Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012

Oddi ar Wicipedia
Y Stadiwm Cenedlaethol yn Warsaw, lle cynhelir 5 o'r gemau

Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012, neu Euro 2012 oedd y 14eg tro i UEFA gynnal pencampwriaeth pêl-droed i ddynion. Cynhaliwyd y bencampwriaeth am y tro cyntaf yng Ngwlad Pwyl a'r Wcráin rhwng 8 Mehefin a 1 Gorffennaf 2012.

Sbaen oedd yn fuddugol gan guro Yr Eidal 4-0 yn y rownd derfynol yn y Stadiwm Olympaidd yn Kiev, Wcráin[1].

Daeth Sbaen y tîm cyntaf yn hanes i ennill dau Bencampwriaeth Ewropeaidd o'r bron, a'r cyntaf i ennill tri prif bencampwriaeth pêl-droed o'r bron; Euro 2008, Cwpan y Byd 2010 ac Euro 2012[2].

Dewis lleoliad[golygu | golygu cod]

Cafwyd pum cais i gynnal y bencampwriaeth gyda Croatia-Hwngari, Groeg, Gwlad Pwyl-Wcráin, Twrci a'r Eidal[3] yn rhoi eu henwau ger bron Uefa.

Ar 8 Tachwedd 2005, lluniwyd rhestr fer o dri chais gan Bwyllgor Gweithredol UEFA gyda cheisiadau Groeg a Thwrci yn cael eu diystyru[4]. Yn dilyn ymweliadau â'r gwledydd oedd ar ôl yn y broses cafwyd pleidlais yn ystod cyfarfod Pwyllgor Gweithredol Uefa yng Nghaerdydd ar 18 Ebrill, 2007[5] gyda Gwlad Pwyl-Wcráin yn fuddugol ar ôl sicrhau wyth pleidlais, Yr Eidal yn cael pedair pleidlais a Croatia-Hwngari yn methu sicrhau yr un bleidlais.

Gemau rhagbrofol[golygu | golygu cod]

Roedd 51 o dimau yn cystadlu ar gyfer 14 o lefydd yn y rowndiau terfynol ochr yn ochr â Gwlad Pwyl a'r Wcráin. Rhannwyd y timau i naw grŵp gydag enillwyr pob grŵp yn sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol ynghyd â'r tîm oedd â'r record orau ar ôl gorffen yn yr ail safle. Cyfarfu'r wyth tîm arall oedd wedi gorffen yn ail yn eu grŵp mewn gemau ail gyfle er mwyn sicrhau'r pedwar tîm olaf fyddai'n cyrraedd Euro 2012[6].

Timau llwyddiannus[golygu | golygu cod]

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Grŵp A[golygu | golygu cod]

Team Ch E Cyf Coll + - GG Pt
Gweriniaeth Siec Y Weriniaeth Tsiec 3 2 0 1 4 5 −1 6
Baner Groeg Groeg 3 1 1 1 3 3 0 4
Baner Rwsia Rwsia 3 1 1 1 5 3 +2 4
Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl 3 0 2 1 2 3 −1 2

Grŵp B[golygu | golygu cod]

Team Ch E Cyf Coll + - GG Pt
Baner Yr Almaen yr Almaen 3 3 0 0 5 2 +3 9
Baner Portiwgal Portiwgal 3 2 0 1 5 4 +1 6
Baner Denmarc Denmarc 3 1 0 2 4 5 −1 3
Baner Yr Iseldiroedd yr Iseldiroedd 3 0 0 3 2 5 −3 0

Grŵp C[golygu | golygu cod]

Team Ch E Cyf Coll + - GG Pt
Baner Sbaen Sbaen 3 2 1 0 6 1 +5 7
Baner Yr Eidal yr Eidal 3 1 2 0 4 2 +2 5
Baner Croatia Croatia 3 1 1 1 4 3 +1 4
Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon 3 0 0 3 1 9 −8 0

Grŵp D[golygu | golygu cod]

Team Ch E Cyf Coll + - GG Pt
Lloegr Lloegr 3 2 1 0 5 3 +2 7
Baner Ffrainc Ffrainc 3 1 1 1 3 3 0 4
Baner Wcráin Wcráin 3 1 0 2 2 4 −2 3
Baner Sweden Sweden 3 1 0 2 5 5 0 3

Rownd yr Wyth Olaf[golygu | golygu cod]

Rownd gyn-derfynol[golygu | golygu cod]

Rownd derfynol[golygu | golygu cod]

Enillwyr Pencampwriaeth Ewrop 2012
Sbaen
Sbaen
Trydydd teitl

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Spain claim historic win". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-05. Cyrchwyd 2016-03-15.
  2. "Torres, Casillas & Xavi amongst record-breakers for Spain". Goal.com. 2012-07-01.
  3. "Bidding for the Final Tournament 2012" (PDF). UEFA.com. Union of European Football Associations. 7 November 2005.
  4. Chaplin, Mark (2005-11-08). "Trio in EURO 2012 running". UEFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-12. Cyrchwyd 2016-03-15.
  5. "Euro joy for Poland and Ukraine". UEFA.com. Union of European Football Associations. 2007-04-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-21. Cyrchwyd 2016-03-15.
  6. "Draw details and dates". UEFA. 2012-02-07.