Stadion Gradski vrt

Oddi ar Wicipedia
Stadion Gradski vrt
Mathstadiwm Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1980 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1980 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOsijek Edit this on Wikidata
GwladCroatia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.545°N 18.6958°E Edit this on Wikidata
Rheolir ganOsijek Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethOsijek Edit this on Wikidata

Stadiwm aml-ddefnydd yn ninas Osijek, dwyrain Croatia, yw Stadion Gradski vrt (Stadiwm Gardd y ddinas). Mae'n gartref i ddau glwb pêl-droed, NK Osijek a Fortuna VNO Osijek.

Mae ganddo gapasiti o 18,856 (17,876 ar gyfer seddau a 980 ar gyfer sefyll). Ceir y geiriau Grad na Dravi ("Dinas ar y Drava") wedi eu hysgrifennu mewn seddi gwynion ar un o eisteddoedd y stadiwm.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1949, ond cafodd gwaith ei stopio sawl gwaith. Chwaraewyd y gêm gyntaf ar sail Gradski Vrt rhwng NK Osijek a FK Sloboda Tuzla ar 7 Medi 1958. Yn 1980, agorwyd y stadiwm yn swyddogol.

Yn 1982, torrwyd y record o bresenoldeb stadiwm, ar y gêm bêl-droed rhwng NK Osijek a Dinamo Zagreb gyd thorf o 40,000 yn gwylio. Y canlyniad oedd 1-2.

Yn 1998 gosodwyd seddi ac adlen. Yn 2005, adnewyddwyd y stadiwm. O dan y stondin orllewinol, gosodwyd ystafelloedd i bwysigion ac aildrefnwyd y porthdy, gan ychwanegu 1,000 o seddau newydd. Cafodd y trac athletau ei ail-greu, ei ail-baentio o goch i las. Ar ôl yr adnewyddu hwn, mae'r stadiwm wedi cyflawni meini prawf stadiwm UEFA. Yn yr un flwyddyn, roedd y stadiwm yn rhan o gais ar y cyd rhwng Croatia a Hwngari am gynnal Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012. Bryd hynny cyflwynwyd prosiect o stadiwm newydd gyda chapasiti mwy.

Yn 2010, trwsiwyd y stadiwm eto: cafodd y cae ei ailosod, cafodd y ffensys eu peintio a rhifwyd y seddau. Y rheswm oedd gêm gyfeillgar rhwng Croatia a Cymru, a gynhaliwyd ar 23 Mai y flwyddyn honno.

Ym mis Mai 2016, cynhaliodd y stadiwm y rownd derfynol Cwpan Pêl-droed Croatia.

Cymru a'r Stadiwm[golygu | golygu cod]

Mae Cymru wedi chwarae 3 gwaith yn y stadiwm - dwy waith mewn gêm gyfeillgar ar 23 Mai 2010 a 2012 ac eto ar 8 Mehefin 2019 mewn gêm gystadleuol fel gêm rhagbrofol ar gyfer pencampwriaeth Ewrop UEFA 2020. Chwaraewyd yn Osijek er gwaethaf disgwyliawd Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r cefnogwyr y byddent yn chwarea yn y brifddinas, Zagreb. Nododd y Cymry amneuon am faint ac addasrwydd y stadiwm ar gyfer gêm ryngwladol gystadleuol bwysig.[2]

Cynlluniau i'r Dyfodol[golygu | golygu cod]

Ym mis Ebrill 2018, rhyddhaodd Llywydd NK Osijek Ivan Meštrović ddyluniad strwythur manwl ar gyfer y stadiwm newydd.[3] Bydd stadiwm o'r radd flaenaf yn cael ei adeiladu yng nghymdogaeth Pampas yn Osijek fel rhan o ganolfan hyfforddi newydd NK Osijek. Bydd capasiti'r stadiwm newydd yn 12,000, gyda'r holl seddau'n cael eu cynnwys. Bydd y stadiwm yn gategori pedwar UEFA ac mae i fod i gael ei orffen yn 2020. Yn ystod adeiladu'r stadiwm, bydd NK Osijek yn chwarae eu gemau cartref yn y stadiwm Gradski vrt presennol, sydd yn y dyfodol yn mynd i gael ei ddefnyddio fel prif stadiwm y Sgwad NK Osijek B.

Gemau Rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Dyddiad Cystadleuaeth Gwrthwynebwyr Sgôr Torf Ref
Croatia (1990–present)
4 10, 1996 Gêm arddangos, gyfeillgar  Hwngari 4–1 10,287 [1]
4 22, 1998 Cyfeillgar  Gwlad Pwyl 4–1 16,000 [2]
3 24, 2001 Gêm ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2002  Latfia 4–1 13,345 [3]
9 7, 2002 Gêm ragbrofol Cwpan UEFA Euro 2004  Estonia 0–0 10,766 [4]
5 28, 2006 Cyfeillgar  Iran 2–2 20,000 [5]
5 23, 2010 Cyfeillgar  Cymru 2–0 10,482 [6]
10 16, 2012 Gêm ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2014  Cymru 2–0 17,500 [7]
5 31, 2014 Cyfeillgar  Mali 2-1 15,212 [8]
10 13, 2014 Gêm ragbrofol Cwpan Europ UEFA 2016  Aserbaijan 6-0 16,021 [9]
03 23, 2016 Cyfeillgar  Israel 2-0 10,545 [10]
06 8, 2018 Cyfeillgar  Senegal 2-1 15,998 [11]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/48370580
  2. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/47540522
  3. ""PRESTALI SMO SANJATI, POČELI SMO ŽIVJETI!"". NK Osijek official website.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]