Cynghrair y Cenhedloedd UEFA

Oddi ar Wicipedia

Cystadleuaeth bêl-droed rhyngwladol yw Cynghrair y Cenhedloedd UEFA. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ar gyfer timau dynion y cymdeithasau pêl-droed sy'n aelodau o UEFA, sef y corff llywodraethol Ewropeaidd.

Cychwynnodd y twrnament cyntaf ym mis Medi 2018, yn dilyn Cwpan y Byd FIFA 2018. Bydd enillwyr y pedwar grwp o Gynghrair A yn mynd i'r rowndiau terfynol sydd i'w cynnal ym Mehefin 2019. Bydd pedair cenedl, un o bob Cynghrair, hefyd yn mynd ymlaen i Rowndiau Terfynol Euro 2020.[1]

Mae'r gystadleuaeth yn cymryd lle y gemau rhyngwladol cyfeillgar a oedd yn cael eu chwarae yng Nghalendr Gemau Rhyngwladol FIFA.[2]

Y Tlws[golygu | golygu cod]

Cafodd tlws Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ei ddadorchuddio pan cyhoeddwyd am  y tro cyntaf pa dimau fyddai yn y cynghreiriau yn Lausanne, Y Swistir. Mae'r tlws yn cynrychioli'r 55 cymdeithas genedlaethol sy'n aelodau o UEDA ac wedi'i wneud o arian. Mae'n pwyso 7.5 cilogram ac yn 71 cm o uchder..[3]

Anthem[golygu | golygu cod]

Cafodd anthem swyddogol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ei recodio gyda cherddorfa ffilharmonig a chor yn canu mewn Lladin. Mae'n gyfuniad o gerddoriaeth glasurol ac electronig a bydd yn cael ei chwarae pan fydd y chwaraewyr yn rhedeg ar y cae, mewn rhaglenni teledu ac at ddibenion seremoniol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "UEFA Nations League receives associations' green light". UEFA.com. 27 Mawrth 2014.
  2. Rumsby, Ben (25 Mawrth 2014). "England ready to play in new Nations League as revolutionary UEFA plan earns unanimous backing". The Telegraph. The Telegraph Media Group. Cyrchwyd 26 Mawrth 2014.
  3. "UEFA Nations League trophy and music revealed". UEFA.com. https://www.uefa.com/uefanationsleague/news/newsid=2530179.html. Adalwyd 30 Awst 2018.