Henry Ford

Oddi ar Wicipedia
Henry Ford
Ganwyd30 Gorffennaf 1863 Edit this on Wikidata
Springwells Township Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ebrill 1947 Edit this on Wikidata
Dearborn, Michigan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Detroit Business Institute
  • Bryant & Stratton College Edit this on Wikidata
Galwedigaethentrepreneur, dyfeisiwr, ysgrifennwr, gwleidydd, gyrrwr ceir cyflym, newyddiadurwr, diwydiannwr, entrepreneur busnes Edit this on Wikidata
Swyddsefydlydd mudiad neu sefydliad, CEO of Ford Motor Company Edit this on Wikidata
TadWilliam Ford Edit this on Wikidata
MamMary Litogot O'Hern Edit this on Wikidata
PriodClara Bryant Ford Edit this on Wikidata
PlantEdsel Bryant Ford Edit this on Wikidata
LlinachFord family tree Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Elliott Cresson, Holley Medal, Order of the German Eagle, Adlerschild des Deutschen Reiches, James Watt International Medal, Washington Award, Urdd y Coron, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Diwydiannwr Americanaidd oedd Henry Ford (30 Gorffennaf 18637 Ebrill 1947).[1] Ef oedd sylfaenydd cwmni moduron Ford Motor Company.

Ganed Ford yn Wayne County (Michigan). Cynhyrchodd ei fodur cyntaf yn 1892. Sefydlodd y Detroit Automobile Company, ond methodd y cwmni yn fuan; yna dechreuodd yr Henry Ford Company heb lawer o lwyddiant. Dim ond ar ei drydedd ymgais, gyda'r Ford Motor Company, y cafodd lwyddiant. Cynhyrchodd nifer o wahanol foduron, pob un yn cael ei ddynodi a llythyren, o'r Model A hyd y Model S; ond y Model T a ddaeth a llwyddiant mawr i'r cwmni. Am hwn y gwnaeth Ford ei sylw enwog y gallai'r cwsmer ei gael mewn unrhyw liw, cyn belled a'i fod yn ddu.

Yn ei ffatrioedd, mabwysiadodd ddull newydd o weithio, y "llinell adeiladu", a gwnaeth hyn gynhyrchu modurion mewn niferoedd mawr yn bosibl am y tro cyntaf. Golygai hyn fod y moduron yn llawer rhatach. Priododd Clara Bryant yn 1888, a chawsant un mab, Edsel Bryant Ford.

O 1919 ymlaen, cyhoeddodd y Dearborn Independent, oedd yn cynnwys deunydd dadleuol, peth ohono'n wrth-semitaidd. Ceir elfennau o hyn yn ei hunangofiant hefyd. Yn 1927, ymddiheurodd yn gyhoeddus am hyn a rhoddodd y gorau i gyhoeddi'r cylchgrawn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Henry Ford Is Dead at 83 in Dearborn. The New York Times (8 Ebrill 1947). Adalwyd ar 28 Ebrill 2013.