Neidio i'r cynnwys

Mysoglen

Oddi ar Wicipedia
Mysoglen
Mathplasty Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaDafydd Alaw, Robert ab Ifan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlangaffo Edit this on Wikidata
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.179597°N 4.322025°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Plasdy ym Môn oedd Mysoglen ('Maesoglan' ar fapiau heddiw) a fu'n un o brif ganolfannau nawdd Beirdd yr Uchelwyr ar yr ynys yn yr 16g.[1] Erbyn heddiw mae'n ffermdy a elwir Maesoglan, tua milltir i'r de o bentref Llangaffo a thair i'r dwyrain o Rosyr yn ne-orllewin yr ynys. Rhif yr OS SH 4505 6728.

Canodd Dafydd Alaw i deulu plasdy Mysoglen yng nghyfnod Huw ap Rhys ap Hywel, a dyma englyn ganddo i simnai newydd fawr y plas:

Simnai wen Fysoglen fawr sôn—amdani,
Lle denir cerddorion;
Eglurferch, fe'i gŵyl Arfon,
Pen-rhaith simneiau maith Môn.[2]

Roedd yn adnabyddus am yr ardd ffurfiol a grewyd yno hefyd. Yn ôl y bardd Robert ab Ifan (ail hanner yr 16g), roedd o siâp deimwnt ac yn llawn o berlysiau:

Gardd gwmpli heini hynod—yw ei gwedd,
A'i gwaith yn urddasglod;
Llysiau o fil, lles yw fod,
Yn gyswllt yn eu gosod.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1600 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986), tud. 22.
  2. Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1600, tud. 44.
  3. Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1600, tud. 26.