Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Hanes y 20fed ganrif

Oddi ar Wicipedia
WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Hanes y 20fed ganrif


Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Datblygu Rhyfela
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Profodd yr 20fed ganrif newidiadau pell-gyrhaeddol a thrawsnewidiol yn hanes y byd. Cafwyd nifer o ddigwyddiadau pwysig a newidiodd y byd am byth gan gynnwys y Rhyfel Byd

Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, twf pŵer niwclear, archwiliadau i’r gofod, twf cenedlaetholdeb a gwledydd yn dod yn annibynnol o drefedigaethau, y Rhyfel Oer, datblygiadau mewn trafnidiaeth a thechnoleg cyfathrebu, twf ynfawr yn y boblogaeth ledled y byd, ymwybyddiaeth o ddirywiad yn yr amgylchedd ac ecoleg y byd, a’r Chwyldro Digidol.  Roedd yn gyfnod ble weler cynnydd a datblygiad yn digwydd ar raddfa gyflym yn enwedig ym meysydd technoleg feddygol, darganfyddiadau geneteg yn trawsnewid hanes dynoliaeth a’r defnydd o gyfrifiaduron yn gweddnewid bywyd ar draws y byd.

Rhyfeloedd a Gwleidyddiaeth[golygu cod]

Bu farw miliynau o bobl yn ystod y ganrif ar raddfa na welwyd erioed mo’i debyg. Achoswyd y marwolaethau yma gan ryfeloedd, hil-laddiad, cyfundrefnau gwleidyddol, milwrol ac unbennaethol a llofruddiaethau ar raddfa eang.  Amcangyfrifir bod rhwng 50 ac 80 miliwn wedi marw oherwydd sgil effeithiau y ddau ryfel byd yn unig. Amcangyfrifir bod 70 miliwn o Ewropeaid wedi marw oherwydd rhyfel, trais a newyn rhwng 1914 a 1945.

Gwelodd yr 20fed ganrif dau ryfel diarbed byd-eang rhwng archbwerau’r byd. Gwasgarwyd meysydd ymladd y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd ar draws cyfandiroedd a moroedd ledled y byd. Roedd yn ganrif a welodd dwf cenedlaetholdeb mewn gwahanol wledydd, gyda gwledydd yn hawlio hunan-lywodraeth, a phan gafodd ymerodraethau eu chwalu. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd yr ymerodraethau Otomanaidd ac Awstria-Hwngari eu diddymu, dymchwelwyd Tsar Nicholas II gan y Chwyldro Rwsiaidd yn 1917 a cafodd y wladwriaeth Gomiwnyddol gyntaf ei sefydlu yn Rwsia.

Cafodd Drylliau awtomatig i ddefnyddio ar rhaddfa mawr am y tryo cyntaf yn y Rhyfel Byd Cyntaf a arweiniodd at nifer fawr o anafusion

Dynododd y Rhyfel Byd Cyntaf drobwynt yn dulliau rhyfela. Achosodd datblygiadau technolegol newidiadau mawr yn y ffordd roedd rhyfel yn cael ei ymladd a sut roedd e’n effeithio ar sifiliaid. Defnyddiwyd dyfeisiadau newydd fel y tanc, arfau cemegol fel clorin a nwy mwstard, llongau tanfor a chyflwynwyd awyrennau mewn rhyfela yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif.  Achosodd rhain newidiadau yn nhactegau ymladd rhyfel modern. Gwnaeth y defnydd o arfau niwclear yn Hiroshima a Nagasaki yn Awst 1945 gychwyn cyfnod newid o ryfela modern.

Bu rhyfeloedd cartref mewn llawer o wledydd.  Bu rhyfel cartref treisgar yn Sbaen yn 1936 pan arweiniodd y Cadfridog Franco wrthryfel yn erbyn Ail Weriniaeth Sbaen, sef y llywodraeth ddemocrataidd a fu’n rheoli’r wlad rhwng 1931 a 1939. Gwelwyd y gwrthryfel fel arwydd o’r tensiynau cynyddol oedd yn Ewrop cyn cychwyn yr Ail Ryfel Byd. Bu Dirwasgiad Mawr y 1930au yn ffactor pwysig a arweiniodd at dwf ym mhoblogrwydd Ffasgaeth a Natsïaeth yn Ewrop.

Effeithiodd yr Ail Ryfel Byd (1939-1945) ar Ddwyrain Asia a’r Cefnfor tawel oherwydd ymosodiad Siapan yn erbyn Tseina a’r Unol Daleithiau. Cafodd sifiliaid eu heffeithio llawer mwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd bomio o’r awyr ar ardaloedd poblog fel dinasoedd a threfi gan y ddwy ochr, er enghraifft, Brwydr Prydain a’r Blitz gan yr Almaen yn erbyn Prydain a’r tacteg bomio carped a ddefnyddiwyd gan Brydain ar ddinasoedd fel Dresden, Cologne a Berlin yn yr Almaen; a hil-laddiad yr Iddewon gan yr Almaen, sef yr Holocost.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, gwelwyd sefydlu Comiwnyddiaeth fel cyfundrefn wleidyddol mewn llawer o wledydd ar draws y byd.  Gyda’r Chwyldro Comiwnyddol yn Rwsia yn 1917 llofruddiwyd teulu brenhinol y Romanovs gan y Bolsieficiaid a chrëwyd llywodraeth Gomiwnyddol newydd o dan arweinyddiaeth Vladimir Lenin.  Roedd 300 mlynedd o deyrnasiad brenhinol wedi dod i ben ac yn ei le crëwyd gwladwriaeth Gomiwnyddol gyntaf y byd.  Ar ôl rôl yr Undeb Sofietaidd yn yr Ail Ryfel Byd, daeth comiwnyddiaeth yn bŵer pwysig mewn gwleidyddiaeth byd-eang.  Sefydlwyd llywodraethau comiwnyddol, er enghraifft yn Nwyrain Ewrop (er enghraifft, Hwngari, Dwyrain yr Almaen, Rwmania), Tseina, Indo-Tsieina, a Chiwba.  Roedd gan Gomiwnyddiaeth bron bŵer absoliwt yn llawer o’r gwledydd a’r ardaloedd hyn.

Gollwng y ddau fom atomig ar Siapan

Trechwyd yr Almaen yn 1945 wedi iddi gael ei goresgyn gan yr Undeb Sofietaidd a Phwyl o’r dwyrain a’r Unol Daleithiau, Prydain, Canada a Ffrainc o’r gorllewin.  Wedi

buddugoliaeth y Cynghreiriaid yn Ewrop daeth y rhyfel yn Asia yn erbyn Siapan i ben gyda gollwng y ddau fom atomig gan yr Unol Daleithiau ar Hiroshima a Nagasaki. Ar ôl y rhyfel rhannwyd yr Almaen rhwng y Pwerau Gorllewinol a’r Undeb Sofietaidd.

O hynny ymlaen daeth Dwyrain yr Almaen a gweddill gwledydd dwyrain Ewrop yn lywodraethau Comiwnyddol.  Yng Ngorllewin yr Almaen sefydlwyd llywodraeth ddemocrataidd debyg i’r gwledydd gorllewinol.  Ail-adeiladwyd gorllewin Ewrop gyda chymorth ariannol oddiwrth Cynllun Marshall America ac felly daeth America yn gyfaill agos i’r gorllewin.


Sifiliad benywaidd o Fietnam, tua 1967. Gan y ffotograffiwr Cymraeg Phillip Jones Griffiths

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd trodd y cyd-weithio rhwng yr Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd yn berthynas fwy gelyniaethus a drwgdybus. Hwn oedd y Rhyfel Oer.  Roedd yn ffactor yn achosi’r rhyfeloedd yn Corea (1950-53) a Fietnam (1957-1975).

Cynrychiolai’r ddau archbwer syniadau gwleidyddol gwahanol rhwng cyfalafiaeth a democratiaeth a cafodd Ewrop ei rhannu gan y Llen Haearn. Rhannwyd Berlin gan Mur Berlin oedd yn gwahanu’r rhanbarth gorllewinol, democrataidd oddiwrth y rhanbarth dwyreiniol, comiwnyddol.  Ffurfiodd y ddwy ochr gynghreiriau milwrol, sef NATO a Chytundeb Warsaw; datblygodd ras arfau gyda phwyslais ar ddatblygiad arfau niwclear a bu cystadleuaeth rhwng y ddau archbwer am y ras i’r gofod.  

Dymchwelwyd Wal Berlin adeg Chwyldroadau 1989 yn Ewrop gan greu Almaen unedig yn 1990 a chwalodd yr Undeb Sofietaidd yn 1991. Roedd 1989 yn flwyddyn a welodd ddychwel llywodraethau comiwnyddol ar draws y byd. Chwalwyd llawer o’r llywodraethau comiwnyddol roedd yr Undeb Sofietaidd wedi eu cefnogi ar draws y byd heblaw am Tsiena, Gogledd Corea, Ciwba, Fietnam a Laos. Roedd Protestiadau Sgwâr Tiananmen yn 1989 yn brotestiadau treisgar ble lladdwyd cannoedd o brotestwyr yn Sgwâr Tiananmen, Beijing, Tseina mewn ymdrech i ddymchwel y llywodraeth gomiwnyddol. [1]

Methodd y Rhyfel Byd Cyntaf neu’r ‘rhyfel i orffen pob rhyfel’ sicrhau heddwch. Disgrifiwyd yr Ail Ryfel Byd fel busnes anorffenedig y Rhyfel Byd Cyntaf.  Yn dilyn y ddau ryfel byd ffurfiwyd Cynghrair y Cenhedloedd ac yna y Cenhedloedd Unedig. Sefydlwyd Cynghrair y Cenhedloedd yn 1919 ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna disodlwyd ef gan y Cenhedloedd Unedig yn 1945 ar ôl yr Ail Ryfel Byd.[2] Roedd hwn yn fforwm rhyngwladol ble fedrai gwledydd y byd drafod materion a oedd yn peryglu heddwch byd-eang; trafod materion diplomyddol, trafod canllawiau ynghylch rheolau rhyfel, sut i amddiffyn yr amgylchedd, sofraniaeth gwledydd a hawliau dynol.  Roedd lluoedd cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig (oedd yn cynnwys milwyr gan wahanol aelodau’r Cenhedloedd Unedig) ac asiantaethau eraill y Cenhedloedd Unedig yn rhoi cymorth mewn gwahanol ardaloedd argyfyngus ar draws y byd.  Roeddent yn helpu lleihau newyn, afiechydon a thlodi. Methodd sefydliadau fel Cynghrair y Cenhedloedd a’i olynydd y Cenhedloedd Unedig ag atal rhyfeloedd. Ers 1945, fodd bynnag, does dim rhyfel wedi bod rhwng y pwerau mawr gan fod Cyd–ddinistr Sicr (MAD: Mutually Assured Destruction) wedi llwyddo i atal rhyfel.  Yn y cyfnod ar ôl 1945 mae 9 rhyfel o bob 10 wedi digwydd mewn gwledydd gwan, ansefydlog y Trydydd Byd.[3]

Arweiniodd mwy o gyd-weithrediad rhwng y gwledydd at ddatblygiad yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y 1950au. Roedd hwn yn grŵp o wledydd yn Ewrop a oedd yn cyd-weithio yn wleidyddol, yn economaidd ac yn fasnachol.

Mahatma-Gandhi

Roedd dulliau heddychlon Gandhi a’r mudiad i sicrhau annibyniaeth i India oddi wrth Ymerodraeth Prydain yn ddylanwad mawr ar ddulliau protestio mudiadau gwleidyddol eraill ar draws y byd, er enghraifft, y Mudiad Hawliau Sifil yn America a’r mudiadau rhyddid yn ne Affrica a Burma. Bu mudiadau cenedlaetholgar yn bwysig yn yr ymgyrch i sicrhau annibyniaeth i India a Phakistan yn 1947.  Yn y Dwyrain Canol yn 1948 crëwyd gwladwriaeth Iddewig newydd, Israel.  Roedd chwalfa llawer o ymerodraethau wedi arwain at annibyniaeth i lawer o wledydd yn Affrica ac Asia.

Yn ystod y 1950au a’r 1960au heriodd y Mudiad Hawliau Sifil yn America dan arweiniad Martin Luther King a’r mudiad yn erbyn apartheid yn ne Affrica o dan arweiniad Nelson Mandela yr arwahanu hiliol a oedd yn digwydd yn y gwledydd hynny. Bu’n ymgyrch a barhaodd hyd weddill y ganrif yn y ddwy wlad.  Un o’r cerrig milltir pwysig ym mrwydr de Affrica oedd etholiad Nelson Mandela fel Arlywydd du cyntaf De Affrica rhwng 1994-1999.  Etholwyd ef yn yr etholiad democrataidd llawn cyntaf yn hanes de Affrica.

Bu farw degau o filiynau o daeogion Tsieiniaidd rhwng 1959 a 1962 oherwydd Newyn Mawr Tsieina.  Credir mai hwn oedd y newyn fwyaf yn hanes dynoliaeth.

Achosodd y Rhyfel Sofietaidd yn Affganistan, rhwng 1979-1989, dros filiwn o farwolaethau ac yn un o’r rhesymau pam chwalodd yr Undeb Sofietaidd.

Cerddoriaeth[golygu cod]

The Beatles oedd un o'r bandiau mawr yr 20fed genrif

Daeth cerddoriaeth blues a jazz yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 1910au a’r 1920au.

Yn y 1950au daeth Roc a Rôl yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau, a Jerry Lee Lewis ac Elvis Presley yn dod yn rhai o eiconau’r cyfnod. Yn ystod y 1960au daeth The Beatles yn fyd enwog am eu caneuon poblogaidd wedi eu dylanwadu gan roc a rôl.[4]

O ganol yr 20fed ganrif ymlaen daeth ‘roc a rôl’, cerddoriaeth gwerinol/roc, metal trwm a pync roc yn rhan o gerddoriaeth boblogaidd. Yn y 1980au a’r 1990au daeth hip hop yn boblogaidd.  Ar yr un adeg datblygwyd cerddoriaeth house, techno, reggae a soul. Dechreuwyd ddefnyddio syntheseisyddion mewn cerddoriaeth gan drosi drosto i gerddoriaeth boblogaidd yn y 1980au ar ffurf cerddoriaeth ‘new wave’.  Cafodd offerynnau electronig ddylanwad ar bob math o gerddoriaeth boblogaidd ac arwain at ddyfeisio genres (mathau) newydd o gerddoriaeth, fel house, synthpop, cerddoriaeth dawns electronig a cherddoriaeth diwydiannol.[5]

Ffilm, theatr a theledu[golygu cod]

Poster ar gyfer 'The Jazz Singer' 1927

Cafodd ffilm ei greu fel cyfrwng artistig yn ystod yr 20fed ganrif. Agorwyd y sinema cyntaf yn Pittsburgh yn 1905.

Datblygodd Hollywood, Los Angeles, America i fod yn ganolfan ar gyfer y diwydiant ffilmiau. Tra fod y ffilmiau cyntaf wedi bod mewn du a gwyn erbyn y 1920au datblygwyd ‘Technicolor’ i greu ffilmiau lliw.  Rhyddhawyd y ffilm hir cyntaf gyda sain, sef The Jazz Singer, yn 1927. Sefydlwyd Gwobrau Academi yr Oscars yn 1929.

