Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad Gweladwy Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Gwrthdröwyd |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Crëwyd yr etholaethau trwy [[Deddf Llywodraeth Cymru 1998|Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998]], gyda ffiniau'r etholaethau Seneddol (San Steffan), fel yr oeddent yn 1999. Defnyddiwyd y ffiniau newydd hefyd ar gyfer [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010|etholiad cyffredinol yr DU yn 2010]]. Felly, rhwng etholiad y Cynulliad yn 2007 ac etholiad cyffredinol y DU yn 2010, roedd gan etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau San Steffan ffiniau gwahanol. Datgysylltodd [[Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2010]], y ddwy set o etholaethau, sy'n golygu na fydd newidiadau i un set yn effeithio'r set arall bellach. Mae hyn wedi caniatáu cynigion gwahanol ar gyfer etholaethau yng Nghymru, gyda chynigion gwahanol ar gyfer cynnydd y nifer o seddi yn y Senedd a lleihau y nifer o etholaethau San Steffan yng Nghymru.<ref>{{Cite web|url=https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2011/1/enacted|title=Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011|website=deddfwriaethau.gov.uk|publisher=[[Senedd y DU]]}}</ref> |
Crëwyd yr etholaethau trwy [[Deddf Llywodraeth Cymru 1998|Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998]], gyda ffiniau'r etholaethau Seneddol (San Steffan), fel yr oeddent yn 1999. Defnyddiwyd y ffiniau newydd hefyd ar gyfer [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010|etholiad cyffredinol yr DU yn 2010]]. Felly, rhwng etholiad y Cynulliad yn 2007 ac etholiad cyffredinol y DU yn 2010, roedd gan etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau San Steffan ffiniau gwahanol. Datgysylltodd [[Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2010]], y ddwy set o etholaethau, sy'n golygu na fydd newidiadau i un set yn effeithio'r set arall bellach. Mae hyn wedi caniatáu cynigion gwahanol ar gyfer etholaethau yng Nghymru, gyda chynigion gwahanol ar gyfer cynnydd y nifer o seddi yn y Senedd a lleihau y nifer o etholaethau San Steffan yng Nghymru.<ref>{{Cite web|url=https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2011/1/enacted|title=Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011|website=deddfwriaethau.gov.uk|publisher=[[Senedd y DU]]}}</ref> |
||
Grwpir etholaethau'r Senedd i mewn i ranbarthau etholiadol sy'n cynnwys rhwng saith a naw etholaeth. Defnyddir system aelod ychwanegol i ethol pedwar Aelod ychwanegol o'r Senedd o bob rhanbarth, ar ben yr ASau a etholir gan yr etholaethau. Seiliwyd ffiniau'r rhanbarthau etholiadol ar [[Etholaethau |
Grwpir etholaethau'r Senedd i mewn i ranbarthau etholiadol sy'n cynnwys rhwng saith a naw etholaeth. Defnyddir system aelod ychwanegol i ethol pedwar Aelod ychwanegol o'r Senedd o bob rhanbarth, ar ben yr ASau a etholir gan yr etholaethau. Seiliwyd ffiniau'r rhanbarthau etholiadol ar yr [[Etholaethau seneddol Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig|etholaethau seneddol Ewropeaidd]] cyn 1999. Ym mhob [[etholiad cyffredinol]] o'r Senedd, mae gan pob etholydd ddwy bleidlais, un bleidlais etholaethol ac un bleidlais restr pleidiau ranbarthol. Mae pob etholaeth yn ethol un Aelod trwy'r system '[[cyntaf i'r felin]]', a llenwir seddi ychwanegol y Senedd o'r [[rhestrau pleidiau caeedig]], o dan ddull D'Hondt, gan ystyried canlyniadau'r etholaethau, i greu rhywfaint o [[Cynrychiolaeth gyfrannol|gynrychiolaeth gyfrannol]] ar gyfer pob rhanbarth. Ar y cyfan, etholir y chwe deg Aelod o'r Senedd o'r pedwar deg etholaeth a'r pum rhanbarth etholiadol, gan greu Senedd o bedwar deg AS etholaethol a dau ddeg AS ychwanegol. Cynrychiolir pob [[Etholaeth|etholwr]] gan un aelod etholaethol a phedwar aelod rhanbarthol. |
||
== Hanes == |
|||
=== Sefydlu === |
|||
Ar ôl y [[Refferendwm datganoli i Gymru, 1997|refferendwm ar ddatganoli i Gymru yn 1997]], sefydlwyd [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] a'i etholaethau a'i rhanbarthau etholiadol gan [[Deddf Llywodraeth Cymru 1998|Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998]]. Dywedodd adran 2 y ddeddf fod yr etholaethau ar gyfer y Cynulliad yn yr un etholaethau a ddefnyddir ar gyfer etholiadau i [[Senedd y Deyrnas Unedig]].<ref>{{Cite web|url=https://www.legislation.gov.uk/ukpga/1998/38/enacted|title=Deddf Llywodraeth Cymru 1998|website=deddfwriaeth.gov.uk|publisher=[[Llywodraeth y DU]]}}</ref> Creodd yr un ddeddf y pum rhanbarth a fyddai'n defnyddio'r un ffiniau a'r pump etholaeth seneddol Ewropeaidd yng Nghymru a nodwyd gan Orchymyn Etholaethau Seneddol Ewropeaidd (Cymru) 1994.<ref>{{Cite web|url=https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/1994/428/enacted|title=Gorchymyn Etholaethau Seneddol Ewropeaidd (Cymru) 1994|website=deddfwriaeth.gov.uk|publisher=[[Llywodraeth y DU]]}}</ref> Defnyddir yr un rhanbarthau etholiadol o hyd, er y dilëwyd y pump etholaethau seneddol Ewropeaidd a'u disodli gan [[Cymru (etholaeth Senedd Ewrop)|etholaeth Cymru-gyfan]], ac [[Brexit|ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd]]. Ond mae newidiadau bach i ffiniau'r rhanbarthau wedi digwydd oherwydd newidiadau i'r etholaethau. |
|||
=== Newid mewn ffiniau === |
|||
Yn 2006, gweithredwyd [[Deddf Llywodraeth Cymru 2006]]. Atgyfnerthodd y ddeddf y cysylltiad rhwng etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau seneddol, a bod yna bum rhanbarthau etholiadol. |
|||
Diffiniodd Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006 y ffiniau newydd ar gyfer yr etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol.<ref>{{Cite web|url=https://www.legislation.gov.uk/uksi/2006/1041/contents/made|title=Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006|website=deddfwriaeth.gov.uk}}</ref> |
|||
Dileodd y gorchymyn dair etholaeth ([[Caernarfon (etholaeth Cynulliad)|Caernarfon]], [[Conwy (etholaeth Cynulliad)|Conwy]], a [[Meirionnydd Nant Conwy (etholaeth Cynulliad)|Meirionydd Nant Conwy]]), a chrëwyd tair etholaeth newydd i'w disodli ([[Aberconwy (etholaeth Senedd Cymru)|Aberconwy]], [[Arfon (etholaeth Senedd Cymru)|Arfon]], a [[Dwyfor Meirionnydd (etholaeth Senedd Cymru)|Dwyfor Meirionydd]]). Cafodd naw etholaeth addasiadau "sylweddol" i'w ffiniau gan gynnwys y trosglwyddiad o fwy na 3,000 o drigolion rhwng yr etholaethau. Cafodd wyth etholaeth arall addasiadau i'w ffiniau gan arwain at y trosglwyddiad o lai na 3,000 o drigolion rhwng pob etholaeth, a chafodd pedair arall fân addasiadau a arweiniodd at drosglwyddiadau bach o drigolion rhwng etholaethau. Ni chafodd gweddill yr un deg chwech o etholaethau unrhyw addasiadau i'w henwau neu eu ffiniau. |
|||
Croesodd y tair etholaeth newydd y ffiniau rhwng y rhanbarthau etholiadol o [[Canolbarth a Gorllewin Cymru (Rhanbarth etholiadol Senedd Cymru)|Ganolbarth a Gorllewin Cymru]] a [[Gogledd Cymru (Rhanbarth etholiadol Senedd Cymru)|Gogledd Cymru]], gan arwain at addasiadau i ffiniau'r ddau ranbarth etholiadol, yn ogystal â mân addasiadau i'r etholaeth o [[Maldwyn (etholaeth Senedd Cymru)|Faldwyn]] a arweiniodd at fân addasiadau i ffiniau rhanbarthol hefyd. Yn [[De Cymru|Ne Cymru]], |
|||
==Etholaethau a rhanbarthau (2007-presennol)== |
==Etholaethau a rhanbarthau (2007-presennol)== |
Fersiwn yn ôl 19:07, 31 Hydref 2023
Etholaethau a rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru | |
---|---|
Map o'r 40 etholaeth gyfredol (ochr chwith) a'r 5 rhanbarth etholiadol cyfredol (ochr dde) o Senedd Cymru | |
Categori | Etholaeth |
Lleoliad | Cymru |
Crëwyd gan | Deddf Llywodraeth Cymru 1998 |
Crëwyd | 12 Mai 1999 |
Nifer | 40 etholaeth 5 rhanbarth (ar ôl 2021) |
Llywodraeth | Senedd |
Llywodraeth Cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Defnyddir etholaethau a rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru i ethol Aelodau o'r Senedd (AS), a'u defnyddir mewn rhyw ffurf ers etholiad cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru erbyn hyn) yn 1999. Cyflwynwyd ffiniau newydd ar gyfer yr etholiad yn 2007 ac ar hyn o bryd cynhwysant bedwar deg etholaeth a phum rhanbarth. Y pum rhanbarth etholiadol yw: Canol De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Dwyrain De Cymru, Gogledd Cymru, a Gorllewin De Cymru, gyda'r pedwar deg etholaeth a restrir isod.[1] Digwyddodd yr etholiad diwethaf yn 2021.
Crëwyd yr etholaethau trwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, gyda ffiniau'r etholaethau Seneddol (San Steffan), fel yr oeddent yn 1999. Defnyddiwyd y ffiniau newydd hefyd ar gyfer etholiad cyffredinol yr DU yn 2010. Felly, rhwng etholiad y Cynulliad yn 2007 ac etholiad cyffredinol y DU yn 2010, roedd gan etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau San Steffan ffiniau gwahanol. Datgysylltodd Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2010, y ddwy set o etholaethau, sy'n golygu na fydd newidiadau i un set yn effeithio'r set arall bellach. Mae hyn wedi caniatáu cynigion gwahanol ar gyfer etholaethau yng Nghymru, gyda chynigion gwahanol ar gyfer cynnydd y nifer o seddi yn y Senedd a lleihau y nifer o etholaethau San Steffan yng Nghymru.[2]
Grwpir etholaethau'r Senedd i mewn i ranbarthau etholiadol sy'n cynnwys rhwng saith a naw etholaeth. Defnyddir system aelod ychwanegol i ethol pedwar Aelod ychwanegol o'r Senedd o bob rhanbarth, ar ben yr ASau a etholir gan yr etholaethau. Seiliwyd ffiniau'r rhanbarthau etholiadol ar yr etholaethau seneddol Ewropeaidd cyn 1999. Ym mhob etholiad cyffredinol o'r Senedd, mae gan pob etholydd ddwy bleidlais, un bleidlais etholaethol ac un bleidlais restr pleidiau ranbarthol. Mae pob etholaeth yn ethol un Aelod trwy'r system 'cyntaf i'r felin', a llenwir seddi ychwanegol y Senedd o'r rhestrau pleidiau caeedig, o dan ddull D'Hondt, gan ystyried canlyniadau'r etholaethau, i greu rhywfaint o gynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer pob rhanbarth. Ar y cyfan, etholir y chwe deg Aelod o'r Senedd o'r pedwar deg etholaeth a'r pum rhanbarth etholiadol, gan greu Senedd o bedwar deg AS etholaethol a dau ddeg AS ychwanegol. Cynrychiolir pob etholwr gan un aelod etholaethol a phedwar aelod rhanbarthol.
Hanes
Sefydlu
Ar ôl y refferendwm ar ddatganoli i Gymru yn 1997, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i etholaethau a'i rhanbarthau etholiadol gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Dywedodd adran 2 y ddeddf fod yr etholaethau ar gyfer y Cynulliad yn yr un etholaethau a ddefnyddir ar gyfer etholiadau i Senedd y Deyrnas Unedig.[3] Creodd yr un ddeddf y pum rhanbarth a fyddai'n defnyddio'r un ffiniau a'r pump etholaeth seneddol Ewropeaidd yng Nghymru a nodwyd gan Orchymyn Etholaethau Seneddol Ewropeaidd (Cymru) 1994.[4] Defnyddir yr un rhanbarthau etholiadol o hyd, er y dilëwyd y pump etholaethau seneddol Ewropeaidd a'u disodli gan etholaeth Cymru-gyfan, ac ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Ond mae newidiadau bach i ffiniau'r rhanbarthau wedi digwydd oherwydd newidiadau i'r etholaethau.
