Neidio i'r cynnwys

Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Cymru
Shirt badge/Association crest
ConffederasiwnUEFA (Ewrop)
HyfforddwrCraig Bellamy
Mwyaf o GapiauGareth Bale (111)
Prif sgoriwrGareth Bale (41)
Cod FIFAWAL
Safle FIFA31 (10 Gorffennaf 2025)[1]
Safle FIFA uchaf8 (Hydref 2015)
Safle FIFA isaf117 (Awst 2011)
Safle Elo30 (18 Hydref 2019) [2]
Safle Elo uchaf3 (1876~1885)
Safle Elo isaf88 (Mawrth 2011)
Lliwiau Cartref
Lliwiau
Oddi Cartref
Gêm ryngwladol gynaf
Baner Yr Alban yr Alban 4–0 Baner Cymru Cymru
(Glasgow; 26 Mawrth 1876)
Y fuddugoliaeth fwyaf
Baner Cymru Cymru 11–0 Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
(Wrecsam; 3 Mawrth 1888)
Colled fwyaf
Baner Yr Alban yr Alban 9–0 Baner Cymru Cymru
(Glasgow; 23 Mawrth 1878)
Cwpan FIFA y Byd
Ymddangosiadau2 (Cyntaf yn 1958)
Canlyniad gorauRownd Go-gynderfynol, 1958
Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop
Ymddangosiadau2 (Cyntaf yn 2016)
Canlyniad gorauRownd Gyn-derfynol, 2016
Gwefanfaw.cymru/cy/
Cymru yn erbyn Gwlad Belg, Stadiwm Dinas Caerdydd, 12 Mehefin 2015

Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru (Saesneg: Wales national football team) yw'r tîm sy'n cynrychioli Cymru mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Tîm Cymru yw'r trydydd hynaf o holl dimau pêl-droed cenedlaethol y byd. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn yr Alban ar 25 Mawrth 1876 yn Glasgow. Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru ar y Cae Ras, Wrecsam ar 5 Mawrth 1877, eto yn erbyn yr Alban.

Mae Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol prif bencampwriaethau'r byd pêl-droed ddwywaith, sef Cwpan y Byd Pêl-droed 1958 a phencampwriaeth Ewro 2016. Llwyddodd Cymru hefyd i gyrraedd rownd yr wyth olaf o Bencampwriaethau Ewrop 1976, sef y flwyddyn olaf y cafodd y gystadleuaeth honno ei chynnal dros ddau gymal. Yn 2022, curodd Cymru dîm Wcráin, gan gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, cyfnod o 64 o flynyddoedd.

Yn Ebrill 2013, agorodd Parc y Ddraig, Canolfan Datblygu Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, yng Nghasnewydd.

Y Blynyddoedd Cynnar

[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Cymru ei gêm gystadleuol gyntaf ar 25 Mawrth 1876 yn erbyn yr Alban yn Glasgow gan ei gwneud y trydydd tîm pêl-droed rhyngwladol hyna'n y byd. Yr Alban enillodd y gêm gyntaf 4-0. Trefnwyd gêm gyfatebol yng Nghymru y flwyddyn ganlynol ac felly y cafwyd y gêm bêl-droed ryngwladol gyntaf ar dir Cymru, ar Gae Ras Wrecsam ar 5 Mawrth 1882. Enillodd yr Alban eto, 2-0 y tro hwn. Roedd y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr yn 1879 pan welwyd Cymru'n colli 2-1 yn Kennington Oval, Llundain ac yn 1882 wynebodd Cymru Iwerddon am y tro cyntaf gan ennill 7-1 yn Wrecsam.

Cyfarfu cynrychiolwyr y pedair gwlad ym Manceinion ar 6 Ragfyr 1882 i greu rheolau a thrwy hyn sefydlwyd Bwrdd y Cymdeithasau Pêl-droed Rhyngwladol. Yn 1883-84 ffurfiwyd Pencampwriaeth Cartref Prydain, twrnameint a chwaraewyd yn flynyddol rhwng Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Chymru hyd 1983-84. Bu Cymru'n bencampwr 12 gwaith.

Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2014

[golygu | golygu cod]

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp A ar gyfer gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ynghyd â Croatia, Serbia, Gwlad Belg, yr Alban a Macedonia. Ni lwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd, gan orffen yn bumed yn y grŵp rhagbrofol.

Gemau Rhagbrofol Ewro 2016

[golygu | golygu cod]

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp B ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2016 ynghyd ag Andorra, Gwlad Belg, Bosnia-Hertsegofina, Cyprus ac Israel. Ar 10 Hydref 2015, er colli yn erbyn Bosnia-Hertsegofina, llwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016, gan fod Cyprus wedi curo Israel. Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol ers Cwpan y Byd Pêl-droed 1958.[3] Gorffennodd Cymru yn ail yn y grŵp ar ôl curo Andorra o 2-0 yng Nghaerdydd ar 13 Hydref 2015.[4]

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/e +/- P
Baner Gwlad Belg Gwlad Belg 10 7 2 1 24 5 +19 23
Baner Cymru Cymru 10 6 3 1 11 4 +7 21
Baner Bosnia a Hertsegofina Bosnia a Hertsegofina 10 5 2 3 17 12 +5 17
Baner Israel Israel 10 4 1 5 16 14 +2 13
Baner Cyprus Cyprus 10 4 0 6 16 17 -1 12
Baner Andorra Andorra 10 0 0 10 4 36 -32 0
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2016
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle

Rowndiau Terfynol Ewro 2016

[golygu | golygu cod]

Ar 12 Rhagfyr 2015, tynnwyd enwau y timau i chwarae yn rowndiau terfynol Ewro 2016. Gosodwyd Cymru yng ngrŵp B, ynghyd â Lloegr, Rwsia a Slofacia.[5]

Ar 20 Mehefin 2016, llwyddodd Cymru i ennill Grŵp B, a chyrraedd rownd yr 16 olaf yng nghystadleuaeth Ewro 2016 wedi iddynt guro Rwsia o dair gôl i ddim.[6]

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/E +/- P
Baner Cymru Cymru 3 2 0 1 6 3 +3 6
Lloegr Lloegr 3 1 2 0 3 2 +1 5
Baner Slofacia Slofacia 3 1 1 1 3 3 0 4
Baner Rwsia Rwsia 3 0 1 2 2 6 -4 1
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i'r 16 olaf
Posibilrwydd o gyrraedd yr 16 olaf (os yn un o'r pedwar tîm trydydd safle gorau)
Ar ôl cyrraedd rownd gyn-derfynol pencampwriaeth UEFA Euro 2016, dychwelodd Tîm Pêl-droed Cymru i Gymru gan fynd ar daith bws agored drwy ganol dinas Caerdydd.

Ar 22 Mehefin, cyhoeddwyd y byddai Cymru yn wynebu Gogledd Iwerddon ym Mharis ar 25 Mehefin 2016 yn rownd yr 16 olaf. Enillodd Cymru y gêm 1-0, gan sicrhau eu lle yn y rownd go-gynderfynol.[7] Enillodd Cymru'r rownd honno o 3-1 yn erbyn Gwlad Belg[8], gan sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol cystadleuaeth bêl-droed ryngwladol am y tro cyntaf erioed. Portiwgal oedd gwrthwynebwyr Cymru yn y rownd gynderfynol. Nid oedd Ben Davies nac Aaron Ramsey yn gallu chwarae oherwydd gwaharddiad, wedi iddynt dderbyn dau gerdyn melyn yr un yn ystod y gystadleuaeth. Cafwyd gêm agos, ond colli 2-0 fu hanes Cymru, gan roi terfyn ar y freuddwyd o gyrraedd y rownd derfynol.[9]

Dychwelodd carfan Cymru a'r tîm hyfforddi i Gymru ar 8 Gorffennaf 2016. Ar ôl glanio ym Maes Awyr Caerdydd, teithiodd y garfan i Gastell Caerdydd, lle roedd torfeydd o filoedd yn aros i'w croesawu. Teithiodd y chwaraewyr ar fws to agored drwy ganol y brifddinas, gan orffen yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle cynhaliwyd cyngerdd gan amrywiol artistiaid, gan gynnwys y Manic Street Preachers a Kizzy Crawford.[10]

Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018

[golygu | golygu cod]

Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngemau Rhagbrofol Ewro 2016, gosodwyd Cymru ymhlith y deg tîm gorau yn y Byd yn rhestr safleoedd FIFA am y tro cyntaf erioed ym mis Gorffennaf 2015. Golygodd hynny fod Cymru ymhlith y detholion uchaf ar gyfer dewis y grwpiau ar gyfer Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018. Fe dynnwyd enwau'r timau ar 25 Gorffennaf 2015 yn St Petersburg, Rwsia. Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp D ynghyd ag Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon, Moldofa a Georgia.[11]

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/E +/- P
Baner Serbia Serbia 10 6 3 1 20 10 +10 21
Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon 10 5 4 1 12 6 +6 19
Baner Cymru Cymru 10 4 5 1 13 6 +7 17
Baner Awstria Awstria 10 4 3 3 14 12 +2 15
Baner Georgia Georgia 10 0 5 5 8 14 -6 5
Baner Moldofa Moldofa 10 0 2 8 4 23 -19 2
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i brif gemau Cwpan y Byd Pêl-droed 2018
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2018-19

[golygu | golygu cod]

Fe osodwyd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yng Ngrŵp 4, Cynghrair B y gystadleuaeth gychwynnol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn 2018-19. Ynghyd ag Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc.[12]

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/E +/- P
Baner Denmarc Denmarc 4 2 2 0 4 1 +3 8
Baner Cymru Cymru 4 2 0 2 6 5 +1 6
Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon 4 0 2 2 1 5 -4 2
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Dyrchafiad i Gynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd UEFA
Gostwng i Gynghrair C Cynghrair y Cenhedloedd UEFA

Gemau Rhagbrofol Ewro 2020

[golygu | golygu cod]

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp E ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2020 ynghyd ag Aserbaijan, Croatia, Hwngari a Slofacia. Fe fydd y ddau dîm fydd ar frîg y tabl ar ddiwedd y rowndiau rhagbrofol yn symud yn uniongyrchol i rowndiau terfynol Ewro 2020.

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/e +/- P
Baner Croatia Croatia 8 5 2 1 17 7 +10 17
Baner Cymru Cymru 8 4 2 2 10 6 +4 14
Baner Slofacia Slofacia 8 4 1 3 13 11 +2 13
Baner Hwngari Hwngari 8 4 0 4 8 11 -3 12
Baner Aserbaijan Aserbaijan 8 0 1 7 5 18 -13 1

Cywir ar 19 Tachwedd 2019

Allwedd i liwiau'r tabl
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2020

Canlyniadau Diweddar a Gornestau'r Dyfodol

[golygu | golygu cod]
Dyddiad Cystadleuaeth Canlyniad
15 Hydref 2013 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg 1 - 1 Baner Cymru Cymru
16 Tachwedd 2013 Cyfeillgar Baner Cymru Cymru 1 - 1 Baner Y Ffindir y Ffindir
5 Mawrth 2014 Cyfeillgar Baner Cymru Cymru 3 - 1 Baner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
4 Mehefin 2014 Cyfeillgar Baner Yr Iseldiroedd yr Iseldiroedd 2 - 0 Baner Cymru Cymru
9 Medi 2014 Rhagbrofol Ewro 2016 Baner Andorra Andorra 1 - 2 Baner Cymru Cymru
10 Hydref 2014 Rhagbrofol Ewro 2016 Baner Cymru Cymru 0 - 0 Baner Bosnia a Hertsegofina Bosnia a Hertsegofina
13 Hydref 2014 Rhagbrofol Ewro 2016 Baner Cymru Cymru 2 - 1 Baner Cyprus Cyprus
16 Tachwedd 2014 Rhagbrofol Ewro 2016 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg 0 - 0 Baner Cymru Cymru
28 Mawrth 2015 Rhagbrofol Ewro 2016 Baner Israel Israel 0 - 3 Baner Cymru Cymru
12 Mehefin 2015 Rhagbrofol Ewro 2016 Baner Cymru Cymru 1 - 0 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg
3 Medi 2015 Rhagbrofol Ewro 2016 Baner Cyprus Cyprus 0 - 1 Baner Cymru Cymru
6 Medi 2015 Rhagbrofol Ewro 2016 Baner Cymru Cymru 0 - 0 Baner Israel Israel
10 Hydref 2015 Rhagbrofol Ewro 2016 Baner Bosnia a Hertsegofina Bosnia a Hertsegofina 2 - 0 Baner Cymru Cymru
13 Hydref 2015 Rhagbrofol Ewro 2016 Baner Cymru Cymru 2 - 0 Baner Andorra Andorra
13 Tachwedd 2015 Cyfeillgar Baner Cymru Cymru 2 - 3 Baner Yr Iseldiroedd yr Iseldiroedd
24 Mawrth 2016 Cyfeillgar Baner Cymru Cymru 1 - 1 Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
28 Mawrth 2016 Cyfeillgar Baner Wcráin Wcráin 1 - 0 Baner Cymru Cymru
5 Mehefin 2016 Cyfeillgar Baner Sweden Sweden 3 - 0 Baner Cymru Cymru
11 Mehefin 2016 Ewro 2016 Baner Cymru Cymru 2 - 1 Baner Slofacia Slofacia
16 Mehefin 2016 Ewro 2016 Lloegr Lloegr 2 - 1 Baner Cymru Cymru
20 Mehefin 2016 Ewro 2016 Baner Rwsia Rwsia 0 - 3 Baner Cymru Cymru
25 Mehefin 2016 Ewro 2016 (Rownd yr 16 Olaf) Baner Cymru Cymru 1 - 0 Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
1 Gorffennaf 2016 Ewro 2016 (Rownd Gogynderfynol) Baner Cymru Cymru 3 - 1 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg
6 Gorffennaf 2016 Ewro 2016 (Rownd Gynderfynol) Baner Portiwgal Portiwgal 2 - 0 Baner Cymru Cymru
5 Medi 2016 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Baner Cymru Cymru 4 - 0 Baner Moldofa Moldofa
6 Hydref 2016 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Baner Awstria Awstria 2 - 2 Baner Cymru Cymru
9 Hydref 2016 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Baner Cymru Cymru 1 - 1 Baner Georgia Georgia
12 Tachwedd 2016 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Baner Cymru Cymru 1 - 1 Baner Serbia Serbia
24 Mawrth 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon 0 - 0 Baner Cymru Cymru
11 Mehefin 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Baner Serbia Serbia 1 - 1 Baner Cymru Cymru
2 Medi 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Baner Cymru Cymru 1 - 0 Baner Awstria Awstria
5 Medi 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Baner Moldofa Moldofa 0 - 2 Baner Cymru Cymru
6 Hydref 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Baner Georgia Georgia 0 - 1 Baner Cymru Cymru
9 Hydref 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Baner Cymru Cymru 0 - 1 Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
10 Tachwedd 2017 Cyfeillgar Baner Ffrainc Ffrainc 2 - 0 Baner Cymru Cymru
14 Tachwedd 2017 Cyfeillgar Baner Cymru Cymru 1 - 1 Baner Panamâ Panama
22 Mawrth 2018 Cwpan Tsiena 2018 Baner Tsieina Gweriniaeth Pobl Tsieina 0 - 6 Baner Cymru Cymru
26 Mawrth 2018 Cwpan Tsiena 2018 Baner Wrwgwái Wrwgwái 1 - 0 Baner Cymru Cymru
29 Mai 2018 Cyfeillgar Baner Mecsico Mecsico 0 - 0 Baner Cymru Cymru
6 Medi 2018 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA Baner Cymru Cymru 4 - 1 Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
9 Medi 2018 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA Baner Denmarc Denmarc 2 - 0 Baner Cymru Cymru
11 Hydref 2018 Cyfeillgar Baner Cymru Cymru 1 - 4 Baner Sbaen Sbaen
16 Hydref 2018 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon 0 - 1 Baner Cymru Cymru
16 Tachwedd 2018 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA Baner Cymru Cymru 1 - 2 Baner Denmarc Denmarc
20 Tachwedd 2018 Cyfeillgar Baner Albania Albania 1 - 0 Baner Cymru Cymru
20 Mawrth 2019 Cyfeillgar Baner Cymru Cymru 1 - 0 Baner Trinidad a Thobago Trinidad a Thobago
24 Mawrth 2019 Rhagbrofol Ewro 2020 Baner Cymru Cymru 1 - 0 Baner Slofacia Slofacia
8 Mehefin 2019 Rhagbrofol Ewro 2020 Baner Croatia Croatia 2 - 1 Baner Cymru Cymru
11 Mehefin 2019 Rhagbrofol Ewro 2020 Baner Hwngari Hwngari 1 - 0 Baner Cymru Cymru
6 Medi 2019 Rhagbrofol Ewro 2020 Baner Cymru Cymru 2 - 1 Baner Aserbaijan Aserbaijan
10 Medi 2019 Cyfeillgar Baner Cymru Cymru 1 - 0 Baner Belarws Belarws
10 Hydref 2019 Rhagbrofol Ewro 2020 Baner Slofacia Slofacia 1 - 1 Baner Cymru Cymru
13 Hydref 2019 Rhagbrofol Ewro 2020 Baner Cymru Cymru 1 - 1 Baner Croatia Croatia
16 Tachwedd 2019 Rhagbrofol Ewro 2020 Baner Aserbaijan Aserbaijan 0 - 2 Baner Cymru Cymru
19 Tachwedd 2019 Rhagbrofol Ewro 2020 Baner Cymru Cymru 2 - 0 Baner Hwngari Hwngari

Chwaraewyr

[golygu | golygu cod]

Carfan ddiweddaraf

[golygu | golygu cod]

Enwodd Craig Bellamy y tîm ar gyfer y gêmau yn erbyn Casachstan a Canada ym mis Awst 2025.

Capiau a goliau yn dilyn 9 Mehefin 2025

0#0 Safle Chwaraewr Dyddiad geni (oed) Capiau Goliau Clybiau
1GG Danny Ward (1993-06-22) 22 Mehefin 1993 (32 oed) 44 0 Cymru Wrecsam
1GG Karl Darlow (1990-10-08) 8 Hydref 1990 (35 oed) 7 0 Lloegr Leeds United
1GG Adam Davies (1992-07-17) 17 Gorffennaf 1992 (33 oed) 5 0 Lloegr Sheffield United
2AM Ben Davies (is-gapten) (1993-04-24) 24 Ebrill 1993 (32 oed) 96 3 Lloegr Tottenham Hotspur
2AM Joe Rodon (1997-10-22) 22 Hydref 1997 (28 oed) 54 1 Lloegr Leeds United
2AM Chris Mepham (1997-11-05) 5 Tachwedd 1997 (27 oed) 49 0 Lloegr Bournemouth
2AM Neco Williams (2001-04-13) 13 Ebrill 2001 (24 oed) 47 4 Lloegr Nottingham Forest
2AM Ben Cabango (2000-05-30) 30 Mai 2000 (25 oed) 12 0 Cymru Dinas Abertawe
2AM Jay Dasilva (1998-04-22) 22 Ebrill 1998 (27 oed) 3 0 Lloegr Coventry City
2AM Ronan Kpakio (2007-05-25) 25 Mai 2007 (18 oed) 0 0 Cymru Dinas Caerdydd
2AM Dylan Lawlor (2006-01-01) 1 Ionawr 2006 (19 oed) 0 0 Cymru Dinas Caerdydd
3CC Harry Wilson (1997-03-22) 22 Mawrth 1997 (28 oed) 62 14 Lloegr Fulham
3CC David Brooks (1997-07-08) 8 Gorffennaf 1997 (28 oed) 35 5 Lloegr Bournemouth
3CC Jordan James (2004-07-02) 2 Gorffennaf 2004 (21 oed) 20 0 Ffrainc Rennes
3CC Sorba Thomas (1999-01-25) 25 Ionawr 1999 (26 oed) 18 1 Lloegr Stoke City
3CC Josh Sheehan (1995-03-30) 30 Mawrth 1995 (30 oed) 13 0 Lloegr Bolton Wanderers
3CC Charlie Crew (2006-06-15) 15 Mehefin 2006 (19 oed) 1 0 Lloegr Doncaster Rovers
3CC Kai Andrews (2006-08-06) 6 Awst 2006 (19 oed) 0 0 Lloegr Dinas Coventry
4YM Daniel James (1997-11-10) 10 Tachwedd 1997 (27 oed) 57 8 Lloegr Leeds Unedig
4YM Kieffer Moore (1992-08-08) 8 Awst 1992 (33 oed) 49 14 Cymru Wrecsam
4YM Brennan Johnson (2001-05-23) 23 Mai 2001 (24 oed) 37 6 Lloegr Tottenham Hotspur
4YM Nathan Broadhead (1998-04-05) 5 Ebrill 1998 (27 oed) 14 2 Cymru Wrecsam
4YM Mark Harris (1998-12-29) 29 Rhagfyr 1998 (26 oed) 11 0 Lloegr Rhydychen Unedig
4YM Liam Cullen (1999-04-23) 23 Ebrill 1999 (26 oed) 10 2 Cymru Dinas Abertawe
4YM Lewis Koumas (2005-09-19) 19 Medi 2005 (20 oed) 6 0 Lloegr Dinas Birmingham

Chwaraewyr eraill a alwyd i'r garfan yn ddiweddar

[golygu | golygu cod]
INJ Anaf
0#0 Safle Chwaraewr Dyddiad geni (oed) Capiau Goliau Clybiau
1GG Tom King (1995-03-09) 9 Mawrth 1995 (30 oed) 1 0 Lloegr Wolverhampton Wanderers
1GG David Harrington (2000-07-01) 1 Gorffennaf 2000 (25 oed) 0 0 Lloegr Fleetwood Town
2AM Neco Williams (2001-04-13) 13 Ebrill 2001 (24 oed) 47 4 Lloegr Nottingham ForestINJ
2AM Rhys Norrington-Davies (1999-04-22) 22 Ebrill 1999 (26 oed) 13 1 Lloegr Sheffield Unedig
2AM Owen Beck (2002-08-09) 9 Awst 2002 (23 oed) 0 0 Lloegr LerpwlINJ
3CC Kai Andrews (2006-08-06) 6 Awst 2006 (19 oed) 0 0 Lloegr Dinas Coventry
3CC Joe Allen (1990-03-14) 14 Mawrth 1990 (35 oed) 77 2 Wedi ymddeol
3CC Rubin Colwill (2002-04-27) 27 Ebrill 2002 (23 oed) 9 1 Cymru Dinas Caerdydd
3CC Charlie Savage (2003-05-02) 2 Mai 2003 (22 oed) 2 0 Lloegr Reading
3CC Wes Burns (1994-11-23) 23 Tachwedd 1994 (30 oed) 10 0 Lloegr Ipswich TownINJ
3CC Luke Harris (2005-03-04) 4 Mawrth 2005 (20 oed) 0 0 Lloegr Fulham INJ
3CC Aaron Ramsey (capten) (1990-12-26) 26 Rhagfyr 1990 (34 oed) 86 21 Mecsico Pumas UNAMINJ
4YM Daniel James (1997-11-10) 10 Tachwedd 1997 (27 oed) 57 8 Lloegr Leeds UnedigINJ
4YM Tom Lawrence (1994-01-31) 31 Ionawr 1994 (31 oed) 23 3 Yr Alban Rangers

Prif sgorwyr

[golygu | golygu cod]

Cywir ar 21 Gorffennaf 2025 (Mae'r chwaraewyr sy'n dal i chwarae mewn print trwm):