Datblygwyd animeiddio yn ystod y 1920au. Snow White and the Seven Dwarfs oedd y ffilm hir cyntaf a gafodd ei animeiddio. Rhyddhawyd y ffilm yn 1937. Datblygwyd CGI yn ystod y 1980au.  Y ffilm hir cyntaf CGI gyda animeiddio oedd Toy Story a ryddhawyd yn 1995.

Yn y theatr, daeth Broadway yn Efrog Newydd yn ganolfan bwysig byd-eang ar gyfer awduron drama ac ar gyfer theatr cerddorol.  Cafodd gwaith awduron fel Arthur Miller a Tennessee Williams ei berfformio ar Broadway ac roedd cyfansoddwyr fel Rodgers and Hammerstein, Lerner and Loewe ac Irving Berlin yn ddylanwadau pwysig ar y diwydiant a’r diwylliant ffilm.[6]

Gemau Fideo[golygu cod]

Gyda datblygiadau technolegol mewn cyfrifiaduron ers yr Ail Ryfel Byd crëwyd math newydd o adloniant yn yr 20fed ganrif – sef y gêm fideo. Tra fod y syniad o gemau fideo wedi cael eu llunio yn ystod y 1940au-50au ni wnaeth gemau fideo ddatblygu fel diwydiant a busnes hyd nes y 1970au.   Roedd hwn yn ffenomenon cymdeithasol a diwylliannol ac yn gychwyn ar oes aur gemau fideo arcêd – dyma’r cyfnod pan rhyddhawyd Space Invaders gan Taito, Asteroids gan Atari a Pac-Man, gan Namco.

Cafodd cwmni Nintendo lwyddiant ysgubol yng ngwerthiant gêm Super Mario Bros ar draws y byd. Yn ystod y 1990au rhyddhawyd pecyn gêm fideo PlayStation gan Sony gyda gwerthiant yn cyrraedd 100 miliwn. Roedd gemau fideo mor boblogaidd fel bod y diwydiant wedi creu swyddi newydd, er enghraifft, cynllunwyr gemau fideo.

Celf a Phensaerniaeth[golygu cod]

Roedd datblygiadau mawr yn y byd celf yn ystod y 20fed Ganrif. Juan Gris, Bywyd llonydd gyda Bowlen o Ffrwythau a Mandolin, 1919.

Datblygodd ffurfiau a steiliau newydd o gelfyddyd fel Mynegiadaeth (Saesneg:Expressionism), Dada (Saesneg:Dadaism), Ciwbiaeth (Saesneg:Cubism), Swrealaeth, (Seasneg:Surrealism), Celf bop (Saesneg:Pop Art) a chelf cysyniadaol (Saesneg:Conceptual art).  Roedd y syniadau newydd hyn yn bwysig yn natblygiad Moderniaeth.

Yn Ewrop, datblygodd pensaernïaeth fodern mewn ffurf wahanol iawn i steiliau addurniadol oes Fictoria.  Roedd datblygiadau mewn defnyddiau adeiladu a thechnoleg yn golygu bod ffurfiau newydd o bensaerniaeth mwy syth ac onglog yn bosib.[7]

Mathemateg[golygu cod]

Datblygwyd meysydd newydd o fathemateg yn yr 20fed ganrif.  Yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif lluniwyd theori mesur, dadansoddiad swyddogaethol (Saesneg:functional analysis), a thopoleg (Saesneg:topology).  Bu datblygiadau pwysig hefyd mewn meysydd fel algebra haniaethol, a syniadau tebygolrwydd (Saesneg:probability).

Yn nes ymlaen yn y ganrif, gwnaeth datblygiad cyfrifiaduron arwain at greu theori cyfrifiadurol. Dyma’r ganrif pan wnaeth Alan Turing ddod i’r amlwg fel un o benseiri gwyddoniaeth cyfrifiadurol.

Chwaraeon[golygu cod]

Yr ugeinfed ganrif a welodd chwaraeon yn cael ei boblogeiddio fel gweithgaredd hamdden a  hefyd fel math o adloniant, yn enwedig ar y teledu.  Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd modern cyntaf yn 1896 a daeth yn un o ddigwyddiadau chwraeon pwysicaf y roes fodern.  Cynhaliwyd Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf yn 1930 a gynhaliwyd bob 4 mlynedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd.  Dyma’r ganrif a welodd Cwpan Rygbi'r Byd yn cael ei gychwyn a llu eraill o chwaraeon byd-eang yn cael eu darlledu.[8]

Ffiseg[golygu cod]

Yn ystod hanner cyntaf y ganrif datblygwyd meysydd newydd o ffiseg, fel perthynoledd arbennig, perthynoledd cyffredinol a mecaneg cwantwm.  Drwy astudio’r meysydd yma mewn ffiseg cafwyd gwell dealltwriaeth o strwythur yr atom.  Roedd y ffisegwr Albert Einstein yn hollbwysig yn profi bod hi’n bosib rhannu atom.

Darganfyddwyd adweithiau niwclear, ac yn arbennig ymasiad niwclear.  Roedd y ddeubeth hyn yn allweddol i ddeall gwreiddiau egni heulol.

