Dai Davies (pêl-droediwr)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Dai Davies (pêl-droedwr))
Jump to navigation Jump to search
Dai Davies
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnWilliam David Davies
Dyddiad geni (1948-04-01) 1 Ebrill 1948 (70 oed)
Man geniGlanaman, Cymru
SafleGolwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1969–1970Dinas Abertawe9(0)
1970–1977Everton82(0)
1974Dinas Abertawe (ar fenthyg)6(0)
1977–1981Wrecsam144(0)
1981–1983Dinas Abertawe71(0)
1983–1984Tranmere Rovers42(0)
1985Bangor
1986Wrecsam0(0)
Tîm Cenedlaethol
1975–1982Cymru52(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Cyn-chwaraewr pêl-droed Cymreig yw William David Davies (ganwyd 1 Ebrill 1948).

Ganwyd David 'Dai' Davies yng Nglanaman, ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Mynychodd Ysgol Dyffryn Aman, ble roedd yn chwarae pêl-droed a rygbi'r undeb. Hyfforddodd i weithio fel athro ymarfer corff, ond ymunodd gyda C.P.D. Dinas Abertawe yn 1969 yn fuan ar ôl gorffen ei hyfforddiant.

Chwaraeodd fel gôl-geidwad dros glybiau Dinas Abertawe, Everton, Wrecsam, Tranmere Rovers, Bangor a Wrecsam rhwng 1969 a 1987.

Ennillodd 52 cap fel gôl-geidwad dros Gymru, ac roedd yn aelod o dîm Cymru pan lwyddasant i drechu Lloegr am y tro cyntaf oddi-cartref ers 1936 ar 31 Mai 1977.[1]

Ar hyn o bryd, mae'n byw yn Llangollen [2], ac bydd yn darparu sylwebaeth ar gemau pêl-droed ar S4C yn achlysurol.[3]

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]