Rhestr beirdd Cymraeg c.550–1600
| Llenyddiaeth Gymraeg | ||||||||
| Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg Llenorion
|
||||||||
Mae hyn yn rhestr o'r beirdd Cymraeg hysbys a ganai ar y mesurau caeth yn bennaf rhwng canol y 5fed ganrif a diwedd yr 16eg ganrif. Sylwer nad yw'n cynnwys beirdd mesurau rhydd y cyfnod diweddar, sef o tua 1550 ymlaen, ond mae'n cynnwys ychydig o feirdd a flodeuai ar ddechrau'r 17eg ganrif ond sy'n perthyn yn uniongyrchol i'r hen draddodiad barddol. Sylwer yn ogystal fod llawer o ganu'r cyfnodau cynnar yn waith beirdd anhysbys, e.e. yn achos canu crefyddol cynnar a cherddi gnomig a chwedlonol. Anwybyddir hefyd y rhan fwyaf o'r Canu Darogan, cerddi a dadogir yn aml ar y Taliesin chwedlonol, Myrddin a ffigurau eraill.
Cynnwys |
c.550–1100 [golygu]
Mae gwaith rhai o'r beirdd Cymraeg cynharaf wedi goroesi. Cysylltir canran uchel o'r canu gyda'r Hen Ogledd. Mae'r beirdd hyn yn perthyn i gyfnod yr Hengerdd, a adwaenir hefyd fel cyfnod y Cynfeirdd:
- Aneirin (c.550)
- Taliesin (ail hanner y 6ed ganrif)
- Afan Ferddig (7fed ganrif efallai)
Mae enwau'r beirdd nad yw eu gwaith wedi goroesi yn cynnwys:
- Arofan (7fed ganrif)
- Blwchfardd (6ed ganrif)
- Cian (6ed ganrif)
- Culfardd
- Golyddan Fardd (bl, 664)
- Talhaearn Tad Awen (6ed ganrif)
- Tristfardd (6ed ganrif)
Awduraeth ansicr:
- Afan Ferddig, awdur moliant i Gadwallon ap Cadfan efallai
Mae'r rhan fwyaf o'r cerddi o'r cyfnod a elwir "Canu'r Bwlch" yn gynnyrch beirdd anhysbys. Cydnabyddir erbyn heddiw nad yw Llywarch Hen yn ffigwr hanesyddol. Cred rhai ysgolheigion fod Heledd, yng nghylch Canu Llywarch Hen, yn brydyddes ond mae eraill yn dadlau mai ei chymeriad sy'n llefaru a bod y cerddi yn waith bardd anhysbys.
1100–1290 [golygu]
Arferid cyfeirio at y beirdd llys hyn fel y 'Gogynfeirdd', ond erbyn heddiw aferir yr enw Beirdd y Tywysogion am y beirdd a ganai i frenhinoedd a thywysogion Cymru yn y 12fed ganrif a'r 13eg. Mae'r rhestr bron iawn yn gronolegol.
- Meilyr Brydydd (fl. 1100–1147)
- Gwalchmai ap Meilyr (fl. 1130–1180)
- Meilyr ap Gwalchmai (fl. ail hanner y 12fed ganrif)
- Llywelyn Fardd I (fl. tua 1125–1200)
- Hywel ab Owain Gwynedd (m. 1170)
- Owain Cyfeiliog (Owain ap Gruffudd ap Maredudd, c.1130–1197)
- Llywarch Llaety (fl. 1140–1160)
- Llywarch y Nam (enw arall ar Llywarch Llaety, efallai)
- Daniel ap Llosgwrn Mew (fl. 1170–1200)
- Peryf ap Cedifor (neu Peryf ap Cedifor Wyddel, fl. 1170)
- Seisyll Bryffwrch (fl. 1155–1175)
- Gwynfardd Brycheiniog (fl. 1176)
- Gwilym Rhyfel (fl. 1174)
- Gruffudd ap Gwrgenau (fl. diwedd y 12fed ganrif)
- Cynddelw Brydydd Mawr (fl. 1155–1200)
- Llywarch ap Llywelyn ("Prydydd y Moch") (fl. 1137–1220)
- Elidir Sais (fl. 1195–1246)
- Einion ap Gwalchmai (fl. 1203–1223)
- Einion Wan (fl. 1230–1245)
- Llywelyn Fardd II
- Philyp Brydydd (fl. 1222)
- Gwgon Brydydd
- Einion ap Gwgan (fl. 1215)
- Gwernen ap Clyddno
- Goronwy Foel (fl. tua chanol y 13eg ganrif)
- Einion ap Madog ap Rhahawd (fl. 1237)
- Dafydd Benfras (fl. 1230–1260)
- Y Prydydd Bychan (fl. 1220–1270)
- Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel (c.1240–1300)
- Llygad Gŵr (fl. 1268)
- Iorwerth Fychan
- Madog ap Gwallter (fl. ail hanner y 13eg ganrif)
- Gruffudd ab Yr Ynad Coch (fl. 1280)
- Bleddyn Fardd (fl. 1268–1283)
Beirdd eraill o'r cyfnod (nid yw eu gwaith wedi goroesi):
- Berddig (bl. tua 1050au - 1080au), bardd llys Gruffudd ap Llywelyn, efallai
- Gellan (bu farw 1094), a oedd o bosibl yn fardd teulu Gruffudd ap Cynan o Wynedd
- Gwrgant ap Rhys (bu farw 1158), bardd llys o Wynllwg
Brudiwr:
- Adda Fras (bl. tua 1240-1320?)
1290–1500 [golygu]
Dyma Feirdd yr Uchelwyr. Mae'r rhestr yn ceisio dilyn trefn amser ond nid yw'n gynhwysfawr gan fod gwaith rhai o feirdd llai y cyfnod, yn enwedig beirdd y 15fed ganrif a dechrau'r ganrif olynol, yn aros yn y llawysgrifau. Anwybyddir hefyd enwau traddodiadol/chwedlonol beirdd y Canu Darogan, ac eithrio rhai enwau beirdd cyfnabyddedig diweddarach.
14eg ganrif (yn bennaf) [golygu]
- Gruffudd Unbais (fl. c. 1277 – dechrau'r 14eg ganrif)
- Casnodyn (14eg ganrif)
- Gruffudd ap Dafydd ap Tudur (fl. 1300)
- Gwilym Ddu o Arfon (fl. 1280 – 1320)
- Trahaearn Brydydd Mawr (dechrau'r 14eg ganrif)
- Iorwerth Beli (dechrau'r 14eg ganrif)
- Gronw Gyriog (dechrau'r 14eg ganrif))
- Iorwerth ab y Cyriog (14eg ganrif)
- Mab Clochyddyn (hanner cyntaf y 14eg ganrif)
- Ithel Ddu (ail hanner y 14eg ganrif)
- Einion Offeiriad (m. 1349)
- Gronw Ddu (canol y 14eg ganrif)
- Dafydd Ddu o Hiraddug (fl. c. 1330–1370)
- Bleddyn Ddu (fl. 1331–c.1385)
- Bleddyn Llwyd (14eg ganrif)
- Gruffudd ap Tudur Goch (canol y 14eg ganrif)
- Gruffudd ap Llywelyn Lwyd (14eg ganrif)
- Llywelyn Brydydd Hoddnant (dechrau'r 14eg ganrif)
- Hillyn (14eg ganrif)
- Hywel Ystorm (14eg ganrif)
- Llywelyn Ddu ab y Pastard (14eg ganrif)
- Dafydd ap Gwilym (c. 1320–c. 1370)
- Gruffudd ab Adda ap Dafydd (fl. 1340–1370)
- Llywelyn Goch ap Meurig Hen (fl. c.1350 – c.1390)
- Sefnyn (ail hanner y 14eg ganrif)
- Rhisierdyn (fl. 1381)
- Conyn Coch (ail hanner y 14eg ganrif)
- Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed (canol y 14eg ganrif)
- Llywarch Bentwrch (canol y 14eg ganrif)
- Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd (fl. 1346–1382)
- Hywel ab Einion Lygliw (canol y 14eg ganrif)
- Llywelyn ap Gwilym Lygliw (14eg/15fed ganrif?)
