John Mahoney
Gwedd
- Mae'r erthygl hon am y beldroediwr Cymreig, am yr actor Eingl-Americanaidd gweler John Mahoney (actor)
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | John Francis Mahoney | ||
| Dyddiad geni | 20 Medi 1946 | ||
| Man geni | Caerdydd, Cymru | ||
| Safle | Canol Cae | ||
| Gyrfa Ieuenctid | |||
| 1964 | Ashton United F.C. | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 1965–1967 | Crewe Alexandra | 18 | (5) |
| 1967–1977 | Stoke City | 282 | (25) |
| 1967 | → Cleveland Stokers (ar fenthyg) | 12 | (0) |
| 1977–1979 | Middlesbrough | 77 | (1) |
| 1979–1983 | Dinas Abertawe | 110 | (1) |
| Cyfanswm | 499 | (32) | |
| Tîm Cenedlaethol | |||
| 1967–1983 | Cymru | 51 | (1) |
| Timau a Reolwyd | |||
| 1984–1986 | Bangor | ||
| 1988–1989 | Sir Casnewydd | ||
| 1989–1992 | Bangor | ||
| 1996–1998 | Tref Caerfyrddin | ||
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Cyn-chwaraewr a rheolwr pêl-droed o Gymru yw John Francis Mahoney (ganwyd 20 Medi 1946). Chwaraeodd yn safle canol cae i sawl tîm, gan gynnwys: Crewe Alexandra, Middlesbrough, Stoke City a Dinas Abertawe. Enillodd 51 cap dros Gymru.
Yn enedigol o Gaerdydd, magwyd Mahoney ym Manceinion gan fod ei dad yn chwarae rygbi'r gynghrair i dîm Oldham Roughyeds. Er nad oedd o deulu oedd yn siarad Cymraeg, dysgodd i siarad Cymraeg yn ddiweddarach, a gwnaeth ymddangosiad cameo ar yr opera sebon Pobol y Cwm.
Roedd Mahoney yn aelod o'r dîm Cymru pan drechasant Lloegr am y tro cyntaf oddi-cartref ers 1936 ar 31 Mai 1977.[1]
Ar ôl iddo ymddeol o chwarae, bu Mahoney yn rheoli clybiau pêl-droed Bangor, Sir Casnewydd a Thref Caerfyrddin.