Ben Woodburn

Oddi ar Wicipedia
Ben Woodburn

Woodburn yn chwarae i Lerpwl (dan 23 oed) yn 2016
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnBenjamin Woodburn
Dyddiad geni (1999-10-15) 15 Hydref 1999 (24 oed)
Man geniNottingham, Lloegr[1]
SafleBlaenwr
Y Clwb
Clwb presennolLerpwl
Rhif58
Gyrfa Ieuenctid
2007–2016Lerpwl
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2016–Lerpwl5(0)
Tîm Cenedlaethol
2014Cymru o dan 152(0)
2015Cymru o dan 161(3)
2014–2016Cymru o dan 178(1)
2016–Cymru o dan 194(2)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 16 Mawrth 2017.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 16 Mawrth 2017

Pêl-droediwr Cymreig yw Benjamin "Ben" Woodburn' (ganwyd 15 Hydref 1999) sy'n chwarae i Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr ac i dîm cenedlaethol Cymru ac yn aelod o dîm ieuenctid Cymru ers oedd yn 13 oed.

Ym mis Tachwedd 2016, daeth Woodburn yn sgoriwr gôl ieuengaf clwb Lerpwl erioed, a hynny yn ystod ei ail gêm erioed i'w glwb.[2] Enwyd Woodburn yn aelod o garfan Cymru am y tro cyntaf ar 16 Mawrth 2017[3]

Sgoriodd gôl gyda'i gyffyrddiad cyntaf ar ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ar 2 Medi 2017.[4]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Nottingham ond symudodd y teulu i Tattenhall, ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mynychodd ysgol Bishop Heber yng Nghaer ac yna Rainhill High School, sef ysgol bêl-droed y Liverpool FC Academy Education Centre.[5] Mae ganddo'r hawl i chwarae i Gymru gan mai Cymraes oedd ei Nain, ar ochr ei fam.[6] Cynigiwyd lle iddo yn nhîm dan-16 Lloegr yn Awst 2014 ond gwrthododd hynny.[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.bbc.co.uk/sport/football/38154933
  2. "Cymro yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio i Lerpwl". www.bbc.co.uk/cymrufyw/. Cyrchwyd 16 Mawrth 2017.
  3. "Ben Woodburn, 17, yng ngharfan Cymru i herio Iwerddon". www.bbc.co.uk/cymrufyw/. Cyrchwyd 16 Mawrth 2017.
  4. MacInnes, Paul (02 Medi 2017). "Ben Woodburn's debut scorcher gives Wales vital victory against Austria". The Guardian. Cyrchwyd 2 Medi 2017. Check date values in: |date= (help)
  5. walesonline.co.uk; adalwyd 17 Mawrth 2017.
  6. 6.0 6.1 Wathan, Chris (30 Tachwedd 2016). "What makes English-born Ben Woodburn Welsh? The Liverpool FC star's complicated situation fully explained". Wales Online. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2016.