Robin Clidro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Clerwr (bardd is-radd) a cherddor o Ddyffryn Clwyd a fu'n adnabyddus am ei ganu doniol, parodïol oedd Robin Clidro (fl. tua 1545 - 1580au). Am ganrif neu ddwy ar ôl ei farwolaeth bu ei enw yn gyfystyr ag anfedrusrwydd ar farddoniaeth, fel y Bardd Cocos yn y 19eg ganrif, ond mae mwy o barodrwydd i gydnabod ei ddoniau fel parodïwr arbennig erbyn heddiw.

Ganed Robin Clidro yn y 1520au, yn ôl pob tebyg. Roedd ganddo dir yn ei enw ger Rhuthun, Sir Ddinbych, a chredir fod ganddo gartref yno. Doedd o ddim yn un o'r beirdd trwyddedig ond yn hytrach roedd yn perthyn i ddosbarth o feirdd gwerinol a adnabyddir fel y Glêr. Beirdd crwydrol oedd y Glêr, a arferai fynd o gwmpas y wlad i ganu cerddi a chwarae cerddoriaeth yn nhai'r mân uchelwyr ac yn y ffeiriau a'r tafarnau. Roedd y dosbarth yma yn ddirmygiedig gan y beirdd proffesiynol trwyddedig, yn rhannol oherwydd safon "isel" eu crefft a hefyd am eu bod yn cystadlu â hwy am nawdd. Mae'r hyn a wyddom am hanes Robin Clidro yn rhoi i ni gipolwg gwerthfawr ar y beirdd gwerinol hyn.

Mae'r ychydig a wyddom am Robin Clidro yn deillio'n bennaf o dystiolaeth ei gerddi. O'i gartref yn Nyffryn Clwyd roedd yn arfer cychwyn ar deithiau clera - teithio ar gylch o dŷ i dŷ i ennill ei damaid trwy ganu cerddi - ar draws ogledd a chanolbarth Cymru, ac i'r de hefyd weithiau. Canai yn y ffeiriau a'r tafarnau ond mwynheai nawdd rhai o'r uchelwyr lleol hefyd, yn enwedig Salbriaid Bachymbyd (Dyffryn Clwyd) a'r Rug (ger Corwen).[1]

Roedd yn barod iawn i wneud tipyn o hwyl am ei ben ei hun, ac mae rhai o'i gerddi gorau yn adrodd troeon trwstan yn hanes y bardd. Enghraifft dda o hyn yw ei gerdd am ei daith clera i Lwydlo lle roedd y croeso yn brin a'r bardd bron a llwgu. Paradïai waith y beirdd mawr trwy ganu cerddi mawl a marwnadau digrif. Roedd yn hoff o ddod â thipyn o faswedd, diniwed a doniol, i mewn i'w cerddi hefyd, fel yn y gerdd 'Awdl Pysgota' lle ceir llawer o fwyseirio ar y gair [y]sletten (1. cwch bach, 2. slwt, hwren). Er enghraifft:

Roedd yno ŵr o Lanbadarn
Â'i ysletten fawr lydan
Â'i thin ar y graian
Wedi mynd yn greie.[2]

O ran ei grefft, nodweddir ei gerddi gan gynghanedd lac a llawer o feiau mân (ond llai felly i'r glust), iaith lafar dafodieithol a pharodrwydd i fenthyg o'r Saesneg. Cerddi rhydd ydynt, ond cerddi rhydd sy'n perthyn yn agos iawn i'r canu caeth.

Canodd y bardd Siôn Tudur ffug farwnad i Robin Clidro sy'n efelychu ei arddull ac yn ychwanegu at ein gwybodaeth amdano. Dywed fod Robin yn arfer ei hegla hi am Degeingl "bob dydd" i glera, i Gaernarfon bob wythnos ac i Fôn unwaith y mis. Roedd yn cario pastwn (dim i amddiffyn ei hun yn unig ond hefyd i gadw'r amser trwy taro'r llawr wrth ddatgan cerddi). Roedd yn canu'r crwth (yn anfedrus!) ac efallai'n medru canu'r pibau hefyd.[3]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Enid Rowlands (gol.), Gwaith Siôn Tudur, 2 gyfrol (Caerdydd, 1980), cyfrol 2, tud. 512.
  2. T. H. Parry-Williams (gol.), Canu Rhydd Cynnar (Caerdydd, 1932), tt. 161-3.
  3. Gwaith Siôn Tudur, cyfrol 1, cerdd 143; cyfrol 2, nodiadau tt. 512-20.

[golygu] Llyfryddiaeth

Erys y rhan fwyaf o gerddi Robin Clidro heb eu cyhoeddi.

  • D. Lloyd Jenkins (gol.), Cerddi Rhydd Cynnar (1931). Detholiad byr.
  • T. H. Parry-Williams (gol.), Canu Rhydd Cynnar (Caerdydd, 1932). Ceir pum cerdd gan Robin Clidro yn y gyfrol, yn yr orgraff wreiddiol.

[golygu] Dolenni allanol

Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill