Symbolau cenedlaethol Cymru
Dyma restr o symbolau cenedlaethol Cymru. Mae'r rhestr yn cynnwys cymysg o symbolau swyddogol ac answyddogol ac yn cynnwys esboniad a chyd-destun hanesyddol.
Diwylliant Cymru |
---|
Traddodiad |
Llenyddiaeth |
Cerddoriaeth |
Bwyd |
Dathliadau a gwyliau |
Chwaraeon |
Crefydd |
Hanes |
WiciBrosiect Cymru |
Baneri
[golygu | golygu cod]Fel arwyddlun, mae draig goch Cymru wedi'i defnyddio ers teyrnasiad Cadwaladr, Brenin Gwynedd o tua 655AD ac mae'n bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[1] | |
Baner Teyrnas Gwynedd, tywysogaidd Aberffraw, gyda phedwar llew, un ymhob charter.[2] | |
Mae baner Owain Glyndŵr yn gysylltiedig â chenedligrwydd Cymreig. [3] Cafodd ei gludo i frwydr gan luoedd Cymru yn ystod brwydrau Glyndŵr yn erbyn y Saeson, ac mae'n cynnwys pedwar llew ar goch ac aur. Mae'r safon yn debyg i arfbais Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf), Tywysog olaf Cymru cyn goresgyniad Cymru gan Edward I o Loegr. Mae'n bosib fod arfbais rhieni Glyndwr wedi dylanwadu ar y cynllun, gan yr oedd gan y ddau ohonynt lewod yn eu harbeisiau.[4] | |
Mae Baner Dewi Sant, nawddsant Cymru yn cael ei defnyddio weithiau fel dewis amgen i'r faner genedlaethol, ac yn cael ei chwifio ar Ddydd Gŵyl Dewi.[5] | |
Defnyddiwyd Y Ddraig Aur gan Uthr Penddraig[6], Brenin Arthur[7] ac Owain Glyndŵr.[8] Tystiwyd bod y faner hon wedi'i chwifio gan fyddin Glyndwr ym Mrwydr Tuthill yng Nghaernarfon. Hedfanwyd y ddraig trwy gydol ymgyrch Glyndwr dros annibyniaeth i Gymru.[9][10][11] Priodolir y ddraig aur hefyd i'r Brenin Arthur ac mae rhai yn dadlau dros ddraig Gymreig wreiddiol o liw "aur cochlyd".[12] Mae'r faner yn y llun yn seiliedig ar sêl gyfrin Glyndwr.[13] |
Herodraeth Gymreig
[golygu | golygu cod]Mae'r Ddraig Goch yn symbol o Gymru sy'n ymddangos yn Cyfranc Lludd a Lleuelys, Historia Brittonum, Historia Regnum Britianniae, a'r triawdau Cymreig . Yn ôl y chwedl, Gwrtheyrn, Brenin y Brythoniaid Celtaidd o Bowys yn ceisio adeiladu caer yn Ninas Emrys, ond mae'r castell yn dymchwel. Dywedir Myrddin/Ambrosius wrtho i gloddio am ddwy ddraig o dan y castell. Mae'n darganfod draig goch s'yn cynrychioli'r Brythoniaid Celtaidd (Cymry bellach) a draig wen s'yn cynrychioli Eingl-Sacsoniaid (Seisnig bellach). Mae Myrddin/Ambrosius yn proffwydo y bydd y Brythoniaid Celtaidd yn adennill yr ynys ac yn gwthio'r Eingl-Sacsoniaid yn ôl i'r môr. [14] Fel arwyddlun, defnyddiwyd ddraig goch wedi cael ei defnyddio ers teyrnasiad Cadwaladr, Brenin Gwynedd o tua 655 OC ac mae'n bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[1] | |
Arfbais Traddodiadol Tŷ Aberffraw, Gwynedd ac arfbeisiau personol Llywelyn Fawr.[15] | |
Defnyddiodd Owain Glyndŵr yr arfbais hon tra'n Dywysog Cymru, o 1400.[16] | |
Mae'r arfbais Gymreig, neu Fathodyn Brenhinol Cymru yn seiliedig ar arfbais tywysogion brodorol Cymru o'r 13eg ganrif.[17] |
Planhigion ac anifeiliaid
[golygu | golygu cod]Mae'r genhinen yn arwyddlun cenedlaethol Cymru.[18] Yn ôl y chwedl, gorchmynnodd Brenin Cadwaldr Gwynedd filwyr Cymreig i adnabod eu hunain trwy wisgo'r genhinen ar eu harfwisg mewn brwydr hynafol.[19] | |
Y genhinen bedr yw blodyn cenedlaethol Cymru, a wisgir ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yng Nghymru. Gelwir y genhinen ar ôl Sant Pedr.[20] | |
Y Dderwen Digoes, a elwir hefyd y Dderwen Gymreig yw coeden genedlaethol Cymru.[21] | |
Mae’r barcud coch yn cael ei enwi weithiau fel symbol cenedlaethol bywyd gwyllt Cymru.[22] |
Yr Iaith Gymraeg
