Neidio i'r cynnwys

Cwpan Pêl-droed Asia

Oddi ar Wicipedia
Cwpan Pêl-droed Asia
Founded1956; 69 mlynedd yn ôl (1956)
RegionAsia (Cyd-ffederasiwn Pêl-droed Asia)
Number of teams24 (finals)
46 (eligible to enter qualification)
Current champions Catar
(1st title)
Most successful team(s) Japan (4 titles)
Websitewww.the-afc.com
2023 AFC Asian Cup
Tlws y Cwpan hyd nes 2015

Mae Cwpan Pêl-droed Asia AFC yn cael ei gynnal bob 4 blynedd gan Gydffederasiwn Pêl-droed Asia - yr AFC. Ar ôl 2004, penderfynwyd symud y bencampwriaeth i osgoi gwrthdrawiad â thwrnameintiau eraill. Felly gohiriwyd y digwyddiad nesaf tan 2011.

Cynhaliwyd y bencampwriaeth gyntaf ym 1956. Mae Siapan, Iran a Arabia Sawdi i gyd wedi ennill deirgwaith yr un. Yn ogystal â'r cenhedloedd Asiaidd, mae Awstralia hefyd yn y twrnamaint. Mae Israel wedi cymryd rhan yn y gorffennol, ond wedi ymuno ag UEFA.

Y pencampwyr cyfredol yw Catar wedi budduoliaeth o 3-1 dros Japan yn 2019.

Sefydlu

[golygu | golygu cod]

Cynigiwyd cystadleuaeth pan-Asiaidd gyntaf ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ond ni chafodd ei gweithredu tan y 1950au. Ddwy flynedd ar ôl i Gydffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC) ddod i fodolaeth ym 1954, cynhaliwyd y Cwpan Asiaidd AFC cyntaf erioed yn Hong Kong gyda saith o'r deuddeg aelod sefydlu yn cymryd rhan, gan wneud y twrnamaint yr ail hynaf yn y byd. Roedd y broses gymhwyso yn cynnwys y gwesteiwyr ynghyd ag enillwyr y gwahanol barthau (Canol, Dwyrain a Gorllewin). Twrnamaint pedwar tîm yn unig ydoedd, fformat a oedd hefyd yn bodoli ar gyfer 1960 a 1964. Mae pob is-gydffederasiwn eisoes yn cynnal eu pencampwriaeth bob dwy flynedd eu hunain, pob un â graddau amrywiol o ddiddordeb.[1]

Dangosodd De Corea ei rhagoriaeth ym mlynyddoedd cynnar y gystadleuaeth wrth i'r wlad orchfygu 1956 a 1960; mae hyn yn parhau i fod fel cyflawniadau gorau De Corea yn y twrnamaint.[2]

Crynodeb o'r enillwyr

[golygu | golygu cod]

Mae Cwpan Asia wedi ei ddominyddu gan lond dwrn o brif dimau. Y gwledydd cychwynnol llwyddiannus oedd De Corea ac Iran (tair waill ill dau). Er 1984 mae Siapan a Arabia Sawdi wedi bod y timau mwyaf llwyddiannus, gan ennill saith o'r deg ffeinal ddiwethaf. Y gwledydd eraill sydd wedi bod yn llwyddiannus yw Catar (enillwyr 2015) ac Awstralia (enillwyr 2015). Irac (2007) a Coweit (1980). Bu i Israel ennill yn 1964 ond fe'i diarddelwyr o'r AFC gan ymuno ag UEFA (corff pêl-droed Ewrop).

Datblygiadau diweddar

[golygu | golygu cod]

Ymunodd Awstralia yr AFC yn 2007 gan gynnal twrnament Cwpan Asia yn 2015. Ehangwyd twrnament 2019 o 16 tîm i 24 gyda'r broses gymwyso yn dyblu hefyd fel ran o broses cymwyso ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 2018.[3][4] Yn y twrnamaint yn 2019 defnyddiwyd cynorthwy-ydd dyfarnu fideo (VAR) am y tro cyntaf.[5]

Enillwyr y Cwpan

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Lleoliad Enillydd Terfynydd arall
1956 Hong Cong De Corea De Corea Baner Israel Israel
1960 De Corea De Corea De Corea Baner Israel Israel
1964 Israel Baner Israel Israel Baner India India
1968 Iran Baner Iran Iran Baner Myanmar Myanmar
1972 Gwlad Tai Baner Iran Iran De Corea De Corea
1976 Iran Baner Iran Iran Baner Coweit Coweit
1980 Coweit Baner Coweit Coweit Baner Israel Israel
1984 Singapôr Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia Baner Tsieina Gweriniaeth Pobl Tsieina
1988 Catar Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia De Corea De Corea
1992 Japan Baner Japan Japan Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia
1996 Emiradau Arabaidd Unedig Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia Baner Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig
2000 Libanus Baner Japan Japan Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia
2004 Tsieina Baner Japan Japan Baner Tsieina Gweriniaeth Pobl Tsieina
2007 Indonesia
Maleisia
Gwlad Tai
Fietnam
Baner Irac Irac Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia
2011 Catar Baner Japan Japan Baner Awstralia Awstralia
2015 Awstralia Baner Awstralia Awstralia De Corea De Corea
2019 Emiradau Arabaidd Unedig Baner Catar Catar Baner Japan Japan
2023 Catar Baner Catar Catar Baner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen
2027 Sawdi Arabia

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://www.amazon.in/Recurring-Sporting-Events-Established-1956/dp/1156748968
  2. "The AFC".
  3. "Revamp of AFC competitions". The-afc.com. 25 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 February 2014.
  4. "AFC Asian Cup changes set for 2019". Afcasiancup.com. 26 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ionawr 2014.
  5. "AFC plans to introduce VAR at UAE 2019". 27 September 2018.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.