- Rhys ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn Lygliw
- Madog Benfras (fl. canol y 14eg ganrif)
- Gruffudd Gryg (14eg ganrif)
- Owain Waed Da (Ieuan Waed Da) (14eg ganrif)
- Prydydd Breuan (14eg ganrif)
- Rhys ap Dafydd ab Einion (14eg ganrif)
- Rhys ap Tudur (14eg ganrif?)
- Rhys Meigen (14eg ganrif)
- Tudur ap Gwyn Hagr (14eg ganrif)
- Tudur Ddall (14eg ganrif)
- Y Mab Cryg (14eg ganrif)
- Yr Ustus Llwyd (ail hanner y 14eg ganrif)
- Llywelyn Foelrhon (ail hanner y 14eg ganrif)
- Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon (ail hanner y 14eg ganrif)
- Llywelyn Fychan (ail hanner y 14eg ganrif)
- Iocyn Ddu ab Ithel Grach (ail hanner y 14eg ganrif)
- Gruffudd Llwyd (diwedd y 14eg ganrif – dechrau'r 15fed)
- Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan (ail hanner y 14eg ganrif)
- Gruffudd ap Rhys Gwynionydd (ail hanner y 14eg ganrif)
- Madog Dwygraig (ail hanner y 14eg ganrif)
- Dafydd Bach ap Madog Wladaidd (Sypyn Cyfeiliog) (fl.1340–1390)
- Llywelyn ab y Moel (Llywelyn ap Moel y Pantri) (fl. 1395–1440)
- Y Poesned (fl. 1380au)
- Gruffudd ap Gweflyn (fl. 1382)
- Iolo Goch (fl. cyn 1345 – c. 1400)
- Dafydd y Coed (ail hanner y 14eg ganrif)
- Ieuan Llwyd ab y Gargam (14eg ganrif)
- Meurig ab Iorwerth (fl . diwedd y 14eg ganrif)
- Rhys ap Cynfrig Goch (fl. diwedd y 14eg ganrif)
- Rhys ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn Lygliw (diwedd y 14eg ganrif neu ddechrau'r 15fed)
15fed ganrif (yn bennaf) [golygu]
- Y Proll
- Rhys Goch Eryri (fl. 1365–1440)
- Ieuan Brydydd Hir
- Ieuan ap Llywelyn Fychan
- Ieuan Llwyd Brydydd
- Llawdden
- Lewys Aled
- Iorwerth Fynglwyd
- Rhys Brydydd (fl. tua chanol y 15fed ganrif)
- Gwilym Tew (fl. 1460–1480)
- Dafydd Epynt
- Dafydd Llwyd o Fathafarn
- Gwerful Mechain
- Guto'r Glyn
- Ieuan ap Gruffudd Leia
- Ieuan Dyfi
- Lewys Glyn Cothi
- Gutun Owain
- Dafydd Nanmor
- Ieuan ap Rhydderch (c.1430–1470)
- Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd (fl. 1440–1470)
- Llywelyn Goch y Dant (bl. 1470)
- Ieuan Du'r Bilwg (bl. ail hanner y 15fed ganrif)
- Tudur Penllyn
- Ieuan ap Tudur Penllyn
- Dafydd Gorlech
- Hywel Cilan
- Siôn Cent
- Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan
- Dafydd ap Hywel
- Huw ap Dafydd
- Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision
- Llywelyn ap Hywel
- Gruffudd ap Dafydd Fychan
- Huw Cae Llwyd
- Ieuan ap Huw Cae Llwyd
- Ieuan Rudd
