Neco Williams
Williams gyda tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 | |||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | Neco Shay Williams | ||
| Dyddiad geni | 13 Ebrill 2001 | ||
| Man geni | Cefn Mawr, Cymru | ||
| Safle | Amddiffynnwr | ||
| Y Clwb | |||
| Clwb presennol | Nottingham Forest | ||
| Rhif | 7 | ||
| Gyrfa Ieuenctid | |||
| 2009–2019 | Lerpwl | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 2019–2022 | Lerpwl | 13 | (0) |
| 2022 | → Fulham (ar fenthyg) | 14 | (2) |
| 2022– | Nottingham Forest | 90 | (2) |
| Tîm Cenedlaethol‡ | |||
| 2018 | Cymru (dan 19) | 17 | (3) |
| 2020– | Cymru | 47 | (4) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 13 Mehefin 2025. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Pêl-droediwr o Gymru yw Neco Shay Williams (ganwyd 13 Ebrill 2001) sy'n chwarae i dîm cenedlaethol Cymru. Mae hefyd yn chwarae fel amddiffynnwr i Nottingham Forest.
Ganwyd Williams yn Wrecsam yn fab i Lee Williams ac Emma Jones [1]. Derbyniodd ei hyfforddiant cynnar yn academiau Lerpwl[2] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Lerpwl ar 30 Hydref 2019 yn erbyn Arsenal yng Nghwpan y Gynghrair.[3]
Fe'i enwyd fel chwaraewr rhyngwladol posib yng Nghymru ar gyfer Ewro 2020.[4][5] Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Cymru yn Awst 2020 ac enillodd ei gap cynta dros Gymru ar 3 Medi 2020 mewn gêm yn erbyn y Ffindir yn Helsinki.[6] Daeth ymlaen yn ail hanner y gêm yn erbyn Bwlgaria a chwaraewyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 6 Medi 2020. Sgoriodd gôl ym munud olaf y gêm gan roi buddugoliaeth 1-0 i dîm Cymru.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Neco Williams joins Cefn Albion Christmas celebrations a day after helping Liverpool win Club World Cup". Grassroots North Wales | Championing Local Sport | Dave Jones Sportswriter | nwsport.co.uk. 2019-12-24. Cyrchwyd 2020-09-06.
- ↑ Nash, Mathew (2019-11-20). "Hailed by Steven Gerrard is Neco Williams Liverpool's next Trent-Alexander-Arnold?". The Boot Room (yn Saesneg).
- ↑ Caple, Alex (2019-10-31). "Neco Williams' stats in Liverpool 5-5 Arsenal read like a dream debut for 18-year-old". Givemesport (yn Saesneg).
- ↑ Williams, Glen (2020-02-05). "Neco Williams uncovered: The exceptional Liverpool starlet who simply must go to the Euros with Wales". Wales Online (yn Saesneg).
- ↑ Nursey, James (2020-02-13). "Neco Williams' upcoming Wales call-up could spell the end for Chris Gunter's Euro 2020 hopes". Daily Mirror.
- ↑ Cynghrair y Cenhedloedd: Y Ffindir 0-1 Cymru , BBC Cymru Fyw, 3 Medi 2020. Cyrchwyd ar 4 Medi 2020.
- ↑ Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 1-0 Bwlgaria , BBC Cymru Fyw, 6 Medi 2020.