Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2020

Oddi ar Wicipedia
UEFA Euro 2020
Manylion
CynhaliwydAserbaijan
Denmarc
Lloegr
Yr Almaen
Hwngari
Yr Eidal
Yr Iseldiroedd
Iwerddon
Rwmania
Dyddiadau11 Mehefin – 11 Gorffennaf
Timau24
Lleoliad(au)11 (mewn 11 dinas)
2016
2024

Pencampwriaeth Pêl-droed UEFA Euro 2020, a gyfeirir ato hefyd fel Euro 2020, oedd y 16eg Pencampwriaeth Ewrop ar gyfer timau pêl-droed cenedlaethol dynion a drefnwyd gan UEFA. Roedd disgwyl i'r gystadleuaeth gael ei chynnal mewn 12 gwlad wahanol o gwmpas Ewrop rhwng 12 Mehefin 2020 hyd 12 Gorffennaf 2020. Gohiriwyd y twrnamaint tan 2021 oherwydd y Pandemig COVID-19.[1]

Cynhaliwyd y seremoni agoriadol yn y Stadio Olimpico yn Rhufain, yr Eidal, ar 11 Mehefin 2021, cyn gêm gyntaf y twrnamaint. Perfformiodd y canwr opera Eidalaidd Andrea Bocelli y gân "Nessun dorma".[2]


Cymru[golygu | golygu cod]

Yn y rownd grŵp, chwaraeodd Cymru yn erbyn y Swistir (gêm gyfartal 1-1), Twrci (gan ennill 0-2) a'r Eidal (colli 1-0). Felly roedd Cymru yn ail y tabl ac yn symud ymlaen i'r rownd 16 olaf.[3] Chwaraeodd Cymru yn erbyn Denmarc yn Arena Johan Cruijff, Amsterdam ond collwyd y gêm o 0-4, gan ei bwrw allan o'r gystadleuaeth.[4]

Canlyniad[golygu | golygu cod]

Enillodd yr Eidal y rownd derfynol ar gosbau yn erbyn Lloegr yn dilyn gêm gyfartal 1–1 ar ôl amser ychwanegol. Cyn y rownd derfynol, gorfododd tua 400 o gefnogwyr Lloegr eu ffordd i mewn i'r stadiwm heb docynnau.[5] Roedd llawer yn dreisgar.[6]

Sylwadau hiliol[golygu | golygu cod]

Ar ôl y gêm, roedd y chwaraewyr Seisnig Bukayo Saka, Jadon Sancho a Marcus Rashford yn destun cam-drin hiliol ar-lein ar ôl colli cosbau.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Resolution of the European football family on a coordinated response to the impact of the COVID-19 on competitions". UEFA.com (yn Saesneg). Union of European Football Associations. 17 Mawrth 2020. Cyrchwyd 17 Mawrth 2020.
  2. "Bocelli apre la cerimonia con 'Nessun dorma'" [Euro 2020, Andrea Bocelli opens the ceremony with 'Nessun dorma']. la Repubblica. 11 Mehefin 2021. Cyrchwyd 11 Mehefin 2021. (Eidaleg)
  3. "Euro 2020: Y farn yn Rhufain am gêm Cymru yn erbyn yr Eidal". BBC Cymru Fyw. 20 Mehefin 2021. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2021.
  4. "Cymru allan o Euro 2020 wedi cweir gan Ddenmarc". BBC Cymru Fyw. 26 Mehefin 2021. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2021.
  5. "Euro 2020: Fans break through security barriers and run into Wembley ahead of England v Italy final". Sky News (yn Saesneg). 11 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2021.
  6. Gardner, Jamie (12 Gorffennaf 2021). "FA promise full review into Wembley security breach ahead of Euro 2020 final". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2021.
  7. "FA 'appalled' after Bakayo Saka racially abused on social media following Euro 2020 defeat". The Telegraph (yn Saesneg). 12 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2021.