Darganfyddwyd dyddio radiocarbon a ddaeth yn dechneg pwerus a chywir wrth benderfynu oedran anifeiliaid a phlanhigion cynhanesyddol, ac arteffactau ac eitemau hanesyddol.


Seryddiaeth[golygu cod]

Cysawd yr Haul

Datblygwyd dealltwriaeth well o sut oedd y bydysawd wedi datblygu a beth oedd ei oedran. Amcangyfrifwyd ei fod tua 13.8 biliwn o flynyddoedd.  Cyflwynwyd Damcaniaeth y Glec

Fawr a oedd yn cynnig syniadau ynghylch sut oedd y byd wedi dod i fodolaeth. Cafodd y syniad hyn ei dderbyn yn gyffredinol.[9]

Daeth seryddwyr i gasgliadau mwy pendant ynghylch oedran Cysawd yr Haul, gan gynnwys y Ddaear. Roedd y ddaear llawer hynach na beth a gredwyd yn gynt – roedd tua 4 biliwn o flynyddoedd yn hytrach na’r 20 miliwn o flynyddoedd a grybwyllwyd gan seryddwyr blaenorol.

Dechreuwyd arsylwi planedau Cysawd yr Haul a’r lleuadau yn lawer fwy manwl drwy ddefnyddio chwyliedyddion gofod.  Darganfyddwyd y blaned Plwton yn 1930 ar gyrion Cysawd yr Haul er hynny, cafodd ei ail-gategoreiddio ar gychwyn yr 21ain ganrif fel ‘plutoid’ yn hytrach na phlaned go iawn.  Golygai hyn mai dim ond 8 planed oedd yn Cysawd yr Haul.

Bioleg[golygu cod]

Gwnaed camau cynnydd pwysig ym maes geneteg a’u pwysigrwydd gwyddonol.  Yn 1953 cyhoeddodd James Watson, Francis Crick, Rosalind Franklin a Maurice Wilkins eu darganfyddiad yn 1953 bod gan DNA strwythur pendant. Bu hyn yn gymorth mawr wrth ddatblygu technegau fyddai’n medru darllen dilyniant DNA (DNA sequences) ac a arweiniodd at Brosiect Genom Dynol (Saesneg:Human Genome Project) fel bod y mamal cyntaf yn medru cael ei glonio yn 1996.

Meddygaeth[golygu cod]

Plentyn yn dioddef o'r frech wen

Darganfyddwyd penisilin gan Alexander Fleming yn 1928.  Roedd darganfyddiad Gwrthfiotig tebyg i hyn yn gweddnewid byd meddygaeth modern. Byddai Gwrthfiotig yn arf pwysig wrth leihau marwolaethau oherwydd afiechydon bacterol.

Datblygwyd brechiad ar gyfer Poliomyelitis. Datblygwyd brechiadau effeithiol ar gyfer nifer o afiechydon heintus eraill, gan gynnwys, y ffliw, Melyn mannog, y pâs, tetanws, y frech goch, clwy’r pennau (mumps), Brech ieir, hepatitis A a hepatitis B.  Arweiniodd mwy o ymchwil ym maes brechiadau at ddileu feirws y frech wen yn gyfangwbl mewn pobl.  Mae brechiadau, gwell safonau glendid a chyflenwadau dŵr glan wedi lleihau achosion marwolaethau, yn enwedig ymhlith babanod a phlant.

Sefydlwyd y clinig atal genhedlu cyntaf ym Mhrydain gan Marie Stopes yn 1920.  Bu datblygiadau ym maes dulliau atal cenhedlu yn hollbwysig yn lleihau twf ym mhoblogaeth gwledydd diwydiannol y byd.

pelydr-x y pen-glin dynol

Bu darganfyddiad inswilin meddygol yn ystod y 1920au yn bwysig yng ngwella disgwyliadau oedran cleifion diabetic cymaint â thair gwaith.

Daeth pelydr-X yn rhan bwysig o’r broses diagnosis wrth drin cleifion – o dorri asgwrn i canser. O’r 1960au ymlaen datblygwyd offer diagnostic eraill, er enghraifft, sonography ac o’r 1970au ymlaen defnyddiwyd MRI (magnetic resonance imaging).

Yn ystod y 1950au profodd ymchwil bod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng ysmygu tybaco a chanser. Datblygwyd dulliau newydd o drin canser, er enghraifft, cemotherapi, therapi ymbelydrol ac imiwnotherapi. O ganlyniad medrai canser gael ei wella’n llwyr neu cael ei wella am ysbaid.

Dechreuwyd categoreiddio gwaed a sefydlwyd banciau gwaed. Golygai hyn bod trawsarllwysiad gwaed yn fwy diogel ac yn dod yn fwy cyffredin.  Cynhaliwyd y trawsblaniad calon cyntaf a ble roedd y claf wedi llwyddo i ddod nôl yn ymwybodol yn 1967 gan Dr. Christiaan Barnard. Bu dyfeisiadau a datblygiadau mewn meddygyniaethau gwrthimiwnaidd a sut roedd meinwe yn cael ei gategoreiddio yn golygu bod trawsblaniadau organau a meinwe yn dod yn fwy cyffredin. Datblygwyd triniaethau newydd ar gyfer llawdriniaethau ar y galon – er enghraifft, datblygu amseriaduron calon a chalonnau artiffisial.

