Neidio i'r cynnwys

Brennan Johnson

Oddi ar Wicipedia
Brennan Johnson

Johnson yn 2021
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni (2001-05-23) 23 Mai 2001 (24 oed)
Man geniNottingham, Lloegr
Taldra6 troedfedd 1 modfedd (1.86 m)[1]
SafleYmosodwr
Y Clwb
Clwb presennolTottenham Hotspur
Rhif22
Gyrfa Ieuenctid
0000–2009Dunkirk
2009–2019Nottingham Forest
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2019–2023Nottingham Forest91(24)
2020–2021Lincoln City (ar fenthyg)40(10)
2023–Tottenham Hotspur76(16)
Tîm Cenedlaethol
2016–2017Lloegr dan 165(1)
2017Lloegr dan 171(0)
2018–2019Cymru dan 199(2)
2019Cymru dan 214(1)
2020–Cymru41(7)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 18 Tachwedd 2025 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 21:08, 18 Tachwedd 2025 (UTC)


Mae Brennan Price Johnson (23 Mai 2001, Nottingham, Lloegr) yn weithiwr proffesiynol pêl-droed sy'n chwarae fel ymosodwr yn Tottenham Hotspur a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Nottingham Forest

[golygu | golygu cod]

Ar ôl mynd i mewn i academi Nottingham Forest yn wyth oed, gwnaeth Johnson ei ymddangosiad cyntaf yn ddeunaw oed, gan ymddangos gyda’r clwb ar 3 Awst 2019 fel eilydd yn yr 88fed munud mewn colled 2-1 i West Bromwich Albion ar ddiwrnod cyntaf y tymor. [2]

Lincoln City (benthyciad)

[golygu | golygu cod]

Ar 25 Medi 2020, ymunodd Johnson â Lincoln City ar fenthyciad un tymor.[3] Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, byddai'n gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Lincoln, gan ddod oddi ar y fainc yn erbyn Charlton Athletic.[4] Sgoriodd ei gôl broffesiynol gyntaf yn erbyn Plymouth Argyle F.C., gyda pheniad agos.[5] Ym mis Ebrill 2021, sgoriodd Johnson hattrick cyntaf ei yrfa mewn gêm yn erbyn MK Dons, gan gymryd dim ond 11 munud i gyflawni'r gamp hon.[6]

Tîm cenedlaethol

[golygu | golygu cod]

Mae Johnson yn gymwys i gynrychioli Lloegr, Jamaica a Chymru yn rhyngwladol. Dechreuodd chwarae gyda Lloegr, cyn symud i Gymru yn 2018. Ym mis Medi 2020, galwyd Johnson am y tro cyntaf i dîm Cymru.[7] Mewn cyfweliad dywedodd ei fod yn falch iddo ddewis chwarae i Gymru gan lwyddo i wneud beth fethodd ei dad wneud mewn gyrfa ugain mlynedd, sef chwarae pêl-droed rygnwladol. Nododd, “Roedd fy nhad bob amser yn canmol chwarae dros Gymru,” meddai Johnson, a enillodd gapiau Lloegr ar lefel dan-16 a dan-17. Esboniodd hefyd bod teimlad yng ngharfan Cymru yn "agos" ac yn "gyfeillgar".[8]

Tîm dan 21

[golygu | golygu cod]

Sgoriodd Johnson yn ei gêm gyntad i dîm dan 19 oed Cymru mewn gêm fuddugol i Gymru ar y Cae Ras yn Wrecsam a hynny yn erbyn Gwlad Belg ym mis Medi 2019. Rhwydodd Johnson y gôl gyntaf i Gymru yn y gêm a'i gôl gyntaf ef i Gymru wedi pum munud. Bu iddo wedyn sgorio ei ail gôl rai munudau cyn yr egwyl.[9] Enillodd Cymru 2-1.

Tîm Hŷn Cymru

[golygu | golygu cod]

Gwnaeth Johnson ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn y gêm gyfartal 0-0 yn erbyn yr UDA ar 12 Tachwedd 2020.[10] Gwnaeth Johnson ei ddechrau cyntaf i Gymru yn erbyn y Ffindir ar 1 Medi 2021,[11] lle enillodd gic o'r smotyn.[12]

Chwaraeodd ran flaenllaw ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn erbyn Belarws yn gemau rhagbrofol Cwpan Pêl-droed y Byd 2022.[13] Cafodd ergyd agos yn y gêm lle sgoriodd Gareth Bale hat-tric ac enillodd Cymru 2-3.[14]

Bywyd Personol

[golygu | golygu cod]

Mae Johnson yn fab i gyn-ymosododwr Ipswich Town a Nottingham Forest, David Johnson.[2][15]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Brennan Johnson: Overview". Premier League. Cyrchwyd 24 September 2023.
  2. 2.0 2.1 Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  3. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  4. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  5. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  6. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  7. Johnson Wales call up
  8. https://www.northwalespioneer.co.uk/news/19550663.brennan-johnson-glad-pursue-international-career-wales/
  9. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/49611261
  10. https://www.bbc.co.uk/sport/football/54819952
  11. https://twitter.com/Cymru/status/1433075101721931777
  12. https://www.bbc.co.uk/sport/football/54819952
  13. https://twitter.com/Cymru/status/1434479173553336327
  14. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/58432414
  15. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).


Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.