# Enw Goliau Capiau Cyfartaledd
1 Gareth Bale 41 111 0.4
2 Ian Rush 28 73 0.38
3 Trevor Ford 23 38 0.61
Ivor Allchurch 23 68 0.34
5 Dean Saunders 22 75 0.29
6 Aaron Ramsey 21 86 0.24
7 Craig Bellamy 19 78 0.27
8 Robert Earnshaw 16 59 0.27
Cliff Jones 16 59 0.22
Mark Hughes 16 72 0.27

Mwyaf o Gapiau

[golygu | golygu cod]

Cywir ar 10 Mehefin 2025 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):

# Enw Gyrfa Capiau Goliau
1 Gareth Bale 2006–2022 111 41
2 Chris Gunter 2007-2022 109 0
Wayne Hennessey 2007–2023 109 0
4 Ben Davies 2012- 96 3
5 Neville Southall 1992–1997 92 0
6 Aaron Ramsey 2008– 86 21
Ashley Williams 2008–2019 86 2
8 Gary Speed 1990-2004 85 7
9 Craig Bellamy 1998-2013 78 19
10 Joe Allen 2009-2025 77 2
Joe Ledley 2005-2018 77 4

Chwaraewyr Eraill gyda 50 neu fwy o gapiau

[golygu | golygu cod]

Cywir ar 2 Chwefror 2025 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):

Rheolwyr

[golygu | golygu cod]
Rhestrir rheolwyr dros dro yn italig.

Cyn 1954 roedd tîm Cymru yn cael ei ddewis gan banel o ddewiswyr, gyda'r capten yn chwarae rôl hyforddwr.

Nodiadau

Delwedd y tîm

[golygu | golygu cod]

Darlledu yn y cyfryngau

[golygu | golygu cod]

Mae hawliau darlledu teledu byw yn nwylo S4C (sylwebaeth yn y Gymraeg) a BBC Cymru Wales (sylwebaeth yn y Saesneg).

[golygu | golygu cod]

Ers tro, mae'r prif git wedi bod yn goch i gyd. Mae bathodyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnwys Draig Goch ar ei thraed ôl ar darian wen. O 1920 ymlaen, cafodd yr arfbais ei hamgylchynu gan ymyl goch, ac ychwanegwyd y llythrennau “FAW” yn 1926. Ailgynlluniwyd y bathodyn yn 1951, gan ychwanegu ymyl werdd gydag 11 cennin Pedr, ynghyd â’r arwyddair “Gorau Chwarae Cyd Chwarae”. Cafodd yr arwyddair ei hepgor dros dro yn 1984, ond arhosodd y bathodyn yn debyg iawn hyd at 2010, pan newidiwyd y darian i gynnwys ochrau crwn, a newidiwyd lliw’r faner ar yr arwyddair o wyn i goch a gwyrdd. Cafodd yr arwyddair ei dynnu eto yn 2019, yn dilyn ailgynllun mawr arall ar y bathodyn, a welodd frig y darian yn cael ei wastatáu a’r ochrau’n cael eu newid fel nad oeddent yn cromlinio allan; cafodd yr ymyl werdd ei deneuo a thynnwyd y cennin Pedr hefyd.[15]

Darparwr cit

[golygu | golygu cod]
Darparwr cit Cyfnod
Lloegr Admiral 1976–1980
Yr Almaen Adidas 1980–1987
Denmarc Hummel 1987–1990
Lloegr Umbro 1990–1996
Yr Eidal Lotto 1996–2000
Yr Eidal Kappa 2000–2008
Unol Daleithiau America Champion 2008–2010
Lloegr Umbro 2010–2013
Yr Almaen Adidas 2013–