Afiechydon[golygu cod]

Lladdwyd rhwng 20-100 miliwn o bobl rhwng 1918-1919 gan bandemig ffliw y Ffliw Sbaenaidd.

Darganfyddwyd feirws newydd, sef HIV, a gychwynnodd yn Affrica.  Roedd y feirws HIV yn arwain at gyflwr AIDS a lledaenodd y feirws ar draws y byd gan ladd miliynau o bobl.  Datblygwyd brechiadau a meddyginaethau i drin y cyflwr.

Gan bod cyfraddau oedran wedi cynyddu mae afiechydon fel canser, Clefyd Alzheimer a Chlefyd Parkinson wedi dod yn fwy cyffredin.

Egni a'r amgylchedd[golygu cod]

Gwaith dur yn yr Iseldiroedd

Yn ystod yr 20fed ganrif defnyddiwyd mwy o adnoddau ffosil fel glo, olew a phetrol.  Gwnaed mwy o ddefnydd o bŵer niwclear hefyd.

Achosodd y defnydd cynyddol o danwydd ffosil drafodaeth fyd-eang amdano’i effaith ar lygredd awyr, cynhesu byd eang a’r newid oedd yn digwydd yn nhymheredd yr hinsawdd.

Roedd plaladdwyr, chwynladdwyr a chemegon gwenwynig eraill yn crynhoi yn yr amgylchedd, cyrff pobl ac anifeiliaid.

Peirianneg a thechnoleg[golygu cod]

Un o nodweddion pennaf yr 20fed ganrif oedd twf a dylanwad technoleg. Cafodd yr ymchwil a wnaed ym maes technoleg effaith ar feysydd eraill fel cyfathrebu, electroneg, peirianneg, teithio, meddygaeth a rhyfel.Dechreuwyd ddefnyddio offer sylfaenol technolegol yn y cartref o’r 1920au ymlaen gan ennill mwy o boblogrwydd o’r 1950au ymlaen: er enghraifft, peiriant golchi, sychwyr dillad, rhewgelloedd, rhewgistiau, ffyrnau trydan a sugnwyr llwch.  Poblogeiddiwyd y radio fel ffurf o adloniant o’r 1920au ymlaen.  Defnyddiwyd y radio hefyd adeg argyfwng cenedlaethol i gyfathrebu gyda chynulleidfa eang.  Daeth F. D. Roosevelt, Arlywydd America, yn enwog yn ystod ei gyfnod fel Arlywydd am ei ‘sgyrsiau ochr tân’ ar y radio gyda phobl America.  Roedd Winston Churchill hefyd yn defnyddio’r radio fel arf propaganda wrth iddo geisio godi moral bobl Prydain adeg yr Ail Ryfel Byd.  Daeth y teledu yn fwy fwy cyffredin yn ystod y 1950au a’r 1960au.

Hedfanwyd yr awyren gyntaf yn 1903.  Dyfeiswyd yr injan jet fwy cyflym yn ystod y 1940au ac oherwydd hynny daeth teithio awyr o fewn cyrraedd i filiynau o bobl. Daeth cwmnïau teithio masnachol oedd yn darparu gwyliau drwy deithio awyr yn fwy cyffredin.

Roedd datblygiad y ‘linnell gynhyrchu’ yn caniatau adeiladu ceir ar graddfa cyflymach. Ar ddechrau’r 20fed ganrif cwmni ceir Henry Ford yn America oedd yr un cyntaf yn y byd a fedrai gynhyrchu car ar raddfa eang oherwydd y defnydd o’r linnell gynhyrchu.  Hwn oedd y car Ford.

Dyfeiswyd a defnyddiwyd defnyddiau newydd fel dur gloyw, felcro, silicon, tefflon.  Daeth plastigau fel polystyren, PVC, polyethylen a neilon yn fwy cyffredin a dechrau cael eu defnyddio ar gyfer sawl pwrpas gwahanol.  Roedd y defnyddiau newydd hyn yn cynnig cryfder, yn medru goddef tymheredd uchel , ac yn medru gwrthsefyll gwahanol gemegau oedd llawer o ddefnyddiau cyn yr 20fed ganrif yn methu gwneud.  Daeth aliwminiwm yn fwyfwy cyffredin ac yn ail o ran defnydd i haearn.  Datblygwyd miloedd o gemegau ar gyfer cael eu prosesu mewn diwydiant neu ar gyfer defnydd yn y cartref.

Y Chwyldro Digidol[golygu cod]

Cyfrifiadur perspnol 'SPARCstation' o'r 90au cynnar

Ar ddiwedd y 20fed ganrif bu chwyldro digidol a oedd hefyd yn cael ei adnabod, ymhlith enwau eraill, fel yr ‘oes wybodaeth’ neu y ‘chwyldro gwybodaeth’.

Dyfeisiwyd y microsglodyn ar ddechrau’r 1960au. Datblygwyd y microsglodyn ymhellach yn y 1970au ac erbyn cychwyn y 1980au roedd y chwyldro microsglodyn wedi dechrau.  Arweiniodd hyn at y cyfrifiadur personol yn y 1980au, yna at ddyfeisiad ffonau symudol a’r rhyngrwyd byd-eang yn ystod y 1990au.