- Deio ab Ieuan Du
- Gwilym ab Ieuan Hen
- Maredudd ap Rhys
- Ifan Fychan ab Ifan ab Adda
- Gwerful Fychan
- Huw Pennant (fl. 1465–1514)
- Syr Rhys o Lanbryn–Mair a Charno
- Owain ap Llywelyn ab y Moel (fl. 1470–1500)
- Lang Lewis (bl. 1480–1520)
- Rhisiart ap Rhys (fl. c.1495–c.1510)
16eg ganrif [golygu]
Mae rhan fwyaf o feirdd hanner cyntaf y ganrif yn perthyn i draddodiad Beirdd yr Uchelwyr. Nid yw'r rhestr yn cynnwys gwaith beirdd a ganai ar y mesurau rhydd newydd o ganol y ganrif ymlaen. Mae'n cynnwys uchelwyr a ganai "ar eu bwrdd eu hunain," heb fod yn feirdd proffesiynol. Nodir hefyd y beirdd proffesiynol olaf a ganai yn y 17eg ganrif.
- Tudur Aled (c.1465–1525)
- Lewys Môn (bl. 1485–1527)
- Siôn Ceri (bl. tua 1490–1540au)
- Rhisiart Iorwerth (Rhisiart Fynglwyd)
- Edward Sirc (bl. hanner cyntaf yr 16eg ganrif)
- Lewys Daron (bl. 1520–39)
- Lewys Morgannwg (bl. 1520–1565)
- Simwnt Fychan (c.1530–1606)
- Gruffudd Hiraethog (1564)
- Wiliam Llŷn (1534/5–1580)
- Wiliam Cynwal (1587/8)
- Huw Llŷn (bl. 1540–1570)
- Morus Dwyfech (bl. 1540–1580)
- Ieuan Tew Hynaf (Ieuan Tew Brydydd Hynaf) (hanner cyntaf yr 16eg ganrif)
- Ieuan Tew Ieuanc (Ieuan Tew Brydydd Ieuanc) (tua 1540-tua 1608)
- Lewis ab Edward (Lewis Meirchion) (bl. 1541–1567)
- Owain Gwynedd (tua 1545–1601)
- Dafydd Alaw (bl. 1546–1567)
- Huw Cornwy (bl. 1545–1596)
- Lewis Menai (bl. 1557–1581)
- Hywel ap Mathew (m. 1581)
- Dafydd Benwyn (bl. ail hanner yr 16eg ganrif)
- Siôn Phylip (c.1543–1620)
- Huw Ceiriog (c.1560–1600)
- Huw Pennant (bl. 1565–1619)
- Edward Maelor (bl. 1567–1603)
- Lewys Dwnn (bl. 1568–1616)
- Edmwnd Prys (1543/4–1623)
- Edward Urien (bl. tua 1580–1614).
- Cadwaladr Cesail (bl. 1610–1625)
- Rhisiart Phylip (m. 1641)
- Gruffudd Phylip (m. 1666)
- Phylip Siôn Phylip (bl. hanner cyntaf yr 17eg ganrif)
- Siôn Dafydd Las (m. 1694)
Clerwr oedd Robin Clidro (fl. tua 1545–1580)
Ffynonellau [golygu]
Seilir y rhestr ar gyfeiriadau yn y gweithiau hyn:
- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)
- Cyfres Beirdd y Tywysogion: Golygiadau safonol o waith y beirdd llys i gyd, mewn saith cyfrol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991-1996).
- Cyfres Beirdd yr Uchelwyr: Cyfres a gyhoeddir gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth (prosiect sy'n cyhoeddi sawl cyfrol newydd bob blwyddyn).
- Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1945)