Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Belg
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwlad Belg Tîm pêl-droed cenedlaethol)
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Belg (Iseldireg: Belgisch voetbalelftal; Ffrangeg: Équipe belge de football; Almaeneg: Belgische Fußballnationalmannschaft) yn cynrychioli Gwlad Belg yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Brenhinol Gwlad Belg (KBVB), corff llywodraethol y gamp yng Ngwlad Belg. Mae'r KBVB yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Mae de Rode Duivels; les Diables Rouges; die Roten Teufel (y diafoliaid coch) wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar 12 achlysur gan orffen yn bedwerydd ym 1986.
Maent hefyd wedi gorffen yn ail ym Mhencampwriaeth Pêl-droed Ewrop ym 1980 ac wedi cipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd Antwerp 1920.