Erbyn y 1980au a’r 1990au roedd teledu lloeren yn dod yn fwy poblogaidd ac roedd cyfrifiaduron wedi dechrau cael eu defnyddio yn nhai pobl yn ystod y 1970au a’r 1980au.  Daeth camerau digidol yn fwy cyffredin yn ystod y 1980au a’r 1990au.

Roedd radio transistor, traciau 8 sain a thapiau caset yn ystod y 1960au wedi bod yn gamau pwysig yn natblygiad chwaraewyr cerddoriaeth symudol.  Yn raddol disodlodd rhain y chwaraewyr record gyda’r Sony Walkman yn cael ei gyflwyno yn y 1970au.  Wedyn daeth y CD yn ystod y 1980au a’r 1990au.  Gwnaeth ddyfodiad yr MP3 ar y we yn ystod canol i ddiwedd y 1990au dosbarthiad digidol cerddoriaeth yn bosib. Roedd chwaraewyr tapiau fideo (VCRs) yn boblogaidd yn ystod y 1970au ond erbyn diwedd yr 20fed ganrif roeddent wedi dechrau cael eu disodli gan chwaraewyr DVD.  Erbyn diwedd degawd cyntaf yr 21ain ganrif roedd VHS wedi dod i ben.

Bu twf enfawr hefyd yn y diwydiant telegyfathrebu tuag at ddiwedd yr 20fed ganrif gyda cyfathrebu di-wifr yn dod yn gyffredin.  Gwelwyd felly twf mewn rhwydweithiau a chwmnïau ffonau symudol.

Fforio yn y gofod[golygu cod]

Yuri Gagarin. Y person cyntaf i fynd i'r gofod.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd datblygodd Ras Arfau a Ras i’r Gofod rhwng yr archbwerau sef Unol Daleithiau America a’r Undeb Sofietaidd.  Roedd hyn yn rhan o’r Rhyfel Oer.

Teithiau dyn i’r gofod

1961 – Undeb Sofietaidd yn lansio taith ofod Vostok 1, sef taith gyntaf erioed dyn i’r gofod.

1969 – Unol Daleithiau yn lansio Apollo 11 sydd yn glanio’r dyn cyntaf ar y lleuad.

Yn nes ymlaen lansiodd rhaglen ofod yr Undeb Sofietaidd yr orsaf ofod gyntaf.

Llun o'r nifwl Tarantula gan telesgop Hubble.

1981 – yr Unol Daleithiau yn datblygu’r system ofod adnewyddadwy gyntaf.  Hwn oedd Rhaglen Space Shuttle.

Roedd lloerenni Di-griw hefyd yn hanfodol ar gyfer parhau i fforio a darganfod y gofod. Lansiad lloeren Sputnik 1 yn 1957 gan yr Undeb Sofietaidd, sef y lloeren gyntaf erioed i gael ei lansio fewn i’r gofod.  Roedd y lloeren yma’n teithio yn gyson i wahanol fannau yn y gofod. Cafodd nifer o loerenni eu lansio yn nes ymlaen oedd yn teithio o gwmpas y ddaear.  Erbyn diwedd yr 20fed ganrif roedd nifer o loerenni wedi ymweld â’r lleuad, planedau Mercher, Fenws, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws a Neifion yn ogystal ag asteroidau a chomedau eraill. Lanswiyd Telesgop Gofod Hubble yn 1990 oedd yn galluogi bod lluniau o’r bydysawd yn medru cael eu darlledu ar gyfrifiaduron a theledu ar draws y byd.  Roedd hyn yn ddatblygiad pellach yn faint o wybodaeth oedd yn medru cael eu gasglu am y bydysawd a dealltwriaeth dyn o’r bydysawd.

20fed ganrif yng Nghymru[golygu cod]

Daeth dechrau canrif newydd â chyfnod cyffrous o dwf economaidd a newidiadau  gwleidyddol pell-gyrhaeddol yng Nghymru.  Dyma ganrif hefyd a welodd Cymru yn magu mwy o ymwybyddiaeth o’u hunaniaeth fel gwlad ac am ei hiaith a’i diwylliant.[10]

Ar ddechrau’r ganrif roedd cymoedd y de a’r diwydiant glo yn ffynnu ac yn cynhyrchu traean o holl allforion glo'r byd. Ar y naill law, roedd 1910-1913 yn gyfnod o anghydfod diwydiannol gyda streic Chwarel y Penrhyn, a therfysgoedd Tonypandy a Llanelli. Mewn materion gwleidyddol clywid llais y merched am y tro cyntaf gyda chychwyn ymgyrch y Swffragetiaid.  Roedd yn gyfnod o lwyddiant ac optimistaeth fawr, ond buan y tarfwyd arno gyda chychwyn Y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914. Yn ei sgil daeth un o brif ffigurau gwleidyddol amlycaf Cymru’r 20fed ganrif i’r amlwg, David Lloyd George.  Amlygodd y Cymro ei hun fel arweinydd medrus ac adnabyddwyd ef fel ‘y dyn a enillodd y rhyfel’.