[golygu | golygu cod]Mae'r Gymraeg yn cael ei hystyried yn symbol ac yn eicon o Gymru ac yn cael ei hystyried yn "gonglfaen hunaniaeth Gymreig". Wedi'i siarad ledled Cymru gan tua 750,000 o bobl, mae'n bresennol ar deledu, radio, arwyddion ffyrdd a marciau ffordd.[23]
Arwyddeiriau Cymreig
[golygu | golygu cod]- Mae "Cymru am byth" yn arwyddair Cymraeg poblogaidd.[24]
- Mae "Pleidol wyf i'm gwlad" o'r Anthem Genedlaethol Cymru, yn ymddangos ar y Sêl Gymreig [25]
- "Mae y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn" yn golygu fod y ddraig goch yn ysbrydoli gweithrediad[26] neu fod y ddraig goch yn arwain y ffordd.[27]
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Anthem genedlaethol draddodiadol Cymru yw Hen Wlad Fy Nhadau.[28] Ysgrifennwyd y geiriau gan Evan James a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab, James James, y ddau yn drigolion Pontypridd, Morgannwg, yn Ionawr 1856.[28][29] Mae'r copi ysgrifenedig cynharaf wedi goroesi ac yn rhan o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[29]
Ystyrir corau meibion yn symbol Cymreig. Ymhlith aelodau traddodiadol y mudiad mae côr Treorci a chôr Treforys. Yn fwy diweddar, mae llwyddiant Only Men Aloud hefyd wedi chwarae rhan wrth barhau â’r traddodiad hwn. [23]
Ystyrir y delyn Gymreig, a elwir hefyd y delyn deires, yn offeryn cenedlaethol Cymru.[30]
Celf
[golygu | golygu cod]Mae’r llwy garu hynaf y gwyddys amdano o Gymru, sy’n cael ei arddangos yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ger Caerdydd, yn dyddio o 1667, er y credir fod tarddiad y llwy bren yn hyn na hynny. [31]
Gwisg draddodiadol
[golygu | golygu cod]Cafodd yr het Gymreig unigryw, a ymddangosodd gyntaf yn y 1830au, ei defnyddio fel eicon o Gymru o'r 1840au. [32]
O'r 1880au, pan aeth y wisg draddodiadol allan o ddefnydd cyffredinol, cafodd rhai elfennau ohoni eu mabwysiadu fel Gwisg Genedlaethol. O hynny allan fe'i gwisgid gan wragedd mewn digwyddiadau megis gan gorau, yn yr eglwys a'r capel, i dynnu lluniau ac yn achlysurol mewn eisteddfodau . Fe'i gwisgwyd gyntaf gan ferched fel dathliad ar Ddydd Gŵyl Dewi ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r wisg bellach yn cael ei chydnabod fel gwisg genedlaethol Cymru.[33]
Symbolau o ddeilliad Seisnig
[golygu | golygu cod]Mae'r defnydd o'r plu i symboleiddio Cymru yn ddadleuol iawn, megis ei ddefnydd gan undeb rygbi Cymru.[34][35][36][37]Mae'r bathodyn yn cynrychioli Dug Cernyw neu Etifedd y frenhiniaeth Brydeinig.[38] Mae'n cynnwys plu mewn coron gyda'r geiriau Almaenig Ich dien (Rwy'n gwasanaethu).
Mae sawl tîm cynrychioliadol Cymreig, gan gynnwys undeb rygbi Cymru, a chatrawdau Cymreig yn y Fyddin Brydeinig yn defnyddio fersiwn o'r bathodyn. Bu ymdrechion i gwtogi ar y defnydd o'r arwyddlun at ddibenion masnachol a chyfyngu ei ddefnydd i'r rhai a awdurdodwyd gan "Dywysog Cymru" y frenhiniaeth Brydeinig. [39] |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Wales history: Why is the red dragon on the Welsh flag?". BBC News (yn Saesneg). 2019-07-06. Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ The arms and flag have four squares alternating in gold and red (representing the Royal House of Aberffraw and iron, or Mars the god of War). Each square has a lion of the opposite colour. The lion is looking at the observer and has 3 paws on the ground and one raised high in the air ("passant guardant"); the tongue is stuck-out ("langued") and the claws outstretched claws ("armed"). Both are blue ("Azur". This represents primacy in Wales).
- ↑ WalesOnline (2004-09-15). "Flying the flag to remember Glyndwr". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-12.
- ↑ "BBC Wales - History - Themes - Welsh flag: Banner of Owain Glyndwr". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-07-29.
- ↑ "BBC - Wales - History - Themes - Flag of St David". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ Ferris, William N. (1959). "Arthur's Golden Dragon". Romance Notes 1 (1): 69–71. ISSN 0035-7995. JSTOR 43800958. https://www.jstor.org/stable/43800958.
- ↑ Ferris, William N. (1959). "Arthur's Golden Dragon". Romance Notes 1 (1): 69–71. ISSN 0035-7995. JSTOR 43800958. https://www.jstor.org/stable/43800958.
- ↑ "Enter the Dragon: Revealing the history of the Welsh flag". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-02. Cyrchwyd 2022-09-03.
- ↑ nathenamin (2011-11-08). "History of Welsh Flags" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-03.
- ↑ "Enter the Dragon: Revealing the history of the Welsh flag". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-02. Cyrchwyd 2022-09-03.
- ↑ WalesOnline (2013-04-27). "Is the Welsh dragon the most important object in Welsh history?". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-03.
- ↑ Ferris, William N. (1959). "Arthur's Golden Dragon". Romance Notes 1 (1): 69–71. ISSN 0035-7995. JSTOR 43800958. https://www.jstor.org/stable/43800958.
- ↑ "Seal impression: Owain Glyn Dwr Privy seal". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-19.
- ↑ "Red Dragon of Wales". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2022-08-12.
- ↑ Depicted in Cambridge Corpus Christi College Parker Library MS 16 II, fol. 170r (Chronica Majora, c. 1250).
- ↑ "Medieval copper alloy armorial mount". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ "First Welsh law's royal approval" (yn Saesneg). 2008-07-09. Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ Ben Johnson. "The Leek - National emblem of the Welsh". Historic UK. Cyrchwyd 2017-03-03.
- ↑ "National symbols of Wales". Wales (yn Saesneg). 2019-07-03. Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ "National symbols of Wales". Wales (yn Saesneg). 2019-07-03. Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ "Tree trail with worldwide flavour" (yn Saesneg). 2004-07-23. Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ "The RSPB: Red kite voted Wales' Favourite Bird". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-23. Cyrchwyd 2023-02-15.
- ↑ 23.0 23.1 "National symbols of Wales". Wales (yn Saesneg). 2019-07-03. Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ "Cymru am byth! The meaning behind the Welsh motto". WalesOnline. 6 February 2015. Cyrchwyd 22 March 2016.
- ↑ "Signed, sealed, delivered: Queen approves Welsh seal". BBC News. 15 December 2011. Cyrchwyd 3 October 2022.
- ↑ "NATO Summit Wales 2014 logo unveiled". GOV.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ "The £1 Coin - The United Kingdom £1 Coin". www.royalmint.com/. Royal Mint. Cyrchwyd 3 October 2022.
- ↑ 28.0 28.1 "Welsh National Anthem". wales.com. Welsh Government. 2014. Cyrchwyd 24 May 2014.
Hen Wlad Fy Nhadau gradually became accepted as Wales' national anthem – though to this day, it has no official status as such.
- ↑ 29.0 29.1 "Welsh anthem – The background to Hen Wlad Fy Nhadau". Wales history. BBC Cymru Wales. 1 December 2008. Cyrchwyd 3 December 2010.
- ↑ "Celebrating the Welsh harp and our traditional Celtic folk roots". Wales (yn Saesneg). 2022-08-02. Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 523. ISBN 978-0-7083-1953-6.
- ↑ Christine Stevens, 'Welsh Peasant Dress – Workwear or National Costume', Textile History 33, 63–78 (2002)
- ↑ Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. tt. 931–932. ISBN 978-0-7083-1953-6.
- ↑ "Daffodils, leeks and ruffled feathers: do national symbols matter?". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-01-09. Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ David, Corrie (2021-11-02). "Thousands sign petition for WRU to change emblem to a dragon". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-18.
- ↑ Williams, Nino (2018-11-25). "The uncomfortable truth about the three feathers symbol embraced by Wales". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-19.
- ↑ "Yes Cymru propose alternative crests for WRU that ditch the three feathers". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2021-10-30. Cyrchwyd 2022-02-19.
- ↑ Williams, Nino (2018-11-25). "The uncomfortable truth about the three feathers symbol embraced by Wales". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-12.
- ↑ Burson, Sam (2 March 2007). "Stop using my Three Feathers". Western Mail. Cardiff: Media Wales Ltd. Cyrchwyd 11 November 2010.