Walley Barnes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Walley Barnes
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni16 Ionawr 1920
Man geniAberhonddu, Cymru
Dyddiad marw4 Medi 1975(1975-09-04) (55 oed)
SafleCefnwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1941–1943Southampton32(14)
1943–1956Arsenal267(11)
Tîm Cenedlaethol
1947–1954Cymru22(1)
Timau a Reolwyd
1954–1956Cymru
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Roedd Walley Barnes (16 Ionawr 1920 - 4 Medi 1975) yn bêl-droediwr a darlledwr o Gymru. Bu'n chwarae fel amddiffynnwr ar gyfer Southampton ac Arsenal yn ogystal â'r tîm cenedlaethol. Gwasanaethodd fel capten a rheolwr Cymru.[1]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Barnes ei eni yn Aberhonddu i rieni o Loegr. Roedd ei dad, y rhingyll Edward ('Teddy') Barnes yn filwr ar y pryd, wedi ei leoli yno. Dechreuodd Barnes chware fel mewnwr i Southampton mewn gemau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan wneud 32 ymddangosiad rhwng 1941 a 1943 a sgorio 14 o goliau.[2]

Arsenal[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Barnes ei lofnodi gan Arsenal, fel chwaraewr cyfnod rhyfel, ym mis Medi 1943. Chwaraeodd ym mron pob safle ar y cae ar gyfer y tîm mewn gemau cyfnod y rhyfel, gan gynnwys gêm lle ymddangos fel gôl-geidwad. Wedi dioddef anaf difrifol i'w pen-glin cafodd ei hepgor ym 1944. Er gwaethaf rhagolwg gwael ar y pryd, fe adferodd, gan adennill ei le yn sgwad Arsenal ar ôl mynnu chwarae gêm wrth gefn yn erbyn Prifysgol Caergrawnt. Gan fod nifer o oreuron y timau ar faes y gad, nid oedd timau cyfnod y rhyfel yn cael eu cyfrif yn dimau llawn. Gan hynny gêm Barnes yn erbyn Preston North End ar 9 Tachwedd 1946 oedd yn cael ei gyfrif fel ei gêm gynghrair swyddogol gyntaf ar ran y Gunners.

Daeth Barnes i sylw am ei berfformiadau sicr fel cefnwr ar y chwith, gyda'i ddosbarthiadau taclus a'i allu diymdrech i dorri croesiadau. Yn fuan daeth o hyd i le rheolaidd yn nhîm Arsenal, ac roedd yn rhan o'r ochr cipiodd buddugoliaeth pencampwriaeth yr Adran Gyntaf ym 1947-48 [3]

Symudodd Barnes i safle cefnwr yr ochr dde ar ôl anaf i gapten y tîm Laurie Scott, ac enillodd fedal enillwyr Cwpan yr FA 1949-50 ar ôl Arsenal guro Lerpwl. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, llwyddodd Arsenal mynd trwodd i rownd derfynol y Cwpan eto, y tro hyn yn erbyn Newcastle United, ond anafodd Barnes ei ben-glin wrth geisio taclo George Robledo. Bu'n rhaid iddo fynd oddi ar y cae ar ôl 35 munud. Mewn cyfnod lle nad oedd eilyddion yn cael eu caniatáu, roedd Arsenal i lawr i ddeg dyn, gan golli 1-0.

O ganlyniad i'w anaf yn ffeinal y Cwpan, roedd Barnes allan o'r tîm ar gyfer tymor cyfan 1952-53 (pan fu Arsenal yn bencampwyr y Gynghrair). Er ei fod yn ôl yn yr ochr am y tri thymor olynol, roedd ei ymddangosiadau bellach yn llai rheolaidd, gyda dim ond wyth ymddangosiad yn nhymor 1955-56. Roedd presenoldeb Len Wills a Joe Wade yn cystadlu am yr un lle, henoed ac effaith anafiadau'r gorffennol yn cyfrif yn ei erbyn. Ymddeolodd o chwarae yn haf 1956. Chwaraeodd 294 o gemau swyddogol i'r tîm a sgorio 12 gôl.[4]

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn 1948 roedd Barnes wedi dod yn aelod rheolaidd o Dîm Cenedlaethol Cymru, gan ennill ei gap cyntaf yn erbyn Lloegr ar 18 Hydref 1947, lle cafodd y dasg anodd o orfod marcio Stanley Matthews. Enillodd Lloegr 3-0. Aeth Barnes ymlaen i ennill 22 cap, a daeth yn gapten ei wlad.

Yn ystod dwy flynedd olaf ei yrfa chwarae, bu Barnes hefyd yn rheolwr tîm cenedlaethol Cymru, gan wasanaethu yn y swydd rhwng Mai 1954 a Hydref 1956.[5]

Darlledwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi i'w gyfnod fel chwaraewr ddod i ben ymunodd Barnes â'r byd darlledu gyda'r BBC. Bu'n sylwebydd ar rowndiau terfynol Cwpan yr FA a, gyda Kenneth Wolstenholme, roedd yn un o'r sylwebyddion ar gyfer darllediad cyntaf Match of the Day ym 1964. Bu hefyd yn cynorthwyo Wolstenholme yn y sylwebaeth fyw o rownd derfynol Cwpan y Byd 1966, pan fu Lloegr yn chware yn erbyn yr Almaen. Ymddangosod fel ef ei hun mewn ddau ddrama teledu (fel sylwebydd pêl droed) 199 Park Lane a Meet the Wife [6]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Joan Sutton yn Portsmouth ym 1941. Bu iddynt un ferch.

Ysgrifennodd Barnes hunangofiant, o'r enw Captain of Wales a gyhoeddwyd ym 1953. Parhaodd i wasanaethu'r BBC mewn amrywiol ffurf hyd ei farwolaeth, yn 55 mlwydd oed, ym 1975.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Arsenal:

  • Pencampwyr yr Adran Gyntaf: 1947–48
  • Pencampwyr Cwpan Lloegr: 1950

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]