Tîm pêl-droed cenedlaethol Iran

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Iran Tîm pêl-droed cenedlaethol)
Jump to navigation Jump to search

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Iran (Perseg: تیم ملی فوتبال ایران) yn cynrychioli Iran yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Iran (FFIRI), corff llywodraethol y gamp yn Iran. Mae'r FFIRI yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC). Stadiwm cartref y tîm yw Stadiwm Azadi, Tehran.

Mae Iran wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar bedwar achlysur ac wedi ennill Pencampwriaeth Pêl-droed Asia ar dair achlysur.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Soccer stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag of Iran.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iran. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.