Ankara
Math | bwrdeistref fetropolitan Twrci |
---|---|
Poblogaeth | 5,803,482 |
Pennaeth llywodraeth | Mansur Yavaş |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Minsk, Miami, Pavlodar, Ashgabat, Astana, Beijing, Bishkek, Bwcarést, Chişinău, Hanoi, Kyiv, Kuala Lumpur, Dinas Coweit, Nicosia, Manama, Moscfa, Tirana, Kinshasa, Bissau, Ufa, Mogadishu, Sana'a, Washington, Sofia, Tbilisi, Islamabad, Bangkok, Khartoum, Santiago de Chile, Damascus, Amman, Seoul, Dushanbe, Sarajevo, Prishtina, Gogledd Nicosia, Budapest |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tyrceg |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Rhanbarth Canoldir Anatolia |
Sir | Ankara |
Gwlad | Twrci |
Arwynebedd | 25,632 km² |
Uwch y môr | 938 ±1 metr |
Gerllaw | Çubuk, Hatip |
Cyfesurynnau | 39.9358°N 32.8387°E |
Cod post | 06000–06999 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Ankara |
Pennaeth y Llywodraeth | Mansur Yavaş |
Prifddinas Twrci a'r ddinas ail fwyaf yn y wlad honno yw Ankara (hefyd: Ancara; hen enwau Angora ac Ancyra), sy'n brifddinas Talaith Ankara yn ogystal. Yn 2007 roedd tua 4,455,453 o bobl yn byw yn y ddinas. Lleolir Ankara 938 medr uwchben lefel y môr. Mae hinsawdd cyfandirol, gyda hafau tymherol ac eira yn y gaeaf. Ankara yw canolfan masnach a diwydiant bwysicaf y wlad ond cyn ei dyfod yn brif ddinas roedd hi'n enwog yn bennaf am ei geifr blew hir ynghyd â'r gwlân arbennig a geir ohonynt, sef gwlân Angora.
Cafodd y ddinas ei chodi yng nghanol ucheldir Anatolia ac mae'n groesffordd cludiant bwysig iawn i ffyrdd a'r rheilffyrdd fel ei gilydd. Prifysgolion y ddinas yw Prifysgol Technoleg y Dwyrain Canol (Middle East Technical University; METU), Prifysgol Hacettepe, Prifysgol Bilkent a Phrifysgol Ankara ei hun. Mae Llyfrgell Genedlaethol Twrci a'r Amgueddfa Ddaearegol i'w cael yn Ankara yn ogystal.
Ers y dewiswyd hi fel prifddinas Twrci gan Kemal Atatürk yn lle Istanbul, mae'r ddinas wedi datblygu ac erbyn hyn mae'n cynnwys hen ardal o'r enw Ulus ynghyd ag ardal newydd o'r enw Yenisehir. Mae adeiladau Rhufeinig, Bysantaidd ac Otomanaidd yn y strydoedd cul yn yr hen chwarter, a cheir gwestai mawr, theatrau, canolfannau siopio ac ati yn yr ardal newydd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Mawr Twrci a swyddfeydd y llywodraeth, ynghyd â llysgenhedaethau gwledydd tramor i'w cael yn yr ardal newydd hefyd.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Palas Ankara
- Çankaya Köşkü (palas Arlywydd Twrci)
- Mosg Kocatepe
- Tŵr Atakule
- Tŷ Opera
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Vehbi Koç (1901-1996), dyn busnes
- Ali Babacan (g. 1967), gwleidydd