Yuri Gagarin

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Gofodwr Sofietaidd a'r gofodwr cyntaf i deithio i'r gofod oedd Yuri Gagarin (1934 ger Smolensk - 1968). Lansiwyd ei roced, Vostok 1, ar 12 Ebrill 1961. Treuliodd tua 90 munud yn y gofod, digon i fynd rownd y Ddaear unwaith, cyn glanio yn yr Undeb Sofietaidd. Gwelwyd yr hediad fel buddugoliaeth bropaganda anferth yn ystod y Rhyfel Oer.

Cafodd ei ladd mewn damwain awyren.

Mae cyfeiriadau at Yuri Gagarin yng nghân y Sibrydion, 'Diasbedain'.

Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol