Siôn Dafydd Las

Oddi ar Wicipedia
Siôn Dafydd Las
FfugenwSiôn Dafydd Las Edit this on Wikidata
Ganwyd17 g Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Bu farw1694 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Un o'r olaf un o'r beirdd proffesiynol yng Nghymru oedd Siôn Dafydd Las neu John Davies (bu farw 1694).

Bywyd a gwaith[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad, ganwyd y bardd ym mhlwyf Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd, rywbryd cyn canol yr 16g. Gwyddys y bu'n byw yn ardal Penllyn am gyfnod cyn mynd yn fardd i deulu plas Nannau. Am hynny fe'i gelwir weithiau y bardd teulu olaf yng Nghymru, ond mewn gwirionedd tenau iawn yw'r cysylltiad rhyngddo â'r beirdd hynny, a ganai i osgorddion brenhinol yn yr Oesoedd Canol.[1]

Ychydig iawn o'i waith sydd wedi goroesi. Cerddi ar y mesurau carolaidd poblogaidd yw'r unig enghreifftiau o'i waith sydd ar glawr. Ond roedd yn fardd proffesiynol, serch hynny, a fu un o'r rhai olaf i dderbyn nawdd am ei ganu gan deuluoedd uchelwrol. Ond am na chanodd ar y mesurau caeth, nid yw'n arfer ei gyfrif fel un o Feirdd yr Uchelwyr fel y cyfryw.[1]

Roedd ganddo enw am fod yn dipyn o feddwyn: feddwai ac edifarhai am ei feddwdod yn barhaus. Ceir y gerdd 'Dyrïau ar Edifeirwch Meddwyn' ganddo yn y gyfrol Carolau a Dyrïau Dwyfol (1720).[1]

Mae Ap Vychan yn sôn am Siôn Dafydd Las yn ei Hunangofiant ac yn dyfynnu rhai o'r englynion hyn[2]

Parodd y boen a'r gwaew oedd yn ei ben ar ol yfed i ormodedd yn Nghorsygedol, iddo dywedyd bore drannoeth—

"Pen brol, pen lledffol, pen llaith,—pen dadwrdd,
Pen dwedyd yn helaeth:
Pen croch alw, pen crych eilwaith,
Pen a swn fel pennau saith.

"Pen chwyrn, pen terfyn wyt ti,—pen brenlwnc,
Pen barilo meddwi:
Pen rhydd, di 'menydd i mi,
Pen ffwdan—pa' na pheidi?"

Mae lle i gredu mai ef yw awdur y gainc boblogaidd 'Pant Corlan yr Ŵyn'.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 hyd 1850 (Lerpwl, 1893).
  2. Thomas (Ap Vychan), Robert (1903). "Ardal Mebyd" . In Edwards, Owen Morgan (gol.). Gwaith ap Vychan. Llanuwchllyn: Ap Owen.