Ond er mor deyrngar oedd Cymru i’r Rhyddfrydwyr ar ddechrau’r ganrif gwelwyd newidadau mawr ym map gwleidyddol Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Erbyn y 1920au a’r 1930au roedd de Cymru wedi dod yn gadarnle i’r Blaid Lafur gyda hyd yn oed pocedi o gefnogaeth i’r Blaid Gomiwnyddol, er enghraifft, roedd y Rhondda yn cael ei hadnabod fel ‘Little Moscow’ yn ystod y cyfnod hwn.  Sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925 ac yn ystod y degawdau dilynol enillodd y blaid dir newydd yng Nghymru.

Ym myd gwaith symudodd Cymru o fod yn wlad a oedd yn ddibynnol ar y diwydiannau trwm traddodiadol i fod yn wlad efo economi fwy amrywiol gyda symudiad tuag at waith cynhyrchu fel ceir, swyddi gweinyddol a byd twristiaeth.  Roedd hon yn ganrif a welodd y gwerthoedd traddodiadol crefyddol yn crebachu ac roedd yr hen Gymru Anghydffurfiol a fu’n ddylanwad mor hollbwerus ym mywyd Cymru ar ddechrau’r ganrif wedi colli ei hapêl i genhedlaethau newydd erbyn diwedd y ganrif.

Magodd Gymru hyder cynyddol yn ei hunaniaeth yn ystod y ganrif gyda sefydliadau cenedlaethol yn cael eu sefydlu fel Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa. Meithrinwyd hefyd ymwybyddiaeth a balchder cynyddol yn ei hiaith a’i diwylliant gyda thwf mewn addysg Gymraeg, deddfau iaith yn cael eu pasio a hefyd mudiadau yn cael eu sefydlu er mwyn amddiffyn a hyrwyddo hawliau’r iaith. Cryfhawyd yr ymdeimlad hyn o genedlaetholdeb yn sgil profiadau Cymru yn ystod y ganrif, er enghraifft, y cronfeydd dŵr a agorwyd ar draul dinistrio cymunedau Cymraeg eu hiaith, adeg Boddi Tryweryn a’r defnydd a wnaed o’i thir ar gyfer pwrpas milwrol.   Roedd y 1960au yn gyfnod a welodd newid mewn agweddau tuag at y gwerthoedd traddodiadol y genhedlaeth hyn.  Roedd y genhedlaeth ifanc yn herio’r hen drefn.  Dyma’r cyfnod pan ddatblygodd ‘Y bwlch rhwng cenedlaethau’.   Adlewyrchwyd y newid yma mewn cerddoriaeth boblogaidd Cymraeg.   Ysbrydolwyd hwy gan gynnwrf protestiadau gwleidyddol y cyfnod, er enghraifft, Dafydd Iwan yn cyfansoddi caneuon adeg Arwisgiad 1969 a Meic Stevens.  Wedi i’r Blaid Lafur ennill etholiad 1974, ail-gydiwyd yn y drafodaeth ynghylch ag ymreolaeth i Gymru, ac roedd sefydlu mudiadau fel mudiad ysgolion meithrin yn dyst i’r ffaith nad iaith i’r hen oedd y Gymraeg.

Coronwyd diwedd y ganrif gyda sefydliad gwleidyddol newydd i Gymru.  Etholwyd llywodraeth newydd i Brydain ac mewn refferendwm yn 1997 pleidleisiodd pobl Cymru dros ddatganoli.  Trawsnewidiwyd Bae Caerdydd gan adeiladau trawiadol y Senedd a Chanolfan y Mileniwm.[11]

Blynyddoedd a degawdau[golygu cod]

1900au         1901 1902 1903 1904 1905 1906 1907 1908 1909
1910au 1910 1911 1912 1913 1914 1915 1916 1917 1918 1919
1920au 1920 1921 1922 1923 1924 1925 1926 1927 1928 1929
1930au 1930 1931 1932 1933 1934 1935 1936 1937 1938 1939
1940au 1940 1941 1942 1943 1944 1945 1946 1947 1948 1949
1950au 1950 1951 1952 1953 1954 1955 1956 1957 1958 1959
1960au 1960 1961 1962 1963 1964 1965 1966 1967 1968 1969
1970au 1970 1971 1972 1973 1974 1975 1976 1977 1978 1979
1980au 1980 1981 1982 1983 1984 1985 1986 1987 1988 1989
1990au 1990 1991 1992 1993 1994 1995 1996 1997 1998 1999
2000au 2000

Cyfeiriadau[golygu cod]

  1. "Tiananmen Square incident | Chinese history [1989]". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  2. "Democracy - The spread of democracy in the 20th century". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  3. "Datblygiad Rhyfela" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  4. "rock and roll | History, Songs, Artists, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  5. "Musical performance - The 20th century and beyond". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  6. "Hollywood | History, Movies, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  7. "List of art and design movements of the 20th century". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  8. "Olympic Games | History, Locations, & Winners". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  9. "Was the Big Bang Actually an Explosion?". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  10. "Yn y lle hwn - Hyder o'r newydd". www.webarchive.org.uk. Cyrchwyd 2020-04-03.
  11. "Yn y lle hwn - Cymru fodern". www.webarchive.org.uk. Cyrchwyd 2020-04-03.