Ethan Ampadu
| Ethan Ampadu | |
|---|---|
| Ganwyd | Ethan Kwame Colm Raymond Ampadu 14 Medi 2000 Caerwysg |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | pêl-droediwr |
| Taldra | 182 centimetr |
| Pwysau | 78 cilogram |
| Tad | Kwame Ampadu |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Exeter City F.C., Chelsea F.C., RB Leipzig, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 17 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 19 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Sheffield United F.C., Venezia F.C., Spezia Calcio, Leeds United F.C. |
| Safle | amddiffynnwr, chwaraewr canol cae |
| Gwlad chwaraeon | Lloegr, Cymru |
Mae Ethan Kwame Colm Raymond Ampadu (ganed 14 Medi 2000) yn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru. Mae'n chwarae gan amlaf mewn safle canol cae amddiffynnol, ond gall hefyd chwarae fel amddiffynnwr canol.
Mae'n fab i'r cyn-chwaraewr pêl-droed proffesiynol Kwame Ampadu.[1] Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru ym mis Tachwedd 2017.
| “ |
Ro'n i wastad wedi teimlo'n Gymro. Cymro ydw i. Dydw i ddim yn gwybod pam mae pobl hyd yn oed yn dweud fy mod i'n Sais. Dw i'n gwybod fy mod i wedi cael fy ngeni yn Lloegr ond dw i'n teimlo'n Gymro ac nid yw hynny'n rhywbeth sy'n mynd i newid![2] |
” |
Gyrfa glwb
[golygu | golygu cod]Dinas Caerwysg
[golygu | golygu cod]Yn enedigol o Gaerwysg, Dyfnaint, roedd Ampadu yn perthyn i academi ieuenctid Dinas Caerwysg. Ar 9 Awst 2016, pan oedd yn 15 blwydd 10 mis a 26 diwrnod, chwaraeodd gyntaf yn rownd agoriadol cystadleuaeth Cwpan Cynghrair Lloegr yn erbyn Brentford ym Mharc St James, gan chwarae 120 munud llawn yn y fuddugoliaeth o 1–0.[3] Cafodd ei enwi'n seren y gem, ac ef oedd chwaraewr ieuengaf y clwb erioed, yn torri record Cliff Bastin a oedd wedi sefyll ers 87 o flynyddoedd.[4][5][6] Wythnos yn ddiweddarach, chwaraeodd ei gem gynghrair gyntaf, pan drechwyd Caerwysg adref o 1-0 yn erbyn Tref Crawley yng Ail Adran Cyngrair Bel-droed Lloegr.[7]
Chelsea
[golygu | golygu cod]Ar 1 Gorffennaf 2017, arwyddodd Ampadu gytundeb gyda Chelsea, clwb yn Uwch-Gynghrair Lloegr.
Ar 20 Medi, chwaraeodd Ampadu ei gem gyntaf i Chelsea mewn gem drydedd rownd yng Nghwpan Cynghrair Lloegr yn erbyn Nottingham Forest, gan ddod ymlaen ar ôl 55 munud yn lle Cesc Fàbregas.[8] Gyda hynny, daeth Ampadu yn y cyntaf a oedd wedi'i eni yn y 2000au i chwarae i Chelsea. Yn 17 blwydd a 6 diwrnod, ef hefyd oedd yr ieuengaf i chwarae i'r clwb er dros ddegawd.[9] Ar 12 Rhagfyr, chwaraeodd ei gem gyntaf i Chelsea yn yr Uwch-Gynghrair, pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Huddersfield Town ar ôl 80 munud.[10]
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Mae Ampadu yn chwarae pêl-droed rhyngwladol i dim cenedlaethol Cymru. Gallai hefyd fod wedi chwarae i Loegr, Gweriniaeth Iwerddon neu Ghana.[11]
Ar 26 Mai 2017, pan oedd yn 16 oed, cafodd Ampadu ei alw i garfan Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer gem ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2018, a hynny yn erbyn Serbia.[12] Cafodd ei alw eto ar 1 Tachwedd ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc a Panama,[13] a chwaraeodd am y tro cyntaf ar 10 Tachwedd yn Stade de France, pan ddaeth i'r cae fel eilydd i Joe Ledley ar ôl 63 o funudau. Enillodd y Ffrancwyr o 2–0.[14]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Exeter City 1–0 Brentford". BBC Sport. 9 Awst 2016. Cyrchwyd 10 Awst 2016.
- ↑ Gwreiddiol: I always felt Welsh. I am Welsh. I don't know why people even say I'm English. I know I was born in England but I feel Welsh and that's not something that's going to change. Gweler [https://www.walesonline.co.uk/sport/football/football-news/ethan-ampadu-reaches-remarkable-wales-28843399 walesonline.co.uk; Teitl: Ethan Ampadu reaches remarkable Wales milestone at just 23 after becoming Leeds United's new hero; Dyddiad: 18 Mawrth 2024. Adalwyd 23 Awst 2025.
- ↑ "Exeter City 1–0 Brentford". BBC Sport. 9 Awst 2016. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2017.
- ↑ @officialecfc (9 Awst 2016). "15-year-old Ethan Ampadu wins the man-of-the-match award on his full debut for the club. Well done, Ethan!" (Trydariad) (yn Saesneg) – drwy Twitter.
- ↑ "Exeter City vs Brentford: Ethan Ampadu to become Exeter City's youngest ever player". ExeterExpressandEcho.co.uk. 9 Awst 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Awst 2016. Unknown parameter
|deadurl=ignored (help) - ↑ Abbandonato, Paul (10 Awst 2016). "The 15-year-old wonderkid England want to poach has just become big news". Wales Online.
- ↑ "Exeter City 0–1 Crawley Town". BBC Sport. 16 Awst 2016. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2017.
- ↑ "Chelsea 5–1 Nottingham Forest". BBC Sport. 20 Medi 2017. Cyrchwyd 20 Medi 2017.
- ↑ "Ethan Ampadu becomes youngest Chelsea player in over a decade". Goal. 20 Medi 2017.
- ↑ "Huddersfield Town 1–3 Chelsea". BBC Sport. 12 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2017.
- ↑ Rogers, Gareth (7 Ebrill 2016). "Why Man Utd target Ethan Ampadu chose Wales over England". WalesOnline.co.uk.
- ↑ "Ethan Ampadu: Exeter City youngster included in Wales squad". BBC Sport. Cyrchwyd 26 Mai 2017.
- ↑ Byrom, David (1 Tachwedd 2017). "Chelsea starlet Ethan Ampadu included in Wales squad for Tachwedd friendlies". Devon Live. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2017.
- ↑ "France 2–0 Wales". BBC Sport. 10 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2017.