Newid mewn ffiniau
Yn 2006, gweithredwyd Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Atgyfnerthodd y ddeddf y cysylltiad rhwng etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau seneddol, a bod yna bum rhanbarthau etholiadol.
Diffiniodd Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006 y ffiniau newydd ar gyfer yr etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol.[5]
Dileodd y gorchymyn dair etholaeth (Caernarfon, Conwy, a Meirionydd Nant Conwy), a chrëwyd tair etholaeth newydd i'w disodli (Aberconwy, Arfon, a Dwyfor Meirionydd). Cafodd naw etholaeth addasiadau "sylweddol" i'w ffiniau gan gynnwys y trosglwyddiad o fwy na 3,000 o drigolion rhwng yr etholaethau. Cafodd wyth etholaeth arall addasiadau i'w ffiniau gan arwain at y trosglwyddiad o lai na 3,000 o drigolion rhwng pob etholaeth, a chafodd pedair arall fân addasiadau a arweiniodd at drosglwyddiadau bach o drigolion rhwng etholaethau. Ni chafodd gweddill yr un deg chwech o etholaethau unrhyw addasiadau i'w henwau neu eu ffiniau.
Croesodd y tair etholaeth newydd y ffiniau rhwng y rhanbarthau etholiadol o Ganolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru, gan arwain at addasiadau i ffiniau'r ddau ranbarth etholiadol, yn ogystal â mân addasiadau i'r etholaeth o Faldwyn a arweiniodd at fân addasiadau i ffiniau rhanbarthol hefyd. Yn Ne Cymru,
Etholaethau a rhanbarthau (2007-presennol)
Etholaethau
Rhanbarthau Etholiadol
Rhanbarth | Etholaethau | ASau rhanbarthol cyfredol | Map |
---|---|---|---|
Canol De Cymru
(Etholwyr 2021: 521,078)[6] |
1. Bro Morgannwg
3. Cwm Cynon 7. Pontypridd 8. Rhondda |
||
Canolbarth a Gorllewin Cymru
(Etholwyr 2021: 446,177)[6] |
1. Brycheiniog a Sir Faesyfed
2. Ceredigion 4. Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr 5. Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro 6. Llanelli 7. Maldwyn |
||
Dwyrain De Cymru
(Etholwyr 2021: 487,870)[6] |
1. Blaenau Gwent
2. Caerffili 5. Islwyn 7. Mynwy 8. Torfaen |
||
Gogledd Cymru
(Etholwyr 2021: 479,984)[6] |
1. Aberconwy
3. Arfon 4. De Clwyd 5. Delyn 8. Wrecsam 9. Ynys Môn |
||
Gorllewin De Cymru
(Etholwyr 2021: 413,467)[6] |
1. Aberafan
2. Castell-nedd 5. Gŵyr 6. Ogwr |
Cyn etholaethau a chyn ranbarthau
1999-2007
Rhanbarth | Etholaethau | Map |
---|---|---|
Canol De Cymru | 1. Bro Morgannwg
3. Cwm Cynon 7. Pontypridd 8. Rhondda |
|
Canolbarth a Gorllewin Cymru | 1. Brycheiniog a Sir Faesyfed
2. Ceredigion 3. Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr 4. Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro 5. Llanelli 7. Maldwyn |
|
Dwyrain De Cymru | 1. Blaenau Gwent
2. Caerffili 5. Islwyn 7. Mynwy 8. Torfaen |
|
Gogledd Cymru | 1. Alun a Glannau Dyfrdwy
2. Caernarfon 3. Conwy 4. De Clwyd 5. Delyn 8. Wrecsam 9. Ynys Môn |
|
Gorllewin De Cymru | 1. Aberafan
2. Castell-nedd 5. Gŵyr 6. Ogwr |
Cyfeiriadau
- ↑ "Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006". deddfwriaeth.gov.uk. Senedd y DU.
- ↑ "Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011". deddfwriaethau.gov.uk. Senedd y DU.
- ↑ "Deddf Llywodraeth Cymru 1998". deddfwriaeth.gov.uk. Llywodraeth y DU.
- ↑ "Gorchymyn Etholaethau Seneddol Ewropeaidd (Cymru) 1994". deddfwriaeth.gov.uk. Llywodraeth y DU.
- ↑ "Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006". deddfwriaeth.gov.uk.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 "Rhestr etholwyr: Etholwyr yn ôl etholaethau Senedd Cymru a blwyddyn". StatsCymru. Cyrchwyd 28 Awst 2023.