Harry Wilson
Wilson gyda Clwb pêl-droed Bournemouth yn 2020 | |||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Dyddiad geni | 22 Mawrth 1997[1] | ||
| Man geni | Wrecsam[2] | ||
| Taldra | 5 troedfedd 8 modfeddi (1.73 m)[2] | ||
| Safle | Asgellwr dde | ||
| Y Clwb | |||
| Clwb presennol | Fulham | ||
| Rhif | 8 | ||
| Gyrfa Ieuenctid | |||
| 2005–2014 | Lerpwl | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 2014–2022 | Lerpwl | 0 | (0) |
| 2015 | → Crewe Alexandra (ar fenthyg) | 7 | (0) |
| 2018 | → Dinas Hull (ar fenthyg) | 13 | (7) |
| 2018–2019 | → Derby County (ar fenthyg) | 40 | (15) |
| 2019–2020 | → Bournemouth (ar fenthyg) | 31 | (7) |
| 2020–2021 | → Dinas Caerdydd (ar fenthyg) | 37 | (7) |
| 2021–2022 | → Fulham (ar fenthyg) | 41 | (10) |
| 2022– | Fulham | 99 | (14) |
| Tîm Cenedlaethol‡ | |||
| 2013 | Cymru dan 17 | 3 | (3) |
| 2014 | Cymru dan 19 | 2 | (1) |
| 2015–2017 | Cymru dan 21 | 10 | (2) |
| 2013– | Cymru | 67 | (17) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 18 Tachwedd 2025 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Pêl-droediwr o Gymru yw Harry Wilson (ganwyd 22 Mawrth 1997) sy'n chwarae fel asgellwr i clwb Uwch Gynghrair Lloegr Fulham a thîm Cenedlaethol Cymru.
Ar ôl cynrychioli Cymru dan 17 yn nhwrnament y Victory Shield, cafodd Wilson ei alw i garfan lawn Cymru am y tro cyntaf ym mis Hydref 2013 ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Macedonia ond treuliodd y gêm ar y fainc[3][4]. Casglodd ei gap cyntaf wrth ddod i'r maes fel eilydd yn erbyn Gwlad Belg ar 15 Hydref 2013[5] gan ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros Gymru yn 16 mlwydd a 207 diwrnod oed.[6]
Magwraeth a chychwyn ei yrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Ysbyty Maelor Wrecsam a magwyd Wilson yng Nhorwen a mynychodd Ysgol Caer Drewyn ac Ysgol Dinas Brân, Llangollen.[7] Arwyddodd i sgwad dan-9 oed Lerpwl a phan oedd yn 15 oed daeth yn aelod llawn o sgwad y Liverpool F.C. Reserves and Academy. Yng Ngorffennaf 2014 arwyddodd ei gytundeb llawn amser. proffesiynol cynta gyda'r Clwb.[8][9]
Pan oedd Harry Wilson yn 18 mis oed, aeth ei daid Peter Edwards, trydanydd o Gorwen, i Wrecsam lle rhoddodd fet o £50 yn y bwci William Hill; betiodd y byddai ei ŵyr yn chwarae i dîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru. Enillodd £125,000![10]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Ben Woodburn, hefyd yn nhimoedd Lerpwl a Chymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Soccerway
- 1 2 "Harry Wilson". Fulham F.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mehefin 2022. Cyrchwyd 28 Mehefin 2022.
- ↑ "Liverpool FC teenager in surprise Wales international call-up". LiverpoolEcho. 2013-10-09.
- ↑ "Wales v. Macedonia WelshFootballOnline.com". welshfootballonline.com. 14 Hydref 2013.
- ↑ "Belgium v. Wales WelshFootballOnline.com". welshfootballonline.com. 15 Hydref 2013.
- ↑ "Cymru'n sbwylio parti Gwlad Belg". Golwg360.com. 15 Hydref 2014.
- ↑ "Wales Under 16 Squad Named for Switzerland. International News". Football Association of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-10. Cyrchwyd 9 Hydref 2013.
- ↑ "Welsh youngster Harry Wilson signs first professional contract with Liverpool FC". Liverpool Echo. 5 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Seven young Reds sign pro contracts". Liverpool FC. 7 Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-31. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Harry Wilson's grandfather nets £125,000 over Wales debut bet". BBC Sport. 16 Hydref 2013. Cyrchwyd 16 Hydref 2013.