Ben Cabango
![]() Cabango yn 2022 | |||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Dyddiad geni | 30 Mai 2000 | ||
| Man geni | Caerdydd, Cymru | ||
| Taldra | 1.88 m | ||
| Safle | Amddiffynnwr | ||
| Y Clwb | |||
| Clwb presennol | Dinas Abertawe | ||
| Rhif | 5 | ||
| Gyrfa Ieuenctid | |||
| Sir Casnewydd | |||
| Dinas Abertawe dan 21 | |||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 2018– | Dinas Abertawe | 211 | (10) |
| 2018–2019 | → Y Seintiau Newydd (ar fenthyg) | 16 | (0) |
| Tîm Cenedlaethol‡ | |||
| 2017 | Cymru dan 17 | 1 | (0) |
| 2018–2019 | Cymru dan 19 | 10 | (1) |
| 2019 | Cymru dan 21 | 5 | (0) |
| 2020– | Cymru | 12 | (0) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 20:23, 3 Mai 2025 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Pêl-droediwr proffesiynol o Gymro yw Benjamin Cabango (ganwyd 30 Mai 2000) sy'n chwarae fel amddiffynnwr i Ddinas Abertawe .
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Cabango yng Nghaerdydd i dad Angolaidd a mam o Gymru. Mae ganddo frawd iau o'r enw Theo sy'n chwarae rygbi.[1] Mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.[2][3]
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Cabango ei yrfa fel chwaraewr ieuenctid gyda'r tîm amatur leol Maindy Corries, lle'r oedd ei dad Paolo yn hyfforddwr, cyn iddo ymuno ag academi ieuenctid Sir Casnewydd,[4] lle chwaraeodd o lefelau dan-13 i lefelau dan-15. Symudodd i'r academi yn Ninas Abertawe lle bu'n gapten ar yr ochr dan-19 i ennill Cwpan Ieuenctid Cymru CBDC yn 2018 a helpodd yr ochr dan-23 i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Uwch Gynghrair Lloegr ar gyfer timau dan-23.[2][5]
Ym mis Mehefin 2018, arwyddodd Cabango i bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru ar y pryd, Y Seintiau Newydd ar gytundeb benthyciad chwe mis.[2] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm hŷn mewn gêm lle collwyd 5–0 i dîm Macedoneg KF Shkëndija yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Pencampwyr UEFA.[6] Yn y cymal nesaf, sgoriodd Cabango ei gôl gyntaf ar lefel uwch wrth i’r Seintiau Newydd ennill 4–0 ond collasant ar gyfanswm goliau.[7]
Ar 13 Awst 2019, gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf dros Abertawe mewn buddugoliaeth 3-1 dros Northampton Town yn rownd gyntaf Cwpan Cynghrair Lloegr.[8] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair fel eilydd yn erbyn Huddersfield Town ar 26 Tachwedd 2019.[9]
Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Cymru yn Awst 2020 [10] ac enillodd ei gap cynta dros Gymru ar 3 Medi 2020 mewn gêm yn erbyn y Ffindir yn Helsinki.[11]
Ystadegau gyrfa
[golygu | golygu cod]Clwb
[golygu | golygu cod]- Diweddarwyd 8 Hydref 2019
| Clwb | Tymor | Cynghrair | Cwpan FA | Cwpan y Gynghrair | Arall | Cyfanswm | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Adran | Ymdd | Goliau | Ymdd | Goliau | Ymdd | Goliau | Ymdd | Goliau | Ymdd | Goliau | ||
| Dinas Abertawe | 2018–19 | Pencampwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | - | 0 | 0 | |
| 2019–20 | Pencampwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 3 | 0 | - | 3 | 0 | ||
| Cyfanswm gyrfa | 0 | 0 | 0 | 0 | 3 | 0 | - | 3 | 0 | |||
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Thomas, Simon (15 November 2019). "Introducing the Cabango brothers, the super-talented siblings excelling in Welsh rugby and at Swansea City". WalesOnline. Media Wales. Cyrchwyd 6 January 2020.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Bloor, Stewart (12 June 2018). "Saints Sign Swansea Starlet". The New Saints. Cyrchwyd 13 August 2019.
- ↑ "Annual Report of the Governing Body 2015–16" (PDF). Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-03-03. Cyrchwyd 13 August 2019.
- ↑ Masrani, Daniel (15 August 2015). "Maindy Boy Selected for Welsh Squad". Maindy Corries F.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-13. Cyrchwyd 13 August 2019.
- ↑ Edwards, Joe (12 June 2018). "The New Saints sign Swansea youngster". Shropshire Star. Cyrchwyd 13 August 2019.
- ↑ "KF Shkendija 5–0 The New Saints". BBC Sport. 10 July 2018. Cyrchwyd 13 August 2019.
- ↑ "The New Saints 4–0 KF Shkendija". BBC Sport. 17 July 2018. Cyrchwyd 13 August 2019.
- ↑ "Swansea City 3–1 Northampton Town". BBC Sport. 13 August 2019. Cyrchwyd 13 August 2019.
- ↑ "Huddersfield 1-1 Swansea". BBC. 26 November 2019. Cyrchwyd 9 December 2019.
- ↑ Ben Cabango a'r profiad 'swreal' o ymarfer â Bale a sêr Cymru , BBC Cymru Fyw, 2 Medi 2020.
- ↑ Cynghrair y Cenhedloedd: Y Ffindir 0-1 Cymru , BBC Cymru Fyw, 3 Medi 2020. Cyrchwyd ar 4 Medi 2020.
