Neidio i'r cynnwys

Llanelwy

Oddi ar Wicipedia
Llanelwy
Mathdinas Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBear, Lannarstêr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanelwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2577°N 3.4416°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ035743 Edit this on Wikidata
Cod postLL17 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUGill German (Llafur)
Map

Dinas a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llanelwy (Saesneg: St Asaph). Yn gynt, roedd yn yr hen sir draddodiadol Sir y Fflint. Mae ganddi boblogaeth o tua 3,491 (Cyfrifiad 2001). Fe'i lleolir rhwng Afon Elwy ac Afon Clwyd ar yr A525 6 milltir i'r de o'r Rhyl a 5 i'r gogledd o Ddinbych. Mae'r A55 yn osgoi'r dref i'r gogledd. Mae Esgobaeth Llanelwy yn sedd Esgob Llanelwy, gyda'i eglwys gadeiriol ei hun, y lleiaf yng Nghymru. Ceir sawl adeilad hanesyddol yn y dref, e.e. yr elusendai o'r 17g ar y Stryd Fawr lle treuliodd Henry Morton Stanley gyfnod annedwydd iawn (1847 - 1856).

Y dref o'r gorllewin

Credir y lleolwyd caer Rufeinig Varis yn Llanelwy, ond hyd yn hyn mae ei lleoliad yn ansicr. Gorweddai ar Fryn Polyn efallai, ger y dref. Gwyddys fod tref Rufeinig fechan yn Llanelwy, ar diriogaeth y Deceangli.

Dywedir fod Cyndeyrn Sant, esgob Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd (canolbarth Yr Alban heddiw), wedi sefydlu clas yn Llanelwy tua'r flwyddyn 560. Pan ddychwelodd y sant i'r Alban gadawodd y clas yng ngofal ei ddisgybl Asaph (neu 'Asa'), ac mae'r enw Saesneg yn dod o'r cysylltiad hwnnw.

Codwyd eglwys gadeiriol ar y safle presennol tua 1100. Ymwelodd Gerallt Gymro â Llanelwy yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Cynhaliodd y Gwyneddigion eisteddfod yn y dref yn 1790. Enillydd y Fedal Arian oedd y bardd Dafydd Ddu Eryri am ei awdl 'Rhyddid'.

Hynafiaethau

[golygu | golygu cod]

Codwyd eglwys gadeiriol yn Llanelwy tua 1100. Cafodd ei llosgi i lawr yn 1282 gan luoedd Edward I o Loegr ac eto yn 1402 yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr. Dioddefodd dân yn y Rhyfel Cartref hefyd. Cafodd ei hanewyddu'n sylweddol gan George Gilbert Scott yn 1869. (gweler Eglwys Gadeiriol Llanelwy.)

Mae eglwys y plwyf yn hynafol hefyd. Fe'i codwyd ar ddiwedd y 13g a'i chysegru i'r seintiau Pawl a Chyndeyrn, ond mae'r rhan fwyaf o'r adeiladwaith presennol yn dyddio o'r 15g.

Ger y dref ceir Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno, ogofâu calchfaen a breswylid yn Hen Oes y Cerrig.

Statws Dinas 2012

[golygu | golygu cod]

Ar 14 Mawrth 2012, cyhoeddwyd bod Llanelwy i gael ei rhoi statws dinas gan y Frenhines i nodi ei Jiwbilî Diemwnt, ynghyd â Chelmsford a Pherth.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanelwy (pob oed) (3,355)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanelwy) (745)
  
22.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanelwy) (2140)
  
63.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanelwy) (554)
  
38.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
 
Dinasoedd yng Nghymru
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Llanelwy | Tyddewi