Tîm pêl-droed cenedlaethol De Corea

Oddi ar Wicipedia

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol De Corea (Coreaeg: 대한민국 축구 국가대표팀) yn cynrychioli De Corea yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Corea (KFA), corff llywodraethol y gamp yn Ne Corea. Mae'r KFA yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC).

Mae De Corea wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar naw achlysur gan gynnal y gystadleuaeth ar y cyd gyda Japan yn 2002 lle gorffennodd y tîm yn bedwerydd.

Maent hefyd wedi ennill Pencampwriaeth Pêl-droed Asia ddwywaith.

Soccer stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.