Sgwrs Categori:Pentrefi Lloegr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Trefn y wyddor?[golygu cod]

Sylwaf bod y mwyafrif yn dodo o dan 'S' gan bod enw'r sir/swydd yn dechrau gyda 'Swydd...' ond nid felly gyda Swydd Bedford/ Swydd Caer. Pa dref dylid ei ddilyn a bydd angen cysini hyn ar draws holl gategoriau Lloegr wedyn. Yn bersonol baswn i'n dwud mai Swydd Bedford a Chaer yn aiwn o dan B a C. --Rhyswynne (sgwrs) 13:33, 8 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Dwi'n cytuno ond digon hawdd eu newid a'u cysoni. Pwysicach efallai yw'r enwau anghywir sydd gennym am 'West Yorkshire' ac ambell sir arall: 'Gorllewin Swydd Efrog' y dylai fod, ond 'Swydd Gorllewin Efrog' sy gennym ni ers blynyddoedd (dwi ar fai yn raddol - dylswn i wedi eu newid flynyddoedd yn ôl ond roedd 'na wastad rywbeth gwell i'w wneud!). Sylwaf hefyd fod categoriau anghywir (gwag, wrth lwc) eraill wedi cael eu creu, e.e. 'Categori:Gorllewin Efrog': mae angen 'Swydd' o flaen yr enwau hyn. Anatiomaros (sgwrs) 20:34, 8 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Dwi wedi symud/newid Gorllewin Swydd Efrog ond heb creu pob is-gategori newydd achos mae'n boeth a dwi'n flinedig ac mae'n dipyn o waith - e.e. mae Categori:Trefi Swydd Gorllewin Efrog wedi cael ei roi yn y categori newydd Categori:Gorllewin Swydd Efrog am rwan ond bydd angen symud y cynnwys i Categori:Trefi Gorllewin Swydd Efrog rywbryd. Hefyd wedi newid yr eginyn a'i gategori. Bydd rhaid sortio Dwyrain a De Swydd Efrog hefyd pan gawn amser. Anatiomaros (sgwrs) 21:07, 8 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Dewch a rhestr i mi ei newid!

  • Swydd Gorllewin Efrog > Gorllewin Swydd Efrog
  • Swydd Gogledd Efrog > Gogledd Swydd Efrog
  • Swydd De Efrog > De Swydd Efrog
  • Swydd Dwyrain Efrog > Dwyrain Swydd Efrog (neu Riding Dwyrain Swydd Efrog; Riding Dwyreiniol Efrog sydd gennym ar hyn o bryd.)
  • Categori:Swydd Gorllewin Efrog > Categori:Gorllewin Swydd Efrog
  • Categori:Swydd Gogledd Efrog > Categori:Gogledd Swydd Efrog
  • Categori:Swydd De Efrog > Categori:De Swydd Efrog
  • Categori:Swydd Dwyrain Efrog > Categori:Dwyrain Swydd Efrog
  • Categori:Pentrefi Swydd Gorllewin Efrog > Categori:Pentrefi Gorllewin Swydd Efrog
  • Categori:Pentrefi Swydd Gogledd Efrog > Categori:Pentrefi Gogledd Swydd Efrog
  • Categori:Pentrefi Swydd De Efrog > Categori:Pentrefi De Swydd Efrog
  • Categori:Pentrefi Swydd Dwyrain Efrog > Categori:Pentrefi Dwyrain Swydd Efrog
  • Categori:Trefi Swydd Gorllewin Efrog > Categori:Trefi Gorllewin Swydd Efrog
  • Categori:Trefi Swydd Gogledd Efrog > Categori:Trefi Gogledd Swydd Efrog
  • Categori:Trefi Swydd De Efrog > Categori:Trefi De Swydd Efrog
  • Categori:Trefi Swydd Dwyrain Efrog > Categori:Trefi Dwyrain Swydd Efrog

arall...

Gyda llaw, cafwyd sgwrs ynglyn a hyn yn fama.

Dwi'n meddwl fod dy restr uchod yn weddol gyflawn, hyd y gwelaf. Does dim brys neillduol cyn belled â bod pob dim mewn lle erbyn i dy fot greu tudalennau am bentrefi'r siroedd yma. Anatiomaros (sgwrs) 16:51, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Gret. Pa un:
Dwyrain Swydd Efrog (neu Riding Dwyrain Swydd Efrog; Riding Dwyreiniol Efrog? Ma nhw i gyd yn swnio'n chwithig i mi! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:29, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Ia, coblyn o ddewis! Mae "Dwyrain Riding Efrog" yn hyll yn ogystal ag anghywir (East Riding of Yorkshire nid 'York'). O edrych ar y rhyngwici mae dau ateb gan wicis eraill: 1. Derbyn yr enw Saesneg. 2. Cyfieithu 'Dwyrain' yn unig am 'East Riding'. O'r ddau dwi o blaid yr olaf, sef 'Dwyrain Swydd Efrog'. Anatiomaros (sgwrs) 18:47, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Syml, effeithiol a naturiol! Gret, ac ailgyfeio'r gweddill ato. Mi adawa i nodyn ar dudalen Sgwrs Adam, gan i ni gael trafodaeth ynglyn a hyn ychydig yn ol. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:15, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Cytuno gyda "Dwyrain Swydd Efrog", ffurf syml a naturiol. —Adam (sgwrscyfraniadau) 23:01, 11 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Diolch Adam. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:27, 12 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Gwahanu'r Nodyn trefi a phentrefi[golygu cod]

Ar hyn o bryd un nodyn sydd am drefi a phentrefi, ac awgrymaf ein bod yn dileu'r pentrefi o'r nodyn hwn ym mhob swydd yn Lloegr. Mae Nodyn pentrefi'n ddibwrpas, dw i'n meddwl, gan fod cymaint ynddyn nhw - 3-500 fel arfer! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:37, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Cytuno: mae'r trefi yn hen ddigon neu bydd y nodyn yn hirach na gweddill y dudalen! Anatiomaros (sgwrs) 16:52, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]