Weithiau, cyfeirir at y tîm ac fe’i brandir yn un-enwol fel “Cymru” yn y ddwy iaith gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, gan fod y Gymdeithas yn defnyddio’r term yn ei chyfathrebiadau mewnol ac allanol. Ym mis Hydref 2022, cyhoeddodd y Gymdeithas ei bod yn ystyried ail-frandio’r tîm i ddefnyddio dim ond enw Cymraeg y wlad, gan hepgor y term “Wales”, yn dilyn Cwpan y Byd FIFA 2022. Dywedodd y Gymdeithas ei bod mewn trafodaethau gydag UEFA ynghylch sut i newid yr enw, ac iddi gael ei hysbrydoli gan ail-frandio Twrci i Türkiye, a pheidio bod y wlad olaf yn nhrefn yr wyddor mewn rhai digwyddiadau pêl-droed.[16][17][18] Dywedodd yr Athro Owen Worth o Brifysgol Limerick fod y cynnig hwn yn enghraifft o’r cysylltiad rhwng clybiau cefnogwyr y tîm a grwpiau o blaid annibyniaeth i Gymru megis YesCymru ac AUOB Cymru.[19]

Trefn llun y garfan cyn gêm

[golygu | golygu cod]
Photo of the Welsh national team posing before a game. There are four players standing and seven plays squatting, unevenly.
Llun cyn gêm Cymru yn erbyn Awstria mewn gêm i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2018

Yn ystod pencampwriaeth Ewro 2016, aeth lluniau cyn gêm y garfan yn feiral oherwydd trefniad anarferol a lletchiwth y chwaraewyr ynddynt.[20] Ar y pryd, nododd Joe Ledley nad oeddent yn dda ar gael tynnu eu lluniau, ond roedd peidio â chymryd llun go iawn yn dod a lwc iddynt.[21] Yn 2025, ar ôl i dîm merched Cymru wneud yr un peth yn ystod pencampwriaeth Ewros y Merched 2025, dyweoddd llefarydd ar ran tîm Cymru ei fod wedi dechrau ar ddamwain ond ers hynny mae wedi dod yn draddodiad i osod eu hunain mewn modd anghonfensiynol i'r ddau dîm.[22] Nodwyd hefyd bod trefniad lletchwith llun cyn gêm y Cymru yn mynd yn ôl mor bell â 2002.[23]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Safleoedd FIFA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-26. Cyrchwyd 2015-07-04.
  2. Safleoedd ELO
  3. BBC Cymru
  4. Golwg360
  5. BBC Cymru
  6. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  7. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  8. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  9. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  10. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  11. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  12. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).[dolen farw]
  13. "Rob Page i adael ei swydd fel rheolwr Cymru". BBC Cymru Fyw. 2024-06-21. Cyrchwyd 2024-06-21.
  14. "Penodi Craig Bellamy yn rheolwr newydd Cymru". BBC Cymru Fyw. 2024-07-09. Cyrchwyd 2024-07-09.
  15. "A new identity for football in Wales". faw.cymru. Cymdeithas Bêl-droed Cymru. 7 Awst 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ebrill 2021. Cyrchwyd 19 Mawrth 2021. Invalid |url-status=yn fyw (help)
  16. "Wales consider changing name of national teams after World Cup". The Independent (yn Saesneg). 31 October 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 March 2023. Cyrchwyd 18 March 2023.
  17. "Wales considering name change to Cymru". ESPN.com. 31 October 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 March 2023. Cyrchwyd 18 March 2023.
  18. "Wales looks to change football team name to Cymru amid 'Welsh language renaissance'". The National (yn Saesneg). 31 October 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 March 2023. Cyrchwyd 18 March 2023.
  19. Worth, Owen (18 November 2022). "The Welsh soccer team and the growth of an 'indy-curious' Wales" (yn en). RTÉ. https://www.rte.ie/brainstorm/2022/1118/1336777-wales-cymru-independence-soccer-world-cup-sport/. Adalwyd 18 March 2023.
  20. Wathan, Chris (2016-11-11). "The full story on the Wales team photo gag - and how it started". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-07-09.
  21. Wathan, Chris (2016-11-11). "The full story on the Wales team photo gag - and how it started". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-07-09.
  22. Ewing, Lori (2025-07-06). "Welsh women carry on tradition of oddball team photo". Reuters (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-07-09.
  23. "Wales and their weirdly evolving football team photo formations". The Guardian (yn Saesneg). 2016-10-10. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-07-09.