achos fel [[eisteddfod]]ol, ond gobeithio bydd y bot yn medru gwahaniaethu rhwng hynny a rhywbeth fel [[Yr Oesoedd Canol|canoloesol]], sy'n hanfodol er mwyn osgoi ailgyfeiriadau. Anatiomaros (sgwrs) 23:39, 26 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

Gweidyddion Cymreig[golygu cod]

@Penyderyn: Angen newid: Categori:Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011–2015 i Sgwrs Categori:Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011–2016 ar gais Defnyddiwr:Penderyn Diolch! 80.193.135.9 16:12, 31 Awst 2015 (UTC)[ateb]

Not sure what happened with the edit on 23 December, though the whole innards were replaced with a defsort statement. Telling you in case you want to check out other edits at about that time. Resurrected the page and added the defsort. Billinghurst (sgwrs) 00:45, 8 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]

@Billinghurst: Bot-Twm Crys seems to have deleted the whole page for some reason. Can't find others at the moment but will search again later. Thanks! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:55, 8 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]
There was one more: Frances Fowler. Diolch i ti! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:03, 8 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]

en:Module:Citation/CS1/Date validation/sandbox[golygu cod]

Why is a Welsh bot editing cs1|2 module pages at en.wiki? (here)

Please don't do that.

Trappist the monk (sgwrs) 12:46, 22 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]

@Trappist the monk: It was meant to change cy, not en. It was on for 35 seconds only as you can see here before the error was found. Don't get uptight about 35 seconds... "Please don't do that!" BOT-Twm Crys (sgwrs) 22:07, 22 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]
Am I now talking to the bot operator? Or is it the bot who speaks? I do not object to human editors editing the cs1|2 module sandboxen at en.wiki but I do object to bots doing so. When or if they do make such edits, no matter their duration, it is indicative to me something is amiss.
The purpose of my post here was to notify the bot operator that this bot is on record as having made edits that I believe that a bot should not be making. It is unfortunate that the bot operator finds that notification offensive because offence was not intended.
Trappist the monk (sgwrs) 00:15, 23 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]
@Trappist the monk: You can see on the bot's page that the bot operator is me, User:Llywelyn2000. When the bot is running, I'm unable to edit as another user, otherwise AWB stops altogether. No offense taken or given. BOT-Twm Crys (sgwrs) 06:18, 23 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]
"When the bot is running, I'm unable to edit as another user, otherwise AWB stops altogether." This surprises me. I run en:User:Monkbot on en.wiki and never login as Monkbot. Perhaps you have uncovered a bug in AWB that needs reporting and fixing.
Trappist the monk (sgwrs) 11:01, 23 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]
Not at all. They're aware of the limitation, and suggest: 'If you want to run AWB and do manual edits at the same time using 2 different accounts, use IE for your bot and do your manual edits in another browser like Firefox or Opera.' I'll give it some thought. BOT-Twm Crys (sgwrs) 11:35, 23 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]

You have been a medical translators within Wikipedia. We have recently relaunched our efforts and invite you to join the new process. Let me know if you have questions. Best Doc James (talk · contribs · email) 12:34, 13 August 2023 (UTC)