Joe Rodon
Rodon yn chwarae dros Gymru yn 2020 | |||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | Joseph Peter Rodon[1] | ||
| Dyddiad geni | 22 Hydref 1997[2] | ||
| Man geni | Abertawe, Cymru | ||
| Taldra | 1.93m[2] | ||
| Safle | Amddiffynnwr | ||
| Y Clwb | |||
| Clwb presennol | Leeds United | ||
| Rhif | 6 | ||
| Gyrfa Ieuenctid | |||
| 2005–2015 | Dinas Abertawe | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 2015–2020 | Dinas Abertawe | 52 | (0) |
| 2018 | → Cheltenham Town (benthyg) | 12 | (0) |
| 2020-2024 | Tottenham Hotspur | 15 | (0) |
| 2022-2023 | → Rennes (benthyg) | 16 | (1) |
| 2023-2024 | → Leeds United (benthyg) | 43 | (0) |
| 2024- | Leeds United | 46 | (1) |
| Tîm Cenedlaethol‡ | |||
| 2017 | Cymru dan 20 | 3 | (0) |
| 2016-2018 | Cymru dan 21 | 7 | (0) |
| 2019- | Cymru | 56 | (2) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar Mehefin 6 2025 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Pêl-droediwr o Gymru yw Joseph Peter Rodon (ganwyd 22 Hydref 1997) sy'n chwarae fel amddiffynnwr i Leeds United a thros dîm cenedlaethol Cymru.
Daw Rodon o Langyfelach, Abertawe, ac ymunodd â C.P.D. Dinas Abertawe pan oedd yn wyth oed yn 2005. Dyrchafwyd ef i'r tîm hŷn yn 2015,[3] ac roedd o ar y fainc am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2016 i gêm Cwpan Lloegr gyda Rhydychen. Ym mis Ionawr 2018 ymunodd â Cheltenham Town ar fenthyg.[4] Dychwelodd Rodon i Ddinas Abertawe ym mis Awst.
Ym mis Hydref 2020, ymunodd Rodon â Tottenham Hotspur am bris o £11 filiwn.[5] Ym mis Awst 2022, ymunodd Rodon â Rennes ar fenthyg gydag opsiwn i’w brynu.
Chwaraeodd Rodon dros Gymru am y tro cyntaf ym 2019. Roedd ei gôl cyntaf yn erbyn Liechtenstein ar 6 Mehefin 2025.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Updated squads for 2017/18 Premier League confirmed". Premier League. 2 February 2018. Cyrchwyd 16 February 2018.
- ↑ 2.0 2.1 "Joe Rodon: Overview". Premier League. Cyrchwyd 12 May 2022.
- ↑ Wathan, Chris (26 April 2016). "The talented youngsters pushing for first XI places". WalesOnline. Cyrchwyd 3 February 2018.
- ↑ "Joe Rodon: Cheltenham Town sign Swansea City defender on loan". BBC Sport. 30 January 2018. Cyrchwyd 3 February 2018.
- ↑ "Joe Rodon: Tottenham sign Wales centre-back from Swansea for £11m". BBC Sport. 16 October 2020. Cyrchwyd 17 October 2020.
- ↑ "Buddugoliaeth gyfforddus i Gymru yn erbyn Liechtenstein". BBC Cymru Fyw. 6 Mehefin 2025. Cyrchwyd 7 Mehefin 2025.