Dafydd Alaw
Dafydd Alaw | |
---|---|
Ganwyd | Ynys Môn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1550 |
Cysylltir gyda | Mysoglen |
Bardd o Ynys Môn oedd Dafydd Alaw (bl. 1546–1567).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Graddiodd Dafydd Alaw yn ail Eisteddfod Caerwys yn 1567 lle dyfarnwyd iddo'r radd Disgybl Ysbâs. Dyma'r unig ddyddiad pendant yn ei yrfa a chredir ei fod yn tynnu ymlaen at fod yn henwr erbyn hynny, sy'n awgrymu iddo gael ei eni tua throad yr 16g.
Cerddi
[golygu | golygu cod]Ychydig iawn o'i gerddi sydd ar glawr heddiw, ond roedd yn fardd adnabyddus yng ngogledd-orllewin Cymru yn ei gyfnod a cheir cyfeiriadau ato yng ngwaith eraill o'i gyd-feirdd. Cerddi i noddwyr uchelwrol ym Môn yw'r testunau sydd wedi goroesi a gellir tybio mae ar yr ynys honno y byddai'n clera - sef mynd o gwmpas tai noddwyr i ganu cerddi - fel rheol. Roedd y noddwyr hyn yn cynnwys teulu plasdy Myfyrian (ger Llanfairpwll) a Syr Rowland Felfil, Cwnstabl Biwmares, mab anghyfreithlon Harri Tudur a thaid i Gatrin o ferain.[1][2][3] Canodd hefyd i deulu plasdy Mysoglen yng nghyfnod Huw ap Rhys ap Hywel, a dyma englyn ganddo i simnai newydd fawr y plas:
- Simnai wen Fysgolen fawr sôn—amdani,
- Lle denir cerddorion;
- Eglurferch, fe'i gŵyl Arfon,
- Pen-rhaith simneiau maith Môn.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ John Ballinger, "Katheryn of Berain", Y Cymmrodon 40 (1929), gweler [1], adalwyd 22 Mehefin 2014.
- ↑ Peter Beauclerk-Dewar & Roger Powell, "King Henry VII (1457-1509): Roland de Velville (1474-1535)", yn Royal Bastards: Illegitimate Children of the British Royal Family (Stroud, 2008), e-lyfr, tud. 177-186.
- ↑ Alison Weir, Britain's Royal Families: The Complete Genealogy (Llundain, 1999), tud. 152.
- ↑ Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1600 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986), tud. 44.
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd