Neil Taylor (pêl-droediwr)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Neil Taylor)
Neil Taylor

Taylor yn chwarae i Abertawe yn 2011
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnNeil John Taylor[1]
Dyddiad geni (1989-02-07) 7 Chwefror 1989 (35 oed)
Man geniLlanelwy, Cymru
Taldra5 tr 9 modf
SafleAmddiffynnwr
Y Clwb
Clwb presennolAbertawe
Rhif3
Gyrfa Ieuenctid
1998–2004Manchester City
2005–2007Wrecsam
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2007–2010Wrecsam75(3)
2010–Abertawe149(0)
Tîm Cenedlaethol
2005–2006Tîm Dan 17 Cymru10(0)
2006–2007Tîm Dan 19 Cymru5(0)
2007–Tîm Dan 21 Cymru13(0)
2009Tîm Rhan-broffesiynol Cymru1(0)
2010–Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru32(1)
2012Tîm pêl-droed Olympaidd Prydain Fawr2(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 1 Mai 2016.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 25 Mehefin 2016

Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Neil Taylor (ganwyd 7 Chwefror 1989), sydd fel arfer yn chwarae mewn safle amddiffynnwr i dîm Abertawe a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Mae'n enedigol o dref Rhuthun, Sir Ddinbych. Cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.

Cychwynodd ei yrfa gyda Manchester City ond gadawodd y clwb pan oedd yn bymtheg oed.[2] Cyn hynny roedd wedi chwarae cryn dipyn o griced gan gynnwys bod yn aelod o dîm Gogledd Ddwyrain Cymru. Symudodd o Fanceinion i Wrecsam pan oedd yn 16, gan gychwyn efo'r tîm iau[3] ac arwyddo'n broffesiynol iddyn nhw yng Ngorffennaf 2007.[4] Llwyddodd i gyrraedd y tîm cyntaf yn ystod tymor 2007-8 pan ymddangosodd 27 o weithiau yng ngemau'r Gynghrair.[5] Arwyddodd estyniad i'w gytundeb ym Mawrth 2008 ac arhosodd yn Wrecsam tan 2010.[6]

Ar ddiwedd tymor 2009–10, ymunodd Taylor efo Tîm pêl-droed Abertawe ar free transfer. Talwyd £150,000 a 10% o unrhyw elw a oedd i ddod fel rhan o'r gytundeb. Cafwyd tribiwnlys i drafod y mater ychydig wedyn. Roedd ei gêm cyntaf yn erbyn Norwich City. Erbyn iddo droi ei figwrn wrth chwarae yn erbyn Reading ar ddydd Calan 2011 roedd wedi chwarae 15 o gemau'r gynghrair. Wedi seibiant o fis, ar 19 Chwefror chwaraeodd yn erbyn Doncaster Rovers - yn yr un wythnos daeth yn dad.

Oherwydd ei sgiliau diamheuol, cafwyd sawl cais i'w brynnu am dros filiwn o bunnoedd, gan Newcastle United ond daliodd yn driw i Abertawe a chafodd estyniad i'w gytundeb ganddynt.[7] Roedd hynny'n beth da iddo ef ac i'r clwb a chafodd dymor arbennig wrth helpu'r Elyrch i gyrraedd yr 11fed safle yn yr Uwchgynghrair.

Ar 1 Medi 2012 torrodd ei figwrn wrth gwympo yn drwsgwl mewn gem yn erbyn Sunderland. O ganlyniad nid yw'n debyg o chwarae am weddill y tymor.[8]

Cymru[golygu | golygu cod]

Ar y 23ain o Fai 2010 y chwaraeodd ei gêm gyntaf dros ei wlad, a hynny yn erbyn Croatia yn Stadion Gradski vrt. Chwaraeodd bedair gwaith yng ngemau Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Search 1984 to 2006 – Birth, Marriage and Death indexes". Findmypast.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-02. Cyrchwyd 2009-06-16.
  2. "Swans agree terms with Neil Taylor". Swansea City A.F.C. 2010-06-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-03. Cyrchwyd 2010-07-01.
  3. "Neil Taylor". Wrexham F.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-15. Cyrchwyd 2008-06-07.
  4. "Neil Taylor". Soccerbase. Racing Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-06. Cyrchwyd 2008-06-07.
  5. "Games played by Neil Taylor in 2007/2008". Soccerbase. Racing Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-11. Cyrchwyd 2008-06-07.
  6. "Wrexham rookies sign new deals". BBC Sport. 2008-03-13. Cyrchwyd 2008-06-07.
  7. http://www.walesonline.co.uk/footballnation/football-news/2011/06/27/swansea-city-turn-down-1-million-newcastle-bid-for-neil-taylor-91466-28951128/
  8. "Swansea defender Taylor out for rest of the season with broken ankle". Goal.com/en. Cyrchwyd 